Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Os ydych wedi bod eisiau gweithio gydag anifeiliaid erioed, yna mae'rÌýMZoolÌýarbenigol hwn yn addas i chi!ÌýÌýRhaglen israddedig estynedig yw hon sy’n caniatáu i chi raddio naill ai gyda BSc (Anrh) ar ddiwedd y drydedd flwyddyn neu gyda gradd Meistr ar ddiwedd y bedwaredd flwyddyn.ÌýÌýYn ystod y bedwaredd flwyddyn cewch gyfle unigryw i wneud project ymchwil estynedig naill ai yn y labordy neu yn y maes.Ìý
Mae swoleg yn edrych ar bopeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid.ÌýAr y cwrs hwn, cewch sylfaen drylwyr ac edrych ar amrywiaeth ffurf a swyddogaeth anifeiliaid, ac esblygiad ac ecoleg y prif grwpiau o anifeiliaid.ÌýByddwch hefyd yn ystyried agweddau cymhwysol ar swoleg felÌýparasitolegÌýa'r rhyngweithio rhwng anifeiliaid a'u hamgylchedd.ÌýCewch gyfle i gael amrywiaeth o brofiadau, yn y labordy ac yn y maes, gartref a thramor, tra’n dysgu sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig â hyfforddiant gwyddonol (megis dadansoddi data, sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, sgiliau TG a phrofiad o weithio'n annibynnol a gweithio mewn grŵp).ÌýCewch fynediad i amrywiaeth o fodiwlau Swoleg sy'n cwmpasu fertebratau ac infertebratau, yn ogystal â chyfres o fodiwlau Rheolaeth Anifeiliaid arbenigol a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer y rhaglen radd hon.Ìý
Mae’r radd hon yn dysgu dull cynhwysfawr, gwyddonol i chi o reoli anifeiliaid, trwy gyfuniad o fodiwlau amlddisgyblaethol a modiwlau swoleg arbenigol.ÌýAgwedd ganolog o'r rhaglen hon yw dau fodiwl sy'n edrych ar ddulliau rheoli anifeiliaid ar sail ymchwil, gan gynnwys cysyniadau allweddol megis; hwsmonaeth anifeiliaid, iechyd anifeiliaid, maeth, ymddygiad, hyfforddiant, rheoli cyfleusterau, ffermio masnachol a rheoli sw.ÌýMae llawer o sesiynau'n rhai cymhwysol, gan ymgorffori amrywiaeth o enghreifftiau o gasgliadau anifeiliaid, acwaria, cyfleusterau labordy a'r diwydiant ffermio masnachol.ÌýMae'r asesiadau ar y modiwlau hyn yn seiliedig ar gymhwyso rheolaeth anifeiliaid yn y byd go iawn, gan ganolbwyntio’n benodol ar eich paratoi at yrfa yn y diwydiant a gwella cyflogadwyedd.ÌýÌýRhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn, byddwch yn gwneud lleoliad hwsmonaeth anifeiliaid o'ch dewis, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd trwy brofiad ymarferol.ÌýYn eich blwyddyn olaf, byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth gynhwysfawr o'r maes hwn i gynllunio a chwblhau project ymchwil gwreiddiol.Ìý
Os mai hon yw’r radd i chi, cofiwch ddod â’chÌýwellingtons!ÌýMae fferm y brifysgol, Canolfan Ymchwil Henfaes yn ganolog i'n modiwlau arbenigol, ac yn rhoi cyfle i chi gymhwyso eich gwybodaeth a datblygu sgiliau ymarferol.ÌýBydd hefyd llawer o ymweliadau âÌýswauÌýlleol a safleoedd maes cyfagos.ÌýMae sesiynau seminar yn cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol allanol sy'n gweithio yn y diwydiant anifeiliaid, ochr yn ochr â'n technegwyr anifeiliaid ein hunain - gan ddarparu cyfleoedd rhwydweithio gwych i chi a chefnogaeth a gwybodaeth am lwybrau gyrfa ar ôl graddio.ÌýÌý
Mae gan gyfarwyddwr y rhaglen y radd hon brofiad o weithio yn y diwydiant sw ac mae wedi datblygu ein modiwlau rheolaeth anifeiliaid gyda'r nod o wella cyflogadwyedd myfyrwyr yn y maes hwn.ÌýYn ychwanegol at amrywiaeth o seminarau allanol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, mae gennym gysylltiadau â'r sefydliadau canlynol:Ìý
- Sw Mynydd CymruÌý
- Sw CaerÌýÌý
- °²Ô´Ç·É²õ±ô±ð²âÌý³§²¹´Ú²¹°ù¾±Ìý±Ê²¹°ù°ìÌý
- Sw Môr Môn
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Mae gan yr aelod academaidd o staff sy'n arwain y rhaglen radd hon brofiad o weithio yn y diwydiant sw ac mae wedi cynnwys amryw o sgyrsiau gan arbenigwyr ysbrydoledig fel rhan o’r modiwlau rheoli anifeiliaid.
