Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Noder os gwelwch yn dda: mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Mawrth 2025 (Mynediad 2024/25) ac ym Medi 2025 (Mynediad 2025/26).
Mae nyrsys iechyd meddwl yn dysgu am weithio gyda phobl o bob oed ag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn gwahanol leoliadau gan roi sylw i'w hiechyd meddwl yn ogystal â'u hanghenion corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol. Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyfleoedd lleoliad clinigol sy'n cynnwys iechyd meddwl plant a phobl ifanc, iechyd meddwl oedolion yn yr ysbyty, carchar a gwasanaethau fforensig, gwasanaethau therapiwtig camddefnyddio sylweddau a chartrefi nyrsio.
Bydd nyrsio iechyd meddwl ym Mangor yn eich arwain at yrfa werth chweil a chyffrous, ond eto heriol, fel nyrs iechyd meddwl. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddilyn gyrfa’n gweithio gyda phobl o bob oed sy’n wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol neu sy'n byw gydag anableddau dysgu ac sydd angen gofal nyrsio iechyd meddwl proffesiynol.
Gallwch brofi Ìýamrywiaeth eang o leoliadau ymarfer clinigol yn y gymuned ac mewn adrannau cleifion mewnol ledled gogledd Cymru fel myfyriwr nyrsio iechyd meddwl. Gallai hynny gynnwys:Ìý
- Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl
- Gofal mewn ysbytai iechyd meddwl i oedolion a phobl hÅ·n sydd ag anghenion 24 awr Ìý
- Timau iechyd meddwl cymunedol amlddisgyblaethol ar gyfer oedolion a phobl hÅ·nÌý
- Gwasanaethau ysbyty diogel mewn carchardai ac unedau fforensig gyda chysylltiadau â'r gwasanaeth cyfiawnder troseddol Ìý
- Gwasanaethau triniaeth gartref, adferiad a gofal adfer llai dwys Ìý
- Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigolÌý
- Gwasanaeth cof
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyswllt
- Gwasanaethau therapiwtig ym maes cam-drin sylweddau, cymorth cymheiriaid a dadwenwyno. Ìý
- Ysbytai annibynnol a chartrefi nyrsio rhyngbroffesiynol. Ìý
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i ennill gradd a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Mae'r rhaglen israddedig hon dros 3 blynedd yn cynnwys modiwlau rhyngbroffesiynol a modiwlau sy’n benodol i faes iechyd meddwl sy'n cyfateb i 120 credyd y flwyddyn.
Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn derbyn ceisiadau am gyrsiau nyrsio drwy gydol y flwyddyn, tra bod llefydd ar gael. Gan fod rhai llwybrau’n llenwi, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.Ìý
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
- Cynhelir y cwrs ar gampws Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ac mae pob lleoliad clinigol yn cael ei ddarparu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi gwir hyblygrwydd o ran sut a ble byddwch yn dysgu.Ìý
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. ÌýGallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.Ìý
Mae manylion llawn ar gael ar Dudalen Cyllid y GIG.Ìý
Hyblygrwydd yn lle rydych yn astudio
Cewch ddefnyddio’r amrywiaeth eang o gyfleusterau sydd ar gael i bob myfyriwr ar ein campws ym Mangor a Wrecsam, ac mae hybiau dysgu rhanbarthol yn cael eu sefydlu i roi gwir hyblygrwydd o ran sut a ble byddwch yn dysgu. Ìý
Cynnwys y Cwrs
Bydd yn orfodol i chi wneud astudiaeth ddamcaniaethol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/neu breswyl yng ngogledd Cymru. Tra byddwch ar leoliad byddwch dan oruchwyliaeth glos a chewch arsylwi staff proffesiynol wrth eu gwaith a chyfrannu at ddarparu gofal nyrsio gan ddechrau yn gynnar yn y cwrs. Ìý
Cewch eich cefnogi gan diwtor personol sy’n nyrs gofrestredig ac yn aelod o’r staff academaidd a goruchwyliaeth yn y maes clinigol gan nyrs gofrestredig brofiadol. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a thrwy Bortffolio Asesu Ymarfer Clinigol Cymru Gyfan.Ìý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r cwrs yn seiliedig yn gyfartal ar theori ac ymarfer – 50% ar astudio damcaniaethol a threulir 50% mewn ymarfer clinigol yn datblygu’r cymhwysedd sydd ei angen i gael mynediad i gofrestr y Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth. Byddwch yn datblygu sgiliau therapiwtig rhyngbersonol a gwerthoedd, agweddau ac ymddygiad proffesiynol sy’n ddisgwyliedig gan nyrsys iechyd meddwl i sicrhau diogelwch pobl o bob oed, eu gofalwyr a'u teuluoedd. ÌýByddwch yn datblygu sgiliau ar gyfer asesu anghenion iechyd meddwl; llunio, cynllunio ac adolygu gofal iechyd meddwl; gweithredu gofal ac ymyriadau therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl; a chymhwyso deddfwriaeth iechyd meddwl yn rhan o ymarfer.
