Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen meistr trwy ymchwil yn radd ymchwil ôl-raddedig uwch sy'n pwysleisio astudiaeth ymchwil annibynnol â phwyslais ar ymarfer. Gan weithio gyda goruchwyliwr ac ar faes pwnc penodol mae'r rhaglen yn caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar ymchwil. Mae'r radd yn bodoli i hyfforddi ymchwilwyr, a all arwain at waith proffesiynol neu ei defnyddio i baratoi ar gyfer PhD. Gall ddarparu profiad defnyddiol o sut beth yw PhD (Doethur mewn Athroniaeth). Bydd y rhaglen yn dilyn strategaethau ymchwil nodweddiadol y pwnc astudio, gan gynnwys ymchwil gysylltiedig, ystyried safbwyntiau moesegol, edrych ar ddyluniadau amgen, datblygu a gweithredu datrysiadau addas, a gwerthuso'r gwaith. Fel rhan o'r rhaglen, anogir myfyrwyr i ysgrifennu papurau ymchwil priodol, cyhoeddi canlyniadau eu hymchwil ac i hyrwyddo ac amlygu eu hymchwil yn gyhoeddus gyda chyflwyniadau a chynadleddau.
Meysydd Ymchwil
Mae dewis eich pwnc ymchwil yn dasg bwysig. Mae angen cysoni pynciau ymchwil â phynciau grwpiau ymchwil yr Ysgol a hefyd â diddordebau a phrofiadau darpar oruchwyliwr. Dylai ymgeiswyr edrych ar grwpiau ymchwil yr Ysgol, a chynghorir ymgeiswyr i nodi enw darpar oruchwyliwr ymchwil.Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae myfyrwyr yn cwblhau traethawd ysgrifenedig, sy'n cael ei werthuso gydag arholiad llafar viva voce er mwyn cwblhau'r MScRes yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
- Gradd israddedig, mewn maes priodol ac addas ar gyfer y pwnc a gynigir - 2: 1 ac uwch fel rheol.Ìý
- IELTS: 6.5
Yn rhan o'r cais, bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno cynnig ymchwil fel rheol. Bydd hyn yn dangos eich gwybodaeth bresennol ac yn amlinellu nodau ac amcanion a chanlyniadau posibl yr ymchwil.
Ìý
Gyrfaoedd
Mae ymchwil â phwyslais ar ymarfer yn darparu cyfleoedd ar gyfer ystod ehangach o gyfleoedd gwaith. Mae’r cymhwyster yn uchel ei barch gan gyflogwyr oherwydd mae’n rhaid dangos y gallwch feddwl yn feirniadol, dadansoddi, ymchwilio’n annibynnol a thurio’n ddwfn i bwnc penodol. O ganlyniad, bydd yn agor cyfleoedd yn y farchnad swyddi. Gall arwain at broffesiwn penodol, cychwyn busnes newydd ym maes uwch-dechnoleg, swyddi ym myd peirianneg, ymgynghoriaethau, cwmnïau technoleg, sectorau ariannol a busnes, a sectorau eraill gan gynnwys rhaglennu cyfrifiadurol, gemau cyfrifiadurol, rhyngweithio cyfrifiadurol dynol, datblygu gwe, dylunio rhyngwyneb, y diwydiant electroneg, y byd modurol a maes gweithgynhyrchu electronig. Mae'r ymchwil yn darparu profiad i barhau ag astudiaeth ymchwil bellach ar ffurf MPhil neu PhD.Ìý
Gwneud Cais
Y cam cyntaf yw nodi prosiect sy'n eich diddori ac yna cysylltu â'r aelod o staff sy'n ei hysbysebu. Byddant wedyn yn eich cynghori a yw a sut y dylech wneud cais ffurfiol i'r Brifysgol. Wrth gysylltu â goruchwylwyr posibl, dylech amlinellu'n fyr eich cefndir academaidd ac egluro eich diddordeb yn y prosiect yr ydych yn cysylltu amdano, yn ogystal â atodi CV.
Peidiwch â chyflwyno cais uniongyrchol am radd ymchwil ôl-raddedig i Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ heb nodi goruchwyliwr posibl yn gyntaf a thrafod eich diddordebau ymchwil a'ch cais gyda hwy yn gyntaf.