- Mae gennym ein fferm ein hunain yn y brifysgol, sef Canolfan Ymchwil Henfaes.
- Yn ystod y lleoliad hwsmonaeth anifeiliaid ym Mlwyddyn 3 byddwch yn cael profiad yn hwsmona anifeiliaid o fewn y diwydiant.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gwylio -ÌýPartneriaeth Arbennig Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Sw Caer
Rydyn ni wedi cael y cyfle anhygoel hwn i ddod i Sw Caer drwy gydol ein semester cyntaf a chael cwrdd â chynifer o bobl o wahanol rannau o’r sw,Ìý pobl sy’n gwneud amrywiaeth eang o swyddi, swyddi na wyddwn i ddim amdanynt.
Rwy'n credu ei fod yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae'r sw yn gweithio tu ôl i'r llenni, ac mae hefyd yn ein helpu ni edrych ar yrfaoedd posibl ac mae’n rhoi syniadau inni o’r hyn efallai yr hoffen ni ei wneud yn y dyfodol.Ìý Ac mae mor werthfawr cael yr wybodaeth i gyd wrth fynd i mewn i'r diwydiant. Pan ddes i Fangor roeddwn i'n datblygu fy null o ddysgu, roedd llawer o alw oddi wrth y myfyrwyr am rywbeth oedd yn canolbwyntio mwy ar ddiwydiant.Ìý Diwydiant y sw yn bennaf. Ac roeddwn i'n teimlo trwy ddatblygu gradd rheoli anifeiliaid ein bod yn bendant yn llenwi’r bwlch hwnnw.
Felly ar yr adeg yr oeddwn i’n rhoi cynnwys y modiwlau rheoli anifeiliaid ynghyd, felly o ran y modiwlau hynny sydd ar gael i’r myfyrwyr ar y radd sŵoleg gyda rheoli anifeiliaid, anfonais fanylebau’r modiwlau allan i nifer o wahanol sefydliadau ond Sw Caer oedd un o’r rhai pennaf. I gael adborth, ein bod yn ticio’r blychau i gyd yr oedd eu hangen arnom gydag asesiadau a’r cynnwys a’r deilliannau dysgu o ran cyflogadwyedd.
A dyna’r pryd, y dywedodd Liz, fy nghysylltiad yn y sw, 'o feddylioch chi rioed am bartneriaeth? Rwy'n meddwl y bydden ni’n gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd ac y byddai hynny’n gweithio'n wych.' Ac felly ar gefn hynny, cafodd y radd Sŵoleg gyda Rheoli Anifeiliaid ei ffurfio. Buom yn gweithio gyda Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ers amser maith, mae gennym berthynas hirsefydlog. Rydym yn cael myfyrwyr rhagorol oddi wrthynt ar leoliadau. Projectau gwych, datblygu sgiliau gwych.Ìý Ac rydyn ni'n gweld sw gorau’r wlad yn paru gyda phrifysgol flaenllaw er budd cadwraeth.
Mae myfyrwyr y cwrs sŵoleg gyda rheoli anifeiliaid yn cael llawer o weithdai arbennig gyda Sw Caer. Mae nhw’n cael y cyfle i weld y tu ôl i'r llenni a gweld beth sy'n digwydd. Maent hefyd yn cael gweld y gwahanol rolau sydd ar gael yma yn y sw. Yn aml iawn, mae pobl yn meddwl am geidwad sw ond wrth gwrs mae yna lawer o bobl eraill sy’n gwneud yr ymchwil ac yn y blaen. Mae nhw’n cael profiad unigryw. Mae’n wych, ‘da ni’n cael cyfarfod pobl sy'n gwneud yr ymchwil y tu ôl i'r llenni a ‘da ni’n cael profiad gwahanol nad oes neb arall yn y brifysgol yn ei gael. Mae'r diwydiant sw’n gystadleuol iawn, ac rwy’n credu bod y radd hon yn cynnig llwyfan i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn yr yrfa honno.
