Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglenni hyn wedi'u hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen hon yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 a chymhwyster Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.
Dros y ddau neu dri degawd diwethaf, mae bancio a chyllid Islamaidd wedi amlygu ei hun fel dull arall hyfyw o ymdrin 芒 chyfryngiadau ariannol. Mae'r dull wedi ennill hygrededd ac wedi lledaenu ledled y byd a bellach dyma'r dull bancio sy'n cael ei ffafrio gan un rhan o bump o boblogaeth y byd. Mae'r graddau MSc/MBA hyfforddedig hyn yn gyfle i astudio strwythur y diwydiant bancio a chyllid Islamaidd, gan edrych ar sylfeini damcaniaethol, cynhyrchion, perfformiad, offerynnau ariannol Islamaidd a materion yn ymwneud 芒 rheoli risg. Bydd y pynciau hyn ymysg eraill yn cael eu hastudio yng nghyd-destun y diwydiant bancio a chyllid byd-eang yn ehangach.
Mae'r MSc yn addas i fyfyrwyr 芒 rhywfaint o gefndir blaenorol mewn mathemateg, ystadegau neu econometreg, tra mai nod yr MBA yw datblygu swyddogion gweithredol a fydd yn symud ymlaen yn gyflym i swyddi uwch reolwyr mewn sefydliadau ariannol sy'n gwneud trafodion busnes yn 么l egwyddorion Islamaidd.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn amser. Derbynnir myfyrwyr i'r cyrsiau hyn ym mis Ionawr a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bancio a Chyllid Islamaidd.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglenni MSc/MBA mewn Bancio a Chyllid Islamaidd mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.