Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae dadansoddeg data yn denu cryn dipyn o sylw rhyngwladol, ac mae鈥檙 galw presennol a鈥檙 galw a ragwelir am raddedigion medrus ym maes dadansoddeg data yn llawer mwy na鈥檙 nifer sydd ar gael. Bu twf aruthrol yn ddiweddar yn yr angen am arbenigedd ym maes dadansoddeg data (e.e. data mawr, ym maes technoleg ariannol, ac ym maes marchnata). Mae tueddiadau cryf a pharhaus yn ymddangosiad cynyddol data wedi arwain at gyflogwyr mewn diwydiannau a busnesau amrywiol yn chwilio am staff gyda sgiliau lefel 么l-radd mewn dadansoddi data.
Mae ein rhaglen MSc yn canolbwyntio'n benodol ar gyflogadwyedd a rhoi鈥檙 sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr i lwyddo mewn amrywiaeth o swyddi posib. Mae MSc Dadansoddeg Data Busnes Ysgol Busnes 香港六合彩挂牌资料 yn cynnig darpariaeth arbennig oherwydd ein cryfderau ym maes bancio, cyllid, buddsoddi a marchnata.
Fel myfyriwr graddedig o鈥檙 rhaglen hon, byddwch yn deall bod data鈥檔 gynyddol bwysig mewn sawl agwedd ar ein bywydau bob dydd a鈥檔 gyrfaoedd. Bydd y sgiliau a ddatblygir ym maes dadansoddi data, dulliau ystadegol a chymwysiadau meintiol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr a bydd galw mawr amdanynt mewn amrywiaeth o sectorau busnes. Byddwn yn meithrin dealltwriaeth o sut mae diwydiannau gwahanol yn defnyddio dadansoddi data, sut i fodelu data gan ddefnyddio rhaglenni uwch ac ieithoedd codio, a sut i gyfleu eich dealltwriaeth i greu newid ystyrlon. Byddwch hefyd yn meddu ar y gallu i weithio'n annibynnol i gasglu gwybodaeth ddefnyddiol i'ch cyflogwr neu eich busnes eich hun.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs hwn?聽
- Mae鈥檙 galw am raddedigion MSc mewn dadansoddeg data yn fwy na'r nifer sydd ar gael.
- Byddwch yn datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt mewn llawer o sectorau busnes.
- Cewch ddewis apelgar o brojectau a thraethodau hir.
- Mae arbenigedd nodedig 香港六合彩挂牌资料 ym maes bancio a chyllid yn rhan greiddiol o鈥檙 rhaglen hon.
- Derbynnir myfyrwyr newydd ym mis Ionawr a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Cyflwynir y rhaglen gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dysgu gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau gr诺p bach a thiwtorialau, labordai cyfrifiaduron a goruchwyliaeth gan staff academaidd. Bydd cyfle i wneud gwaith cydweithredol a gwaith gr诺p yn yr amrywiaeth eang o ddulliau asesu. Yn ogystal 芒鈥檙 ddau brif semester, mae cyfnod yr haf yn rhoi cyfle hanfodol i wneud gwaith project, traethodau hir ac astudiaeth annibynnol bellach.
Mae'r rhaglen hon yn darparu craidd o fodiwlau mewn codio/rhaglennu, gwyddor data, technoleg ariannol, methodoleg ymchwil a thechnegau ystadegol. Yn ychwanegol, rhoddir sylw manwl i ddatblygu'r sgiliau sy鈥檔 angenrheidiol i ddefnyddio'r rhaglenni hyn mewn amrywiaeth o gymwysiadau busnes a chyllid.
Ceir modiwlau dewisol mewn entrepreneuriaeth, marchnadoedd ariannol, rheoli gwybodaeth a rheoli portffolio fydd yn eich galluogi i gyfuno鈥檙 sgiliau technegol ag arbenigedd mewn meysydd eraill y gall eich diddordebau fod ynddynt a datblygu鈥檙 diddordebau hynny. Byddwch yn datblygu sgiliau technegol ac yn dysgu am gymwysiadau ymarferol y sgiliau hyn i broblemau busnes ar draws amrywiaeth o sectorau diwydiant fel cyllid a buddsoddi, marchnata ac iechyd.
Ceir amryw o ddewisiadau yn y project haf, gan gynnwys y dewis i ymgymryd 芒 hyfforddiant Dadansoddwr Ariannol Siartredig (CFA). Mae'r CFA yn gymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang yn y diwydiant cyllid a buddsoddi. Bydd myfyriwr graddedig MSc o Fangor sydd ag arbenigedd mewn dadansoddeg data a鈥檙 maes llafur CFA mewn arbennig unigryw o dda i gael gyrfa ym maes cyllid neu fuddsoddi.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd gyntaf dda (2.ii neu uwch) neu gymhwyster cyfatebol gan brifysgol neu gorff cymeradwy arall sy'n dyfarnu graddau. Fel arall, gellir ystyried eich cais os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol cymeradwy a phrofiad ymarferol perthnasol. Ystyrir hefyd ymgeiswyr nad oes ganddynt radd ffurfiol neu gymhwyster proffesiynol, ond sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad rheoli cymeradwy.
Gofynnwn i bob ymgeisydd gyflwyno CV gyda'u cais i gadarnhau eu bod yn gymwys ar gyfer llwybr penodol.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Saesneg ysgrifenedig a llafar: Sg么r IELTS o 6.0 (dim cydran o dan 5.5) neu gyfwerth.
Sylwer: Mae鈥檔 bosib y bydd rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y lefelau Saesneg gofynnol fynd ar gwrs Saesneg dwys cyn dechrau astudio ar y cwrs. Mae cyrsiau o'r fath ar gael ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae maes dadansoddeg data yn llawn cyfleoedd ac yn sicr o dyfu yn y dyfodol, sy'n arwain yn naturiol at gyfeiriadau gyrfa a chyflogau rhagorol. Bydd graddedigion y rhaglen MSc hon wedi cael paratoad da i weithio mewn llawer o swyddi posib mewn amrywiaeth o sectorau yn yr economi byd-eang. Mae'r twf cyflym yn y broses o gynhyrchu a defnyddio data yn creu galw cynyddol am arbenigwyr cymwys sydd 芒'r gallu a'r sgiliau i ddeall y data a gwneud defnydd ohono. Mae sawl adroddiad wedi nodi y bydd y rhan fwyaf o gwmn茂au'n mabwysiadu technolegau dadansoddi data yn ystod y degawd nesaf. Bydd cefndir mewn dadansoddeg data yn cynnig cyfleoedd mewn llawer o adrannau a swyddogaethau mewn sefydliadau yn y sector preifat a chyhoeddus. Gall swyddi yn y dyfodol gynnwys: Gwyddonydd data, dadansoddwr data, dadansoddwr gwybodaeth busnes, pensaer data, dadansoddwr systemau busnes, dadansoddwr ariannol, dadansoddwr marchnata, dadansoddwr gofal iechyd, dadansoddwr cyfryngau cymdeithasol, dadansoddwr data gwleidyddol.