Cyn-fyfyriwr o Fangor ydw i.Treuliais flwyddyn ar leoliad yma yn Sw Caer. Ac yna cefais gwrdd â'r tîm rwy’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd. Dyna'r tîm ymddygiad a lles. Ac ar ôl hynny, mi es i’n ôl i wneud fy mlwyddyn olaf lle cymerais y modiwl rheoli anifeiliaid, eto, gyda'r cysylltiad hwnnw ag amgylchedd y sw. Ac yna wedi hynny, graddiais a bûm i’n ddigon ffodus i gael swydd yn Sw Caer. Ac yna mi ddes i nôl i Sw Caer. Ac rwy'n gweithio yma. Rwy'n meddwl bod y bartneriaeth rhwng Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ a Sw Caer yn anhygoel. Mae dewis i wneud blwyddyn ar leoliad a dyna wnes i. Bydd hynny'n gyfle i chi wneud cysylltiadau o fewn y diwydiant a chael troed yn y drws ar ôl i chi gwblhau eich gradd ym Mangor.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn, bydd gofyn i chi astudio 120 o gredydau’r flwyddyn fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â theithiau maes a thiwtorialau ym mlwyddyn un a dau.ÌýÌýGall y drydedd flwyddyn gynnwys project ymchwil integredig, dan oruchwyliaeth aelod staff, ar bwnc sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.ÌýÌýYn ystod y bedwaredd flwyddyn cewch gyfle unigryw i wneud project ymchwil estynedig naill ai yn y labordy neu yn y maes.ÌýYn ystod y flwyddyn hon, byddwch yn casglu gwybodaeth fanwl am broblem ymchwil benodol ym maes rheolaeth anifeiliaid a dealltwriaeth ohoni, trwy waith dan oruchwyliaeth ar fater cyfredol ym maes ymchwil sw neu ffermio masnachol.ÌýBydd hyn yn cynnwys gwybodaeth drwy brofiad o sut mae'r ymchwil hwn yn cael ei wneud.ÌýMae’r modiwlau’n mynd yn fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall.ÌýÌýCewch eich asesu trwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol ac asesiad parhaus.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid MZool.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan gynnwys gradd C mewn Bioleg os yn astudio un pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth neu Daeareg);Ìý²Ô±ð³ÜÌýradd B mewn Bioleg os nad yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDDÌý gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth. (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DDM - DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): DDM - DDDÌýÌýgan gynnwys 4 modiwl BiolegÌý(Mae'r modiwlau Bioleg a dderbynnir yn cynnwys: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Systemau Biolegol Anifeiliaid; Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg; Etifeddiad a Geneteg; Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad; Arolygon Poblogaeth; Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýGan gynnwys H5 mewn Bioleg
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch**:ÌýPasio yn ofynnol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 128 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan gynnwys gradd C mewn Bioleg os yn astudio un pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth neu Daeareg);Ìý²Ô±ð³ÜÌýradd B mewn Bioleg os nad yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDDÌý gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth. (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DDM - DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): DDM - DDDÌýÌýgan gynnwys 4 modiwl BiolegÌý(Mae'r modiwlau Bioleg a dderbynnir yn cynnwys: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Systemau Biolegol Anifeiliaid; Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg; Etifeddiad a Geneteg; Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad; Arolygon Poblogaeth; Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýGan gynnwys H5 mewn Bioleg
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch**:ÌýPasio yn ofynnol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae graddedigion swoleg yn gymwys i amrywiaeth o yrfaoedd ym maes bioleg, ac mewn meysydd lle mae'n bosib na fydd angen gwybodaeth wyddonol benodol.ÌýYmhlith y cyflogwyr posib ar gyfer graddedigion Swoleg gyda Rheolaeth Anifeiliaid mae prifysgolion a sefydliadau ymchwil y llywodraeth;Ìýswau: gweler y British &ÌýIrishÌýAssociationÌýofÌýZoosÌýandÌýAquariumsÌý(BIAZA); ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ac asiantaethau diogelu'r amgylchedd; y diwydiant ffermio masnachol; canolfannau adfer bywyd gwyllt; canolfannau achub anifeiliaid; cyfleusterau ymchwil anifeiliaid; labordai ymchwil anifeiliaid.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýSwoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý