Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau ar gyfer mynediad Medi 2023. Bydd ceisiadau ar agor yn fuan ar gyfer mynediad Medi 2024, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Mae MSc Ecoleg Prif Ysglyfaethwr y Môr yn gwrs llawn amser, blwyddyn o hyd, sy'n cynnwys dau semester hyfforddedig a phroject ymchwil annibynnol. Byddwch yn astudio modiwlau arbenigol, a fydd yn eich cyflwyno i sgiliau maes a sgiliau meintiol wrth astudio prif ysglyfaethwyr y môr ac ymchwil eigionegol, a phynciau mwy astrus ym maes ecoleg feintiol generig y môr. Byddwch yn dechrau ar y gwaith paratoi cychwynnol ar gyfer y traethawd ymchwil yn gynnar ym mis Ionawr, er y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd o ddiwedd mis Mai hyd fis Medi. Mae prif ysglyfaethwyr y môr, gan gynnwys mamaliaid môr, adar môr, a siarcod, yn elfennau pwysig o ecosystemau’r moroedd. Maent fel arfer yn crwydro ardaloedd eang ac yn dibynnu ar ysglyfaeth ysbeidiol sydd â chysylltiad agos ag amgylchedd môr ffisegol ddeinamig. Felly, mae deall sut mae poblogaethau prif ysglyfaethwyr y môr yn ymwneud â'r amgylchedd morol yn hanfodol ar gyfer eu cadwraeth. Fodd bynnag, er mwyn ymchwilio a monitro’r anifeiliaid anamlwg hyn sy’n treulio rhan neu’r cyfan o’u bywydau o dan y dŵr, mae angen dulliau maes a dulliau technolegol a meintiol arbenigol sy’n ystyried eu ffisioleg a’u hymddygiad unigryw, ochr yn ochr â’u hamgylchedd morol. Mae’r cwrs heriol hwn yn unigryw o ran ei ddull amlddisgyblaethol – mae’n dod ag arbenigedd blaenllaw yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym meysydd ecoleg ysglyfaethwyr y môr ac eigioneg at ei gilydd.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Mae’r cynnwys pynciol yn hynod berthnasol i anghenion y dydd sydd ohoni o ran cadwraeth forol a datblygiadau alltraeth.
- Mae'r cwrs yn cysylltu eigioneg ag ecoleg prif ysglyfaethwyr y môr.
- Byddwch yn ennill sgiliau meintiol o ansawdd uchel.
- Mae gennym gyfleusterau rhagorol o ran labordai a llongau.
- Rydym wedi ein lleoli mewn amgylchedd delfrydol ar gyfer astudio prif ysglyfaethwyr y môr.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Trwy'r modiwlau arbenigol, byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio dulliau meintiol allweddol ac yn cael eich cyflwyno i ddulliau cyfoes o fonitro ac ymchwilio i brif ysglyfaethwyr, gan eich galluogi i gofnodi faint ohonynt sydd, eu dosbarthiad a'u hymddygiad mewn perthynas â'u cynefin ffisegol.
Mae’r modiwlau arbenigol yn manteisio ar y cymunedau cyfoethog a thoreithiog o brif ysglyfaethwyr y môr a geir yng ngogledd Cymru, a byddwch yn astudio anifeiliaid mewn amrywiaeth o leoliadau a lleoliadau. Cânt eu hategu gan fodiwlau sylfaenol sy'n ymdrin â phynciau ecolegol ac eigionegol, gan roi'r i chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddilyn ystod o yrfaoedd yn ymchwilio, monitro neu warchod y rhywogaethau hyn. Bydd y modiwlau sylfaenol hefyd yn archwilio’r cynefinoedd amrywiol o amgylch yr Ysgol Gwyddorau Eigion ac yn defnyddio ein llong ymchwil a’n cychod bach. Yna byddwch yn cymhwyso'r sgiliau meintiol ac ymarferol yr ydych wedi'u magu mewn project annibynnol, lle byddwch yn dilyn pwnc ymchwil o ddiddordeb dros gyfnod yr haf.
Addysgir llawer o sgiliau arbenigol ar y cwrs, gan gynnwys:
- Arolygon Llinell a Thrawslun
- Arolygon ar y lan
- Modelu Dosbarthiad Rhywogaethau
- Adnabod Mamaliaid Morol
- Dadansoddiad Marcio ac Ail-ddal
- Modelu Symudiad o ddata Biogofnodi
- Modelu Poblogaethau
- Monitro acwstig
- Mesuriadau Eigionegol yn y fan a'r lle
- Mesuriadau Eigionegol synhwyro o bell
Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt, megis:
- Ystadegau R
- MATLAB
- Uwch-fodelu ecolegol
- GIS
How will you learn on this course?
