Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 cwrs hwn wedi'i achredu gan yr Sefydliad Coedwigwyr Siartredig ac yn rhoi cyflawniad rhannol o Aelodaeth Broffesiynol.
Ydych chi'n gyffrous i chwarae rhan mewn newid ein system fwyd i un fwy cynaliadwy? Mae'r rhaglen Meistr Gwyddoniaeth (MSc) hon yn darparu dealltwriaeth fanwl o amaethyddiaeth coedwigoedd fel rhan o system gynhyrchu bwyd gynaliadwy, gan gynnwys ei chydrannau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd yn eich galluogi i weithredu'r ymchwil ddiweddaraf i feddylfryd systemau cynhyrchu cynaliadwy ac yn hwyluso mynediad i yrfaoedd cysylltiedig ag amaethyddiaeth coedwigoedd. Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer pobl 芒 diddordebau yn y sectorau bwyd-amaeth, ffermio, amgylcheddol, cadwraeth, ac amaethyddol, ac yn cwmpasu cyd-destunau tymherus a throfannol.
Ar y cwrs hwn byddwch yn:
- Archwilio'r agweddau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ar amaethyddiaeth coedwigoedd yng nghyd-destun diogelwch bwyd a'r amgylchedd newidiol.
- Astudio sut y gall arferion rheoli amaethyddiaeth coedwigoedd wella effeithlonrwydd adnoddau a chynaliadwyedd cyffredinol cynhyrchu bwyd.
- Ennill persbectif byd-eang i herio a yw a sut y gellir diwallu'r galw cynyddol am fwyd o adnoddau tir cyfyngedig drwy amaethyddiaeth coedwigoedd a dwys谩u cynaliadwy.
Mae'r rhaglen hon yn addas i bobl sydd 芒 diddordebau yn y sectorau bwyd-amaeth, ffermio, amgylcheddol, cadwraeth, a pholisi amaethyddol, ac yn cwmpasu systemau a chyd-destunau tymherus a throfannol.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs hwn?
- Rydym wedi bod yn addysgu amaethyddiaeth coedwigoedd ers dros 25 mlynedd ac mae cyrsiau gradd coedwigaeth ac amaethyddiaeth wedi bod yn rhedeg ers dros 120 mlynedd.
- Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn arweinydd byd-eang mewn amaethyddiaeth coedwigoedd gyda enw da gwych am ei gweithgareddau ymchwil ac addysgu.
- Mae'r cwrs wedi denu myfyrwyr o fwy na 30 o wledydd ac drwy ein cyn-fyfyrwyr a'n partneriaid mae gennym gysylltiadau cryf ag amrywiaeth eang o sefydliadau rhyngwladol, rhanbarthol a chenedlaethol yn Affrica, Asia, Ewrop a'r Amerigau.
- Mae gennym gysylltiadau agos gyda sefydliadau amaethyddiaeth coedwigoedd ac amgylcheddol yn rhyngwladol ac yn y DU fel y聽听补听. Mae staff y sefydliadau hyn yn gwneud cyfraniadau rheolaidd at y rhaglen. Mae ein graddedigion bellach yn gweithio mewn amaethyddiaeth coedwigoedd a gwyddorau cysylltiedig ledled y byd.
- Mae ysgoloriaethau ar gael ar gyfer y cwrs hwn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r elfen a addysgir (120 credyd) yn cynnwys modiwlau sy'n werth 15 credyd ac efallai y bydd yn cynnwys gwaith cwrs a/neu arholiad(au).
Mae modiwlau'n rhedeg mewn fformat cymysg lle caiff y darlithoedd a addysgir ar y campws eu ffrydio'n fyw ar gyfer dysgwyr o bell.
Mae'r elfen traethawd hir (60 credyd) yn cynnwys traethawd hir - prosiect ymchwil annibynnol a arweinir gan y myfyriwr, sydd yn gweithio'n agos gydag uwch-diwtor academaidd i gyflwyno eu hymchwil 么l-raddedig o safon uchel eu hunain.
Gall ymgeiswyr nad ydynt yn dymuno astudio am y MSc llawn (180 credyd) gymryd dyfarniadau gadael naill ai o Dystysgrif 脭l-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma 脭l-raddedig (120 credyd).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar dudalen Modiwlau y cwrs Llawn Amser lle ceir eglurhad o'r credydau byddwch yn ei gymryd ar y cwrs rhan amser.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(i) mewn pwnc perthnasol, e.e. Amaethyddiaeth, Coedwigaeth, Gwyddorau Amgylcheddol, Ecoleg, Gwyddorau Cadwraeth, Datblygiad Cynaliadwy, Daearyddiaeth neu Wyddorau Biolegol. Fel arall, efallai y derbynnir gradd gyntaf mewn pwnc heb berthynas, ynghyd 芒 phrofiad ymarferol perthnasol. Caiff ymgeiswyr eu barnu yn 么l eu teilyngdod unigol. Ystyrir profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd. Mae myfyrwyr gyda graddau mewn coedwigaeth, amaethyddiaeth, daearyddiaeth, bioleg, astudiaethau amgylcheddol, economeg, cyfraith, gwyddorau cymdeithasol, athroniaeth a ieithoedd modern wedi graddio o'r cwrs hwn.
Gofynnir am IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen islaw 5.5).
Gyrfaoedd
Mae myfyrwyr presennol a graddedigion diweddar wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd mewn rheolaeth ymchwil naturiol a diogelwch bwyd. Mae'r rolau hyn yn cynnwys ymgynghorwyr a rheolwyr mewn amaethyddiaeth, amaethyddiaeth fusnes ac amgylchedd, yn ogystal 芒 rolau polisi ac eiriolaeth ar gyfer llywodraeth neu sefydliadau anllywodraethol. Mae eraill wedi parhau 芒'u haddysg gyda PhD, yn gweithio fel ymchwilwyr ac yn addysgu/hyfforddi eraill yn y maes. Mae rhagolygon gyrfa hefyd yn cynnwys dyrchafiad i'r rhai sy'n gweithio eisoes mewn amaethyddiaeth coedwigoedd neu broffesiynau cysylltiedig.