Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Defnyddiwch y cod UCAS perthnasol wrth wneud cais am y cwrs hwn:聽
- Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth (Dysgu Cyfunol) MSc, 1 flwyddyn yn llawn amser; 2 flynedd yn rhan-amser, 3 blynedd rhan-amser, cod UCAS: B7DZ (Cyf: MSC/PPHLP) 聽
Am gyfarwyddiadau ar sut i wneud cais am y cwrs hwn, darllenwch y聽cyfarwyddiadau hyn.
Mae'r syniad bod atal yn well na gwella yn fwy perthnasol nag erioed. Yn wir, wrth afiechydon lluosog ac anhwylderau hir dymor y mae鈥檔 bosib eu hosgoi鈥檔 effeithio鈥檔 gynyddol ar boblogaethau, mae gwir angen canolbwyntio ar atal salwch. Mae atal salwch yn ymwneud 芒 helpu pobl i gadw'n iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae'n golygu atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf; canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, nid dim ond eu trin pan fyddant yn mynd yn s芒l. Yn wir, nid diffyg salwch neu wendid yn unig yw iechyd ataliol, ond meddu ar set o adnoddau personol sy鈥檔 rhaid eu meithrin a'u datblygu i sicrhau iechyd meddwl ac iechyd corfforol da. Yn ogystal, nid yw iechyd ataliol yn rhywbeth y gall y system iechyd a gofal cymdeithasol ei ddatrys ar ei ben ei hun, gan fod llawer o agweddau sy'n dylanwadu ar iechyd da sydd y tu hwnt i reolaeth y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid ymgorffori ymwybyddiaeth o degwch iechyd ac ymrwymiad iddo yn narpariaeth gofal iechyd er mwyn i iechyd ataliol lwyddo trwy鈥檙 gymdeithas gyfan.
Mae鈥檙 cwrs Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth (Dysgu Cyfunol) MSc yn darparu hyfforddiant i arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i reoli ac arwain arloesi effeithiol mewn ymarfer yn eu sefydliadau, gan ganolbwyntio ar iechyd ataliol a thegwch. Bydd y rhaglen hon yn rhoi鈥檙 sgiliau a鈥檙 wybodaeth angenrheidiol i chi gynllunio, datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol ar gyfer eich sefydliad, gan ddefnyddio鈥檙 ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd ataliol, tegwch a theori arweinyddiaeth effeithiol. Yn ogystal, cewch gyfle i gynllunio ymchwil, casglu data, a chymhwyso eich canfyddiadau eich hun yn eich gwaith er mwyn gweithredu newid cadarnhaol. Trwy weithdai, darlithoedd ac asesiadau 芒 chymorth, cewch eich grymuso i ddatblygu diwylliant cydweithredol yn eich sefydliad a fydd yn cynyddu gallu'r gweithlu i gyflawni dyheadau鈥檙 ddogfen 鈥淐enedl Iachach鈥 yn effeithiol.
Y rhaglen hon yw'r gyntaf i gael ei chynnig o dan arweiniad ALPHAcademi Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 (Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol), sy'n rhan o raglen Academ茂au Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru. O dan y fenter hon datblygwyd canolfannau ym mhrifysgolion Cymru sy鈥檔 cynnig ymchwil ac addysg i gefnogi gallu proffesiynol ac arweinyddiaeth systemau sy'n addas at yr heriau sy鈥檔 wynebu systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac i'r dyfodol. Bydd yr ALPHAcademi yn canolbwyntio ar gyflymu鈥檙 gwaith o hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol mewn 聽ymarfer ar draws y system gofal iechyd integredig (e.e. iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a gwyddor bywyd) ac mewn cyd-destun dwyieithog. Bydd yn datblygu rhwydwaith o arweinwyr gwybodus, deinamig sy鈥檔 gallu ysgogi newid er mwyn rhoi sylw i iechyd a鈥檙 heriau cymdeithasol cysylltiedig.
Beth mae'r rhaglen hon yn ei gynnig?
- Eich galluogi i reoli ac arwain arloesi mewn ymarfer ac mewn modd effeithiol yn eich sefydliad, gan sicrhau bod systemau dysgu, monitro a gwerthuso proffesiynol yn cyd-fynd 芒 bwriadau strategol y sefydliad.
- Rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi allu meithrin gwytnwch ledled eich sefydliad.
- Datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol yn eich sefydliad, gan gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf mewn iechyd ataliol (yn genedlaethol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol) ynghyd 芒 theori arweinyddiaeth effeithiol.
- Eich grymuso i ddatblygu diwylliant cydweithredol sy'n cynyddu gallu'r gweithlu i gyflawni dyheadau鈥檙 ddogfen 鈥淐enedl Iachach鈥 yn effeithiol.
- Eich galluogi i gasglu a defnyddio data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Cyflwynir y rhaglen hon trwy gyfuniad hyblyg o weithdai, seminarau a darlithoedd i gyd-fynd ag anghenion ymgeiswyr sy'n gweithio.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Atal, Iechyd Poblogaethau ac Arweinyddiaeth (Dysgu Cyfunol).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Dylai鈥檙 darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch), yn ogystal 芒 datganiad personol cryf a geirda(on) (academaidd a/neu鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gwaith).
Bydd yn bosib trosglwyddo credydau ac Achrediad Dysgu trwy Brofiad Blaenorol (uchafswm o 40 credyd ar Lefel 7). Os ceisir trosglwyddo credydau yn achos modiwlau hyfforddedig dulliau ymchwil, rhaid bod wedi eu cwblhau o fewn y 5 mlynedd diwethaf.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, sg么r IELTS o 6.0 (heb yr un elfen o dan 5.5), neu gyfwerth.
Dim ond i fyfyrwyr rhyngwladol sy鈥檔 astudio鈥檔 llawn amser y mae鈥檙 rhaglen dysgu cyfunol hon ar gael. Fodd bynnag, mae'r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol astudio yn rhan amser trwy ddysgu o bell.聽
E-bostiwch ahepw@bangor.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen hon yn debygol o apelio at y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth fel rhan o'u DPP rheolaidd neu at ddibenion uwchsgilio. Mae hyn yn golygu y bydd graddedigion mewn gwell sefyllfa i barhau neu symud ymlaen yn eu gyrfa bresennol. Bydd gan y rhai sy'n ceisio dilyn gyrfa newydd fynediad i amrywiaeth eang o yrfaoedd sy'n canolbwyntio ar iechyd ataliol. Gan fod ganddynt wybodaeth am ffactorau sy'n ymwneud 芒 thegwch iechyd a chynhwysiant cymdeithasol, bydd ganddynt y sgiliau fod yn arweinwyr ar draws gwasanaethau a sectorau, gan gynnwys sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn sectorau statudol ac anstatudol.