Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae athletwyr elît yn defnyddio dull sy'n gynyddol wyddonol i gael enillion ymylol gwerthfawr. Mae ymarferwyr hamdden a chleifion sy'n byw gyda chlefyd yn troi at wyddoniaeth hefyd, gan ddefnyddio technegau gwyddorau chwaraeon i reoli eu hiechyd a'u lles, eu hadsefydlu a'u gweithgarwch corfforol yn well. Bydd y radd fodern, ymarferol, rhyngosodol hon am flwyddyn, sydd â phwyslais ar ymchwil, yn paratoi Ìýmyfyrwyr meddygol trwy roi dealltwriaeth feirniadol o wyddor swyddogaeth ddynol iddynt ac yn darparu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ddatblygu ymyriadau seicolegol a ffisiolegol arloesol i hyrwyddo perfformiad chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd.
- Labordai rhagorol gan gynnwys labordy ffisioleg ymarfer corff gwerth £1m, siambrau sy'n efelychu amodau amgylcheddol ac uchder mawr, labordai dadansoddi symudiadau, biocemeg, bioleg celloedd a seicoleg chwaraeon.Ìý
O athroniaeth enillion ymylol chwaraeon elitaidd i'r nifer cynyddol o gleifion sy'n byw gydag afiechydon cronig yn gysylltiedig â ffordd o fyw, mae'n amlwg bod y gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff yn chwarae rhan allweddol mewn cymdeithas. Bydd y radd ryngosodol Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn eich galluogi i gymhwyso egwyddorion gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yn eich gyrfa feddygol.Ìý
Yn ogystal â rhoi sylw i’r meysydd craidd, sef seicoleg, ffisioleg, biomecaneg a dysgu sgiliau, elfen fodern o'r radd yw cynnwys yr ymchwil seicoffisiolegol a niwrowyddonol diweddaraf mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Mae hyn yn eich caniatáu i bontio'r ffiniau traddodiadol rhwng disgyblaethau a graddio gyda gwerthfawrogiad o sut mae holl wahanol feysydd gwyddorau chwaraeon ac ymarfer a meddygaeth yn cydblethu. Y set sgiliau hon yw'r union beth sydd ei angen ar y clinigwr modern, blaengar ar gyfer gyrfa broffesiynol feddygol lwyddiannus ac amrywiol, boed yn darparu cefnogaeth feddygol mewn chwaraeon elit, neu ddarparu ymarfer corff fel meddyginiaeth i gleifion sy'n byw gyda chlefyd cronig.Ìý
Cewch eich dysgu gan staff a gydnabyddir yn rhyngwladol am eu hymchwil gwyddonol blaengar. Mae ein staff hefyd yn ymarferwyr cymhwysol a byddant yn rhannu eu profiadau o weithio fel gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff mewn sefydliadau proffil uchel (e.e. y GIG, y lluoedd arfog, UK Sport, Chwaraeon Cymru, timau pêl-droed yr uwch gynghrair, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) a chydag athletwyr a thimau sy'n arwain y byd. Mae gogledd Cymru yn cynnig amgylchedd naturiol hyfryd ar gyfer eich astudiaethau, ac mae ein hadran, a sefydlwyd ym 1978, yn falch o alw ei hun yn un o'r darparwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer cyntaf a hynaf yn y byd.
Cynnwys y Cwrs
Fel myfyriwr rhyngosodol bydd eich blwyddyn gyda ni yn werth chweil ond yn heriol, gan y bydd gofyn i chi ddechrau gweithio ac ymdrwytho mewn darlithoedd o flwyddyn olaf ein gradd, ac yn eich project ymchwil. ÌýOnd cewch eich cefnogi’n dda, ac mae’r dull hwn yn golygu fod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â'r darlithwyr a'r tiwtoriaid ac mae pob un o’n myfyrwyr yn gallu cael cyfarfodydd personol rheolaidd gyda'r staff.
Wrth astudio’r radd ryngosodol BSc Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol labordy, gweithdai, astudiaethau achos, aseiniadau grŵp ac astudiaeth annibynnol. Mae pob modiwl fel arfer yn cynnwys un ddarlith yr wythnos, gyda dosbarthiadau labordy, grwpiau trafod a thiwtorialau yn dilyn (lle bo hynny'n briodol). Mae hyn yn golygu y bydd wythnos nodweddiadol ar y radd hon yn cynnwys chwe darlith, dwy neu dair sesiwn ymarferol neu seminarau, amser i sesiynau tiwtorial gydag arweinwyr modiwlau/tiwtoriaid personol ac amser gwarchodedig i astudiaeth annibynnol. Disgwylir i'ch amser astudio annibynnol gynnwys gwaith darllen ymchwil wyddonol, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, ymarfer cymwyseddau galwedigaethol, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a chyflwyniadau poster. Mae'r gweithgareddau hyn yn sail i gyfleoedd asesu dilys i'ch helpu Ìýi baratoi at swydd yn y dyfodol, e.e. arholiadau ymarferol, cyflwyniadau, astudiaethau achos, adroddiadau ysgrifenedig a beirniadaeth o ymchwil.
