Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bydd AC yn darparu gweithgareddau awyr agored mewn canolfannau addysg awyr agored, fel rhan o'r cwricwlwm Addysg Gorfforol, ac fel dull o ategu addysgu pynciau dosbarth mewn cyd-destun awyr agored. Bydd AC yn ystyried dysgu awyr agored fel maes pwnc ac fel dull dysgu trwy brofiad sy'n ychwanegu gwerth at y cwricwlwm cyfan.
Bwriad y rhaglen TAR听Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.听 Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.听
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae 香港六合彩挂牌资料 yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd 芒鈥檔 cysylltiadau 芒 darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno鈥檙 pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (Cyfrwng Cymraeg) 3F5S.
听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn gallu gwneud y canlynol:
- Ennyn diddordeb plant i ddysgu am yr amgylchedd naturiol a sut i ddod yn ddinasyddion sy'n gwybod am bwysigrwydd cynaliadwyedd.
- Datblygu sgiliau personol a chymdeithasol plant trwy ddefnyddio gweithgareddau her ac antur.
- Rhoi heriau rhyngbersonol a phersonol i ddisgyblion.
- Defnyddio amrywiaeth o weithgareddau anturus i ddatblygu modelau da ar gyfer meddwl.
Bydd AC yn deall sut mae dysgwyr yn dysgu:
- sgiliau seicoechddygol / corfforol sydd eu hangen i wneud gweithgareddau antur.
- sgiliau affeithiol, megis cyfathrebu, gweithio mewn t卯m, adfyfyrio, a ddysgir trwy weithgareddau her.
Byddant yn deall sut mae damcaniaethau dysgu mawr yn dylanwadu ar strategaethau dysgu; er enghraifft, bydd dealltwriaeth AC o ddamcaniaeth dysgu trwy brofiad Dewey yn llywio cynllunio profiad dysgu gan hyrwyddo dealltwriaeth ac adfyfyrio hirdymor. Yn ogystal, bydd pwysigrwydd cyd-destun yn cael ei drafod, gan alluogi AC i ddeall sylfeini gwaith maes a chysylltiadau 芒 phynciau eraill. Bydd datblygiadau cyfredol mewn dysgu ac addysgeg awyr agored yn cael eu dadansoddi'n feirniadol, gan sicrhau bod arfer yn gyfoes a pherthnasol.
Bydd AC yn deall lle GAA yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a'r Meysydd Dysgu newydd, a byddant yn dysgu'r GAA gan ddefnyddio TGCh a chyflwyno agweddau perthnasol ar fframweithiau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn y pwnc. Bydd AC GAA yn ymgorffori'r pedwar diben yn eu haddysgu, gan sicrhau bod y dysgwyr yn deall pwysigrwydd gweithredu'n gynaliadwy, iechyd (yn gorfforol ac yn feddyliol) a gallu chwarae rhan werthfawr mewn cymdeithas, boed hynny mewn bywyd bob dydd neu gyd-destun antur.
Ariannu
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Gallai graddedigion sydd 芒 graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at 拢20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadureg
- Ieithoedd Tramor Modern
Gweler hefyd:
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig 芒 pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. 听听
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.听 Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio 么l-radd safonol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.听 Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.听 Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.听 O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.听 Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd 芒'ch diddordebau.
Cysylltiadau 芒 diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd 芒 rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad 芒 hwy.