Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Drwy gwblhau pob arholiad ar y cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu cael 11 eithriad o'r聽. I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau CIMA ewch i'n聽tudalen Cydnabyddiaeth ac Achrediadau Proffesiynol.
Mae'r rhaglen radd hon yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr).
Mae newidiadau yn yr amgylchedd busnes yn golygu bod angen i unigolion sy'n dymuno swydd fel uwch reolwyr fod yn ymwybodol o ddatblygiadau cyfoes mewn cyfrifeg a chyllid. Mae deall y materion damcaniaethol ac ymarferol hyn yn hanfodol i reolwyr sy'n aml yn gorfod gwneud penderfyniadau cyflym a phellgyrhaeddol ynghylch gweithrediadau ariannol tymor byr a strategaethau tymor hir busnesau.
Mae'r MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn cynnig cyfle unigryw i chi werthfawrogi achosion ac arwyddoc芒d datblygiadau cyfredol yn y sector ariannol a'r sector gorfforaethol, ac i astudio theori ac ymarfer uwch sy'n ymwneud 芒 chyfrifeg a chyllid. Nod y rhaglen yw darparu i raddedigion, ac unigolion eraill sydd wedi cael hyfforddiant cyfrifeg ac ariannol ymarferol, yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddilyn gyrfa broffesiynol ar lefel uwch mewn cyfrifeg, gwasanaethau ariannol neu sectorau cysylltiedig o'r economi.
Cynlluniwyd y rhaglen i ddatblygu eich sgiliau presennol trwy astudiaethau arbenigol uwch. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol i chi, er mwyn i chi fod yn gyfarwydd 芒'r datblygiadau damcaniaethol ac ymarferol diweddaraf sy'n ymwneud 芒 chyfrifeg a chyllid. Mae'r rhaglen yn darparu fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, ond mae'r pwyslais drwyddi draw ar ddefnyddio technegau cyfrifeg a thechnegau ariannol yn ymarferol mewn lleoliad yn y byd go iawn.
Llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig)
Mae llawer o鈥檔 rhaglenni gradd yn rhoi'r cyfle i ddilyn llwybr arbenigol CFA (Dadansoddwr Ariannol Siartredig) a chael y sgiliau i sefyll arholiad CFA Lefel 1 (i fyfyrwyr sy'n cael eu derbyn ym mis Medi a mis Ionawr). Erbyn hyn, y CFA yw鈥檙 cymhwyster proffesiynol uchaf ei barch ym maes cyllid yn y byd i gyd.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn yn astudio modiwl newydd o'r enw Ymchwil Ariannol a Chyfres CFA yn ystod yr haf. Bydd myfyrwyr yn mynd i seminarau ymchwil ym mis Mehefin ac yna鈥檔 cael hyfforddiant arbenigol i鈥檞 paratoi at yr arholiad CFA Lefel 1 a ddarperir gan聽, sy'n ddarparwr addysg CFA cydnabyddedig ac achrededig. Bydd y dysgu鈥檔 cynnwys dau ddiwrnod o seminarau ymchwil ym mis Mehefin a phum bloc deuddydd o hyfforddiant, ynghyd 芒 dau floc ychwanegol o adolygu yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Bydd asesiadau yn dilyn y seminarau a'r hyfforddiant CFA.
Ni chodir unrhyw ffioedd ychwanegol ar fyfyrwyr sy'n dilyn y llwybr hwn.
Ond bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru gyda鈥檙 CFA Institute a thalu er mwyn sefyll yr arholiad. Telir ffioedd cofrestru ac arholiad i'r聽.
Gallwch gofrestru ar y llwybr CFA hwn ar 么l i chi gyrraedd 香港六合彩挂牌资料. Os hoffech wneud ymholiadau ymlaen llaw, cysylltwch ag聽owain.apgwilym@bangor.ac.uk.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifeg a Chyllid.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MSc Cyfrifeg a Chyllid mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon ein graddedigion yn rhagorol os ydynt am ddilyn gyrfa mewn ystod eang o swyddogaethau yn sectorau'r economi fyd-eang gan gynnwys cyfrifeg, busnes, bancio a chyllid. Mae pwyslais y rhaglenni ar sicrhau dealltwriaeth ymarferol yn gwella cyflogadwyedd myfyrwyr ac yn eu galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt yn y sectorau uchod. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol wrth gynnal ymchwil annibynnol ac wrth weithio mewn t卯m.
Mae gan raddedigion Ysgol Busnes 香港六合彩挂牌资料 record lwyddiannus o ran cyflogadwyedd ac mae rhai o'n cyn-fyfyrwyr bellach yn cael eu cyflogi mewn swyddi uwch ledled y byd, o Stryd Downing a'r Deutsche Bank i Accenture Luxembourg ac Awdurdod Ariannol Ynysoedd y Caiman.