Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymhwyso dealltwriaeth seicolegol i anawsterau sy'n gysylltiedig 芒 phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol. Cewch eich cyflwyno i'r theori a'r wybodaeth sy'n sail i ymarfer effeithiol ym maes seicoleg glinigol ac iechyd, byddwch yn ystyried hyn mewn perthynas ag amrywiaeth o gyflyrau, yn ennill dealltwriaeth o'r amrywiaeth o ddulliau ymchwil a ddefnyddir gan seicolegwyr clinigol, ac yn gwneud eich project ymchwil eich hun mewn maes perthnasol.
Bydd cysylltiadau agos yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol a gwasanaethau lleol y GIG yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i seicoleg glinigol gydweithredol. Mae ymchwilwyr yn yr ysgol yn defnyddio amrywiaeth eang o'r technegau diweddaraf i ddeall cysylltiadau ymddygiad yr ymennydd, gan gynnwys mapio gweithredoedd swyddogaethol yn yr ymennydd gyda photensialau cysylltiedig 芒 digwyddiadau (ERP), ysgogiad magnetig trawsgreuanol (TMS) a delweddu cyseiniant magnetig swyddogaethol (fMRI). Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddefnyddio'r offer a'r technegau diweddaraf.
Sut y gall y cwrs eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa
Bydd y cwrs hwn o ddiddordeb arbennig i:
- raddedigion mewn seicoleg sy'n anelu at yrfa mewn seicoleg glinigol ac nad oes ganddynt brofiad gwaith perthnasol eto. Mae cwblhau'r MSc yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cael cyflogaeth fel seicolegydd cynorthwyol a chael mynediad i hyfforddiant clinigol yn ddiweddarach.
- graddedigion mewn seicoleg sy'n anelu at yrfa mewn seicoleg glinigol ac sydd eisoes wedi cael profiad gwaith perthnasol. Mae cwblhau'r cwrs MSc yn darparu tystiolaeth o sgiliau academaidd ac ymchwil, sy'n werthfawr wrth wneud ceisiadau am hyfforddiant clinigol.
- graddedigion mewn seicoleg neu ddisgyblaethau sy'n perthyn yn agos ac sy'n awyddus i wneud ymchwil ym maes seicoleg glinigol. Mae'r cwrs MSc yn darparu hyfforddiant ymchwil priodol i'r rhai sy'n dymuno symud ymlaen i PhD neu gyflogaeth mewn swydd ymchwil.
- gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys gyda chefndir academaidd priodol sy'n dymuno ehangu eu dealltwriaeth o seicoleg glinigol. Mae hyfforddiant seicoleg glinigol yn y DU yn cynnwys cwblhau rhaglen hyfforddi tair blynedd sy'n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg glinigol a chymhwysedd i wneud cais am statws seicolegydd clinigol siartredig. Ariennir yr hyfforddiant gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac mae bron pob hyfforddai yn mynd ymlaen i weithio yn y GIG ar 么l cymhwyso. Mae mynediad i'r rhaglenni hyn yn hynod gystadleuol a rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau academaidd ac ymchwil da yn ogystal 芒 phrofiad gwaith perthnasol, fel arfer dwy flynedd mewn swydd seicolegydd cynorthwyol amser llawn 芒 th芒l neu gyfwerth. Nod yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd yw rhoi proffil o wybodaeth academaidd a sgiliau ymchwil i fyfyrwyr a fydd, ynghyd 芒 phrofiad gwaith perthnasol, yn eu galluogi i wneud cais credadwy am hyfforddiant seicoleg glinigol, naill ai yn y DU neu yn rhywle arall. Mae'r Ysgol Seicoleg yn cynnig yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd a'r MSc Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol; mae'r ddau gwrs yma yr un mor berthnasol fel rhagflaenydd i hyfforddiant seicoleg glinigol.
