Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae ein MSc mewn Ymchwil Seicolegol yn eithriadol am ei bwyslais deuol ar wyddoniaeth seicolegol sylfaenol a materion cymhwysol. Bydd y cwrs yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau ymchwil ymarferol i chi, cyfle i wneud astudiaeth uwch mewn seicoleg fodern, a chyfle i ddysgu sut caiff y wybodaeth hon ei chymhwyso mewn lleoliadau diwydiannol neu glinigol. Mae'r cwrs wedi cael ei gydnabod gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) fel un sy'n darparu'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i ymchwil gwyddorau cymdeithas a fydd yn eich helpu wrth chwilio am gyfle i wneud PhD. Bydd y cwrs hwn yn cynnig profiad ymchwil cynhwysfawr o weithio gydag ymchwilwyr o safon ryngwladol, a chyfle eithriadol i weld sut gellir rhoi seicoleg fodern ar waith.
Mae'r cwrs yn cynnwys dwy ran. Mae rhan un yn cynnwys modiwlau hyfforddedig dros ddau semester. Mae'n ofynnol i chi gymryd tri modiwl 'cynnwys', pob un wedi ei gynllunio i ddarparu gwybodaeth a hyrwyddo eich dealltwriaeth mewn maes craidd penodol o seicoleg. Byddwch hefyd yn cymryd tri modiwl 'sgiliau' sydd wedi eu cynllunio i'ch helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil. Yn ogystal, byddwch yn cymryd dau fodiwl tiwtorial gyda'ch goruchwyliwr lle byddwch yn datblygu cynnig ymchwil ar gyfer eich traethawd ymchwil.
Ar 么l cwblhau rhan un yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen i ran dau (yn y trydydd semester). Ar yr adeg honno, byddwch yn cwblhau ac yn ysgrifennu eich traethawd ymchwil.
Y traethawd ymchwil yw 'calon' yr MSc ac mae'n brofiad ymchwil dwys mewn cydweithrediad 芒'ch goruchwyliwr sy'n eich galluogi i roi eich gwybodaeth a'ch sgiliau ar waith. Wrth wneud eich project traethawd ymchwil, byddwch yn datblygu sgiliau newydd fel cynllunio, gweithio cydweithredol, a'r sgiliau academaidd sy'n hanfodol i ddeall ac adrodd ar ganfyddiadau i eraill.
Hyd y Cwrs聽
Blwyddyn yn llawn-amser. Gellir astudio'r cwrs yn rhan-amser hefyd.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ymchwil Seicoleg.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu radd gydanrhydedd mewn Seicoleg neu ddisgyblaeth berthnasol arall, gyda dosbarth gradd o 2.ii o leiaf. Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sg么r IELTS o 6.5 (heb unrhyw elfen yn is na 6.0) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen.
Gyrfaoedd
Os ydych eisiau arbenigo mewn maes penodol o Seicoleg cyn ymgymryd 芒 PhD neu os ydych yn chwilio am swydd fel cynorthwyydd ymchwil yna mae'r radd Meistr hon sydd wedi ei hachredu gan ESRC yn addas i chi. Mae hefyd yn darparu sgiliau ymchwil cyffredinol rhagorol y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o swyddi os nad ydych yn meddwl gwneud PhD.
Ymchwil / Cysylltiadau 芒 Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud 芒'r rhaglen hon gysylltiadau ymchwil helaeth gyda chyrff a chwmn茂au allanol, a g芒nt eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol i'r gwaith a'r amgylchedd ymchwil bydd y graddedigion yn rhan ohono.