Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Rydym yn cynnig graddau 么l-radd ymchwil sy'n cwmpasu amryw o feysydd arbenigol a rhyngddisgyblaethol mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Tsiein毛eg ac Astudiaethau Cyfieithu. Mae'r berthynas waith glos sydd rhwng y meysydd hyn yn creu lefelau uchel o waith rhyngddisgyblaethol ac ymchwil trawsddiwylliannol helaeth, ac mae hynny i'w weld yn arbenigedd yr ymchwil mewn astudiaethau llenyddol, astudiaethau ffilm, diwylliant gweledol, astudiaethau hanesyddol a chyfieithu. Gellir cynnig cyd-oruchwyliaeth dros bynciau cymharol hefyd. Mae arbenigedd yr ymchwil ym meysydd astudiaethau cyfieithu a diwylliannau ac ieithoedd lleiafrifol hefyd yn darparu ar gyfer diwylliant ymchwil sy'n arbennig o addas ar gyfer cymdeithas ddwyieithog y gogledd.
Fel rheol cewch ddau oruchwylydd a chyfleusterau cyfrifiadurol llawn (gan gynnwys meddalwedd cof cyfieithu), darpariaeth y llyfrgell, ac adnoddau gan gynnwys y llyfrgell ffilm. Mae gan Fangor draddodiad hir o gefnogaeth ragorol i fyfyrwyr. Mae yma gymuned 么l-radd fywiog sydd ar gynnydd, ac mae'r myfyrwyr yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol a chlos.
Gallwn gynnig goruchwyliaeth i raddau 么l-radd mewn amryw o feysydd.
Hyd y Cwrs
PhD: 3-4 blynedd yn llawn-amser, 6 blynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 3 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Fel rheol, dylai'r ymgeiswyr feddu ar radd israddedig anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch a gradd Meistr mewn pwnc perthnasol.
Fel rheol bydd gofyn i'r rhai nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar IELTS 6.5 neu uwch (heb yr un elfen o dan 6.0). Caiff ceisiadau eu hystyried yn unigol bob amser, a chaiff ymgeiswyr hefyd eu barnu yn 么l eu rhinweddau unigol, eu profiad gwaith a'u cymwysterau perthnasol eraill.
Gall myfyrwyr sydd 芒 sg么r gyffredinol o 5.5 ar yr IELTS ddilyn cwrs cyn-sesiwn yn yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).