Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae cadwraeth amgylcheddol bellach ar frig yr agenda gan lywodraethau ledled y byd, sy’n golygu ein bod bellach angen cenhedlaeth newydd o wyddonwyr proffesiynol hyfforddedig gyda gwybodaethÌýswolegolÌýgadarn a dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â chadwraeth leol a byd-eang.Ìý
Byddwn yn eich dysgu am swoleg draddodiadol, yn cynnwys tacsonomeg, morffoleg, ffisioleg, a bioleg celloedd gyda phwyslais ar ecoleg anifeiliaid (bioamrywiaeth, ecoleg, ymddygiad ac esblygiad).ÌýByddwch hefyd yn dilyn modiwlau fydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r angen am gadwraeth amgylcheddol a'r modd y gellir cyflawni amcanion cadwraeth.ÌýMae’r radd hon yn creu cysylltiadau rhwng yr amgylchedd dysgu academaidd a chyrff amgylcheddol a chadwraeth allanol ar ffurf gwaith project a chynlluniau rheoli ymarferol.ÌýÌý
Byddwch yn ennill dealltwriaeth theoretig eang o swoleg a chadwraeth ynghyd â sgiliau ymarferol cysylltiedig.ÌýÌýYn ogystal ag amrywiaeth gynhwysfawr o sgiliau trosglwyddadwy, bydd y radd hon yn eich paratoi at yrfa ym maes cadwraeth.Ìý
Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ wedi bod yn un o brif brifysgolion y Deyrnas Unedig ar gyfer ecoleg erioed ac, oherwydd ein bod wedi ein lleoli drws nesaf i Barc Cenedlaethol Eryri, rydym yn y lleoliad perffaith ar gyfer y cwrs gradd hwn.ÌýByddwch yn elwa o fod yn agos at amrywiaeth mor eithriadol o gynefinoedd tir, môr a dŵr croyw i wneud gwaith maes.ÌýÌýMae gwaith maes yn rhan annatod o'r radd hon.ÌýÌý
Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn gartref hefyd i swyddfeydd adrannol Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â swyddfeydd rhanbarthol y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae'r rhain i gyd â chysylltiad agos â’r brifysgol ac â'r staff sy’n ymwneud â’r cwrs hwn.ÌýÌýMae'r cysylltiadau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein dysgu.Ìý
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn lle delfrydol i astudio pob agwedd ar fywyd gwyllt a chadwraeth - gydag ystod enfawr o gynefinoedd ar garreg ein drws.
- Mae ein cyfleusterau addysgu ychwanegol helaeth yn cynnwys amgueddfa byd natur, acwaria môr a dŵr croyw, fferm a gardd fotaneg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn, bydd gofyn i chi astudio 120 o gredydau’r flwyddyn, fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â theithiau maes a thiwtorialau ym mlwyddyn 1 a 2.ÌýÌýGall y flwyddyn olaf gynnwys project ymchwil integredig, dan oruchwyliaeth aelod staff, ar bwnc sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.ÌýÌýMae’r modiwlau’n mynd yn fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall.ÌýÌýAsesir trwy gyfuniad o arholiadau ac asesu parhaus.ÌýMae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.Ìý
Os byddwch wedi cyrraedd safon ddigon uchel ar ddiwedd blwyddyn 2, yna gwahoddir chi i drosglwyddo i’r flwyddyn Meistr ar ôl cwblhau blwyddyn 3.ÌýÌý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Swoleg gyda Chadwraeth BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Gofynion Mynediad
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan gynnwys gradd C mewn Bioleg os yn astudio un pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth neu Daeareg); neu radd B mewn Bioleg os nad yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDD gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth. (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM - DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): DMM - DDD gan gynnwys 4 modiwl BiolegÌý(Mae'r modiwlau Bioleg a dderbynnir yn cynnwys: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Systemau Biolegol Anifeiliaid; Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg; Etifeddiad a Geneteg; Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad; Arolygon Poblogaeth; Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýGan gynnwys H5 mewn Bioleg
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch**:ÌýPasio yn ofynnol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae swolegwyr cadwraeth yn gweithio'n bennaf yn sefydliadau'r llywodraeth (cynghorau lleol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ac Asiantaeth yr Amgylchedd) neu mewn sefydliadau anllywodraethol (e.e. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, RSPB).ÌýMae'r gwahanol lwybrau gyrfa sydd ar gael yn y sefydliadau hyn yn amrywio o fonitro ac asesu bywyd gwyllt i weithredu cynlluniau rheoli cadwraeth yn ymarferol.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýSwoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý