Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd rhaglen y cwrs yn gweddu i raddedigion Gwyddorau Chwaraeon neu Therapi Corfforol sydd 芒 diddordeb mewn adsefydlu trwy ymarfer yn benodol. Cynlluniwyd y cwrs i fod yn hyblyg ac yn berthnasol i anghenion a diddordebau unigol y myfyriwr, gyda phwyslais cryf ar gymhwyso theori i ymarfer proffesiynol.
Hyd y Cwrs
MSc: Blwyddyn yn llawn-amser, astudiaeth ran-amser ar gael hefyd
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae Adsefydlu trwy Ymarfer yn ddisgyblaeth benodol o wyddorau chwaraeon ac ymarfer corff a ddefnyddir mewn poblogaethau gyda'r nod o wella eu hiechyd a'u lles.聽
Bydd y radd MSc Adsefydlu trwy Ymarfer hon yn galluogi graddedigion i ddatblygu a defnyddio egwyddorion ymyrraeth ataliol yn seiliedig ar ymarfer corff, rheoli iechyd a lles, a rhaglenni adsefydlu i unigolion sy'n digwydd mewn amrywiaeth o leoliadau adsefydlu (e.e. heneiddio'n iach, clefydau cronig). Bydd y radd yn cymhathu dulliau corfforol a seicolegol a yrrir gan dystiolaeth sy鈥檔 rhoi persbectif amlddisgyblaethol i fyfyrwyr ar r么l gweithgaredd corfforol a/neu ymarfer corff cyson wrth weithio gydag unigolion mewn lleoliadau adsefydlu.聽
Addysgir y rhaglen trwy ddarlithoedd traddodiadol, seminarau rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un, sesiynau cyfrifiadurol, a gweithdai ymarferol yn y labordy. Disgwylir i fyfyrwyr weithio'n unigol ac mewn grwpiau a chwblhau hunan astudio sylweddol, yn cynnwys prosiectau ymchwil gwyddonol neu draethodau hir.
Mae myfyrwyr yn gweithio mewn lleoliadau labordy a maes, gan gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn senarios a sefyllfaoedd 聽byd go iawn. Asesir y rhaglen gyda chyflwyniadau (gan gynnwys posteri a sgyrsiau), gwaith cwrs, portffolios datblygiad proffesiynol parhaus, ac arddangosiadau ymarferol.聽
Bydd graddedigion yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o'r egwyddorion gwyddonol sy'n pennu iechyd a lles; dangos dealltwriaeth o'r egwyddorion gwyddonol a'r gweithdrefnau ystadegol sy'n sail i gynllunio ymchwil effeithiol, casglu data, a dehongli data mewn gwyddor ymarfer iechyd/clinigol; dangos sut y gellir defnyddio egwyddorion gwyddonol i ddylunio, gweithredu a gwerthuso ymyriadau cleient mewn amrywiaeth o leoliadau adsefydlu; a dangos dealltwriaeth o natur amlddisgyblaethol ymarfer corff clinigol cymhwysol/gwyddor iechyd.
Byddant yn datblygu amrywiaeth o dechnegau ymarferol disgyblaeth-benodol y gellir eu defnyddio wrth gasglu data at ddibenion ymchwil a/neu gymhwysol yn y labordy, yn y maes ac mewn lleoliadau clinigol.
Byddant wedi datblygu ymwybyddiaeth o gyd-destun a sgiliau datrys problemau o ran ystyried sut mae cymhwyso egwyddorion gwyddonol ac ymyriadau ymarferol i leoliadau adsefydlu a byddant yn gallu dehongli a chyfleu data gwyddonol iechyd a lles i gyd-fynd ag anghenion y gynulleidfa (e.e. clinigwyr neu gleifion). Byddant yn gallu dangos ystod eang o sgiliau allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch, ystyriaethau moesegol, gwahaniaethau poblogaeth a r么l addysg, newid ymddygiad a gweithgaredd corfforol wrth wella iechyd y genedl. Felly, bydd graddedigion yn gymwys i asesu a monitro iechyd a lles mewn amrywiaeth o boblogaethau, trwy brofion priodol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymyrraeth presgripsiwn/ ymarfer corff/ffordd o fyw.
Bydd graddedigion hefyd yn ennill sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, sgiliau rhyngweithiol a gr诺p (trwy ymarfer rhinweddau personol allweddol megis tosturi, empathi, hyblygrwydd, a dealltwriaeth), sgiliau ymarfer myfyriol, a sgiliau rhifedd a Thechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Drwy hyn, bydd graddedigion yn gallu dangos proffesiynoldeb yn 么l yr angen yn y gweithle.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Adsefydlu trwy Ymarfer.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth).
Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd 芒 gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd 芒 chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch 芒 ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sg么r o 6.0 neu uwch (dim sg么r unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Gyrfaoedd
Mae holl raglenni 么l-raddedig yr ysgol wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo hynny'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa graddedigion Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer. Mae gyrfaoedd 么l-raddedigion 香港六合彩挂牌资料 yn cynnwys: Sefydliadau chwaraeon y wlad, cyrff llywodraethu cenedlaethol, yr Olympic Medical Institute, timau a sefydliadau chwaraeon proffesiynol, y diwydiant ffitrwydd, y GIG (ysbytai ac ymddiriedolaethau gofal sylfaenol), addysgu ac addysg (ar 么l cwblhau Tystysgrif Addysg 脭l-raddedig). Mae astudiaeth 么l-raddedig bellach (h.y. ymchwil doethurol) yn llwybr galwedigaethol arall.