Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi wneud astudiaeth fanwl ar agwedd o鈥檆h dewis ar ffilm ac astudiaethau sinema. Yn dilyn modiwlau鈥檙 semester cyntaf mewn Dulliau Ymchwil a'r Cyfryngau, Diwylliant a Chreadigrwydd, byddwch yn dechrau ar draethawd hir 40,000 o eiriau (neu broject cyfwerth yn seiliedig ar ymarfer). Bydd staff ffilm arbenigol yng Ngholeg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 wrth law i oruchwylio, wrth i chi ddatblygu, cynnal, cyfnerthu a chwblhau rhaglen waith hunangyfeiriedig ym maes astudiaethau ffilm, naill ai'n greadigol neu'n ddamcaniaethol, dros gyfnod estynedig o amser. Cefnogir yr MRes gan gyfres o seminarau a drefnir gan y coleg, sy鈥檔 rhoi cyfle i chi gyflwyno鈥檙 gwaith sydd ar y gweill gennych, a datblygu dealltwriaeth o fodelau beirniadol ac ymchwil ym Mangor a thu hwnt.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus am y rhaglen hon radd gyntaf mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfwerth, yn ogystal 芒鈥檙 gallu i weithio'n annibynnol i gwblhau project hunangyfeiriedig
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.i dda neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfatebol. Sg么r IELTS o 6.5 (dim cydran yn is 6.0), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Bydd yr MRes Astudiaethau Ffilm yn rhoi hyfforddiant delfrydol i rai sy'n dymuno gweithio yn y diwydiannau creadigol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu sgiliau dadansoddol a beirniadol allweddol ar gyfer y sectorau astudiaethau ffilm a sinema. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen gref i rai sy'n dymuno dilyn astudiaeth ddoethurol gyda golwg ar yrfaoedd mewn addysgu, darlithio ac ymchwil.
Rydym yn ceisio rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad 芒 chyrff perthnasol yn y diwydiant a threfnu amrywiaeth o weithdai a chystadlaethau proffesiynol, e.e. trwy'r cynllun Menter trwy Ddylunio.
Mae cyn-raddedigion wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol (a chysylltiedig), gan gynnwys darlledu a gwneud ffilmiau, hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus, datblygu gemau a thwristiaeth.