Mae hyfforddiant seicoleg glinigol yn y DU yn cynnwys cwblhau rhaglen hyfforddi tair blynedd sy'n arwain at ddoethuriaeth mewn seicoleg glinigol a chymhwysedd i wneud cais am statws seicolegydd clinigol siartredig. Ariennir yr hyfforddiant gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac mae bron pob hyfforddai yn mynd ymlaen i weithio yn y GIG ar 么l cymhwyso. Mae mynediad i'r rhaglenni hyn yn hynod gystadleuol a rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau academaidd ac ymchwil da yn ogystal 芒 phrofiad gwaith perthnasol, fel arfer dwy flynedd mewn swydd seicolegydd cynorthwyol amser llawn 芒 th芒l neu gyfwerth. Nod yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd yw rhoi proffil o wybodaeth academaidd a sgiliau ymchwil i fyfyrwyr a fydd, ynghyd 芒 phrofiad gwaith perthnasol, yn eu galluogi i wneud cais credadwy am hyfforddiant seicoleg glinigol, naill ai yn y DU neu yn rhywle arall. Mae'r Ysgol Seicoleg yn cynnig yr MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd a'r MSc Sylfeini Niwroseicoleg Glinigol; mae'r ddau gwrs yma yr un mor berthnasol fel rhagflaenydd i hyfforddiant seicoleg glinigol.
听
Ysgoloriaethau ac Chyllid
Gallwch ddarganfod mwy am Ysgoloriaethau a ffynonellau ariannu yma.
Cynnwys y Cwrs
Staff academaidd
Mae'r cwrs yn cael ei drefnu a'i addysgu gan staff o fewn yr Ysgol Seicoleg.
Cyfarwyddwr cwrs:
Laura Jastrzab
Gallwch weld manylion cyfarwyddwr y cwrs yma.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg Glinigol ac Iechyd.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd dda mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gyda dosbarth gradd o 2.ii o leiaf. Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sg么r IELTS o 6.0 (heb unrhyw elfen yn is na 5.5) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen. Bydd ymgeiswyr sydd 芒 graddau o safon gyfatebol mewn disgyblaeth gysylltiedig, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cymwys (e.e. seicolegwyr clinigol, seiciatryddion, therapyddion galwedigaethol) ac sydd 芒 phrofiad clinigol perthnasol, hefyd yn cael eu hystyried.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r rhai sy'n anelu at ddoethuriaeth broffesiynol mewn seicoleg glinigol neu swyddi cysylltiedig eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r MSc yn rhoi sylfaen yn y wybodaeth a'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar y rhai sy'n bwriadu chwilio am swydd fel y rhai sydd eisoes wedi eu cyflogi fel seicolegwyr cynorthwyol (neu swyddi tebyg). Mae'r MSc hefyd yn baratoad rhagorol os ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa ym maes ymchwil, gyda'r cyfle i astudio dulliau ac ystadegau ymchwil ac i ysgrifennu traethawd ymchwil mewn maes sy'n berthnasol yn glinigol. Mae ehangder ac amrywiaeth y dulliau asesu yn cefnogi'r sgiliau datblygu sy'n ddeniadol i gyflogwyr, megis ymgymryd 芒 gwaith gr诺p/gweithgareddau arwain, arddangos sgiliau astudio annibynnol, dadansoddi beirniadol a gwerthuso a'r gallu i ddatrys problemau. Mae gan fyfyrwyr fynediad at wasanaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd canolog ac aelod staff penodol yn yr Ysgol Seicoleg a all gynnig cefnogaeth a chyngor yn ymwneud 芒 materion gyrfa neu gyflogadwyedd.
Ymchwil / Cysylltiadau 芒 Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud 芒'r rhaglen hon gysylltiadau ymchwil helaeth gyda chyrff a chwmn茂au allanol, a g芒nt eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol i'r gwaith a'r amgylchedd ymchwil bydd y graddedigion yn rhan ohono.