Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Ysgol yn cefnogi ymchwil helaeth a thrwyadl mewn nifer o feysydd, yn cynnwys ecoleg d诺r, ymddygiad anifeiliaid, endocrinoleg, egn茂eg a ffisioleg, ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, bioddiraddio microbaidd a bioasferiad, genomeg micro-organebau a phlanhigion, systemau a thechnoleg planhigion, biogeocemeg gwlypdiroedd, a niwrowyddoniaeth a datblygiad cymharol. Mae graddau ymchwil ar gael mewn pynciau sy'n ymwneud 芒 sbectrwm llawn ein harbenigedd ymchwil. Fe'i cefnogir gan ystod o asiantaethau cyllido cenedlaethol a rhyngwladol ac mae cysylltiadau 芒 phartneriaid diwydiannol ac academaidd ledled y byd.
I gael PhD, sydd fel rheol yn cymryd 3 blynedd yn llawn-amser, mae disgwyl i chi wneud ymchwil annibynnol a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth am y pwnc penodol hwnnw, a chyflwyno honno ar ffurf traethawd ymchwil. Mae'r MPhil fel rheol yn cymryd 2 flynedd i'w gwblhau'n llawn-amser, ac mae hefyd yn cynnwys ymchwil annibynnol a chwblhau traethawd ymchwil, ond gall hyn fod yn estyniad o'r wybodaeth bresennol yn hytrach na chyfraniad gwreiddiol.
Treulir chwe mis cyntaf eich PhD neu MPhil yn mireinio cynnig eich project, ac yn cynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr, a fydd yn cyfrannu at eich traethawd ymchwil terfynol. Byddwch hefyd yn cyflwyno'ch cynnig i weddill y garfan a'r staff goruchwylio. Bydd yr adborth a gewch chi'n eich galluogi i wella'ch project terfynol.
Bydd disgwyl i chi hefyd fanteisio ar y rhaglen hyfforddiant a ddarperir gan Ysgol Graddedigion y Coleg ac Ysgol Ddoethurol y Brifysgol mewn sgiliau pwnc-benodol a generig 么l-raddedig. Rydym yn derbyn cefnogaeth ariannol sylweddol gan y Cynghorau Ymchwil, elusennau, adrannau'r llywodraeth a diwydiannau ym Mhrydain a thramor. Mae ein diddordebau amrywiol yn hwyluso cyfnewid syniadau a thechnegau rhyngddisgyblaethol yn helaeth, ac yn hyrwyddo cydweithredu yn yr Ysgol a chyda chydweithwyr mewn sefydliadau a diwydiant.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad, mae angen gradd anrhydedd dda mewn pwnc biolegol perthnasol neu gyfatebol. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr o dramor ddangos cymhwysedd yn y Saesneg i lefel dderbyniol.