Fel myfyriwr Meistr ôl-radd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion, bydd y rhan fwyaf o'ch addysgu yn digwydd yn yr ystafell bwrpasol i’r cwrs Meistr ar y safle ym Mhorthaethwy. Cynhelir y rhan fwyaf o'ch darlithoedd yno, ac mae ystafelloedd seminar, ardaloedd cyfrifiaduron a mannau dysgu cyffredinol hefyd ar gael yn gyfan gwbl i'r dosbarthiadau MSc. Gwneir rhywfaint o’r addysgu megis sesiynau cyfrifiadurol ymarferol ar y prif safle ym Mangor.
Mae ein rhaglenni MSc i gyd yn rhoi pwyslais cryf ar weithgarwch ymarferol, yn waith labordy a gwaith maes - gyda'r gwaith maes yn digwydd yn yr amgylchedd naturiol yn lleol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i hwylio ar ein llong ymchwil, y Prince Madog, i gasglu data a samplau.
Mae gan yr Ysgol ddiwylliant addysgu ac ymchwil bywiog y byddwch yn cael profiad ohono ac yn cyfrannu ato. Mae hyn yn ffurfio sylfaen annatod i’r addysgu ôl-radd a byddwch fel rheol yn ymuno ag ymchwilwyr gweithredol fel rhan o'ch project ymchwil personol eich hun.
Byddwch yn cael profiad o’n diwylliant addysgu blaengar ac yn cael eich addysgu trwy amrywiaeth o ddulliau ac asesiadau a fydd yn datblygu eich sgiliau pwnc-benodol, sy'n berthnasol i’r diwydiant.
Specialist course facilities
- Llong Ymchwil y Brifysgol - y Prince Madog.
- Systemau caffael data maes eigionegol ac ecolegol o'r radd flaenaf.
- Ystafell ddysgu benodol i’r cwrs Meistr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion.
Gofynion Mynediad
O leiaf gradd BSc (Anrhydedd) 2.i (neu gyfwerth) yn y gwyddorau biolegol neu eigioneg. Disgwylir i ymgeiswyr ddangos diddordeb amlwg mewn uwch ddulliau meintiol a modelu ym maes ecoleg anifeiliaid a/neu eigioneg yn eu datganiad personol. Rhaid wrth ystod dda o sgiliau TG, gan gynnwys gallu defnyddio pecynnau prosesu geiriau, taenlenni, pecynnau meddalwedd cyflwyno, a defnyddio e-bost a'r rhyngrwyd.
Mae profiad o godio (e.e. R, Python, Matlab), dadansoddi data gofodol (e.e. ArcGIS, QGIS), neu ystadegau lefel graddedig neu galcwlws yn ddymunol ond nid yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried yn unigol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol.
Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg neu Gymraeg fel iaith gyntaf ddarparu tystiolaeth foddhaol o’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Saesneg ysgrifenedig a llafar: IELTS 7.0 (heb unrhyw elfen o dan 6.5). Os nad ydych wedi llwyddo i gyrraedd yr isafswm lefel iaith Saesneg sy'n ofynnol ar gyfer y cwrs hwn, gallwch wneud cais i ddilyn cwrs Saesneg cyn-sesiynol ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Am fanylion llawn am y gofynion iaith Saesneg, yr ystod o brofion hyfedredd Saesneg a dderbynnir a chyrsiau iaith Saesneg dwys sydd ar gael ewch i'n tudalennau Gofynion Iaith Saesneg.
Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan mai nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar y cwrs hwn.
Gyrfaoedd
Mae’r MSc Ecoleg Prif Ysglyfaethwyr y Môr nid yn unig yn cynnig gwybodaeth wyddonol gadarn am amgylchedd y môr a chadwraeth, ond hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar y sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi bri arnynt.
Yn dibynnu ar y modiwlau arbenigol a ddewiswch, gallwch wneud cais am swyddi ar draws ystod eang o ddisgyblaethau megis cadwraeth, addysg/ymgysylltu â'r cyhoedd, ymgynghori amgylcheddol, asesu effaith amgylcheddol, rheoli’r môr neu wneud astudiaeth ôl-radd bellach. Gall hyn arwain at ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant, prifysgolion, cyrff anllywodraethol a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thramor.