Er y byddwch yn arbenigo mewn nyrsio iechyd meddwl o ddechrau’r rhaglen, mae cyfleoedd i astudio gyda myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ac mae gan yr Ysgol strategaeth o ddysgu rhyngbroffesiynol. Yn y rhaglenni gradd unigol mae cyfleoedd dysgu lle gall pob maes ddysgu gyda'i gilydd am elfennau cyffredin megis anatomi a ffisioleg, seicoleg, cymdeithaseg, cyfathrebu, adfyfyrio, y gyfraith a moeseg. Mae'r dysgu rhyngbroffesiynol hwn yn galluogi gweithio amlddisgyblaethol o'r cychwyn cyntaf a gwerthfawrogiad o sut mae elfennau gofal iechyd yn dod at ei gilydd yn ystod taith y claf. Bydd rhannu syniadau rhwng disgyblaethau iechyd yn ehangu eich safbwyntiau ar ofal iechyd, ac yn eich helpu i ganolbwyntio ar sgiliau penodol yr ydych chi'n eu datblygu yn eich maes nyrsio eich hun.Ìý
Ar gyfer mynediad 2022 mae'r rhaglen Baglor mewn Nyrsio ar gyfer y pedwar maes wedi'i mapio yn erbyn Safonau Hyfedredd i Nyrsys Cofrestredig 2018 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol: Safonau Cymhwysedd. ÌýMae'r rhaglen newydd yn sicrhau fod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ar draws pob un o'r pedwar maes ymarfer nyrsio, ond gan barhau i ganolbwyntio ar faes penodol. Mae'r rhaglen yn paratoi nyrsys cofrestredig y dyfodol gyda sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth a gyda rhagor o wybodaeth am faes iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles cleientiaid a chleifion. Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Nyrsio Iechyd Meddwl BN (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.Ìý
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.Ìý
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Costau'r Cwrs
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ydych yn gymwys ar gyfer ffioedd dysgu Cartref (DU) ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. ÌýGallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwyÌý. Mae manylion llawn ar gael arÌýdudalen Gyllid y GIG.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau ProffesiynolÌý
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch arÌý. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu agÌýadmissions.health@bangor.ac.ukÌýi gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.Ìý
Gofynion academaidd:Ìý
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3* e.e.:Ìý
- Lefel A:ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth RhyngwladolÌý
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.Ìý
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)Ìý
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwchÌý
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil RhagoriaethÌý
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf).ÌýMae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer BN Nyrsio
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalenÌýCyfweld a Dewis Ymgeiswyr ar gyfer BN NyrsioÌýos gwelwch yn dda.
Ìý
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch iÌýwww.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadranÌýAstudio ym Mangor.ÌýÌý

Gyrfaoedd
Mae nyrsio yn broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau aml-broffesiynol ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Mae cyfleoedd i weithio fel nyrs iechyd meddwl mewn amrywiaeth o rolau cydweithredol megis mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaethau Carchardai ac Unedau Fforensig sy'n gysylltiedig â'r System Cyfiawnder Troseddol, a chyda'r Awdurdodau Lleol a'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Mae cyfleoedd gyrfa clinigol ac academaidd megis ymgynghorydd nyrsio ym maes iechyd meddwl plant ac ieuenctid neu ofal dementia. ÌýMae nyrsys mewn sefyllfa unigryw i ddarparu gofal mewn partneriaeth â phobl a gofalwyr, lle bynnag y mae angen gofal. Yn gyffredinol yn y system iechyd a gofal ceir mwy o bwyslais ar atal afiechyd, galluogi pobl i ofalu am eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a chael gwell ansawdd bywyd. Mae cyflymder y datblygiadau mewn gofal meddygol a gofal nyrsio, ac o ran triniaethau a thechnoleg yn creu cyfleoedd gyrfa newydd i nyrsys gyda datblygiadau mewn gwahanol agweddau ar wasanaethau a gwahanol ffyrdd o weithio. Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn amrywiol gan gynnwys swyddi staff y rheng flaen a swyddi arweinyddiaeth neu reoli, swyddi nyrsys arbenigol neu nyrsys ymgynghorol ynghyd â llu o opsiynau eraill hynod gyffrous.Ìý
Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio yn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae sawl math o swydd ar gael i nyrsys, o nyrs staff i nyrs arbenigol, rheolwr ward, metron, arweinydd, ymchwilydd, addysgwr ac ymgynghorydd nyrsio. Mae swyddi nyrsio wedi eu rhannu'n wahanol fandiau sydd â chyflogau gwahanol.Ìý
I Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y bydd llawer o’n graddedigion yn mynd i weithio sy’n darparu cynlluniau cylchdroi, sy'n rhoi cyfle i nyrsys newydd gymhwyso gael blas ar sawl lleoliad yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Gall y dull hwn wella eich rhagolygon cyflogaeth a gall hyd yn oed eich cynorthwyo ar y llwybr gyrfa sy'n mynd â chi o fod yn nyrs staff i fod yn nyrs ymgynghorol.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.