Cyfleusterau
Yn ogystal â'r cyfleusterau isod, fel myfyriwr rhyngosodol bydd gennych hefyd fynediad i'n gofodau dysgu cydweithredol ôl-radd a'n cyfleusterau cyfrifiadurol.
CyfleusterauÌýGwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- labordy addysgu £1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
- 3 x labordy rheoli/profi galluedd seicoechddygol
- labordai profion seicolegÌý
- labordy dynwared gyrru
- labordy Seicoleg Cymdeithasol/Byw o’i fewnÌý
- labordy profi trochiad dŵr
Labordai Ymchwil Ffisioleg Ìý
Rydym yn cynnal profion gyda chleientiaid allanol e.e., rydym wedi profi aelodau o Sgwadiau Caiacio a Hwylio Cenedlaethol Cymru, cleifion sy'n dioddef o gyflyrau amrywiol - canser y fron, lwpws, arthritis gwynegol, problemau arennol, diabetes, gordewdra, aelodau o'r gwasanaeth tân, athletwyr elitaidd, personél milwrol, a mynyddwyr i enwi dim ond rhai. Mae'r offer yn y labordai hyn yn cynnwys:
- Dadansoddwyr ar-lein fesul anadl - mesur y ffitrwydd aerobig mwyaf posibl, defnydd ynni, awyru. Maent yn fersiwn fwy soffistigedig o'r system bagiau Douglas a welir hefyd yn y labordy hwn a'r labordy addysgu.
- Peiriant Electrocardiogram (ECG) - 12 gwifren sy'n addas ar gyfer monitro yn ystod ymarfer corff neu wrth orffwys.Ìý
- Dadansoddwr lactad/glwcos YSI.Ìý
- Melin draed gyda chyflymder o 30km, gwregys gwrthdro i ganiatáu rhedeg i lawr allt, bwa diogelwch ar gyfer rhedeg lawr allt a sbrint.
- GEM - Dadansoddwr Nwy Gwaed - yn mesur crynodiadau nwyon mewn gwaed e.e., ocsigen a charbon deuocsid ac asidau e.e., asid lactig.
- Osmomedr: ar gyfer mesur cynnwys halen mewn wrin (statws hydradiad).
- Reflatron - ffotomedr sy'n caniatáu mesur gwaed yn y capilarïau, colesterol, asid wrig, glwcos, lipoproteinau dwysedd uchel (HDY) h.y., colesterol da. Ìý
Siambr Amgylcheddol Ìý Ìý
- Gellir amrywio’r tymheredd o hyd at 40º i lawr i -20º, yn ogystal ag amrywiadau o 5-95% mewn lleithder.
- Fe'i defnyddir i fesur adweithiau wrth i'r corff brofi straen eithafol, er enghraifft, dadhydradiad. Gellir cynnal profion seicolegol hefyd wrth ymarfer corff o dan amodau o straen, er enghraifft, gweithrediad gwybyddol wrth ddadhydradu.
- Roedd profion diweddar yn cynnwys dull newydd o gofnodi tymereddau gan ddefnyddio synwyryddion/cofnodwyr data wedi'u tapio i groen pobl, gyda’r rhain yn bwydo data yn uniongyrchol i gyfrifiadur. Mae gennym hefyd y gallu i gymryd tymereddau croen a’r rhefr wrth brofi yn y siambr. Ìý Ìý
Siambr Uchder
Mae’r siambr yn caniatáu amrywio'r amgylchedd o 21% ocsigen (0 m) i 7% ocsigen (8,900m, sef uchder copa Everest) gan ddefnyddio uned sy’n ymddwyn fel gogr moleciwlar i dynnu ocsigen o’r aer. Mae'n rheoli tymheredd a lleithder yn gywir i 0.1oC ac 1%. Mae gan yr Ysgol hefyd ddwy uned gludadwy gyda system babell fel bod modd hyfforddi, cysgu ac ymaddasu at uchder 'gartref'. Trwy ddefnyddio'r siambr hon mewn cyfuniad â'r sganiwr fMRI (sydd yn yr Ysgol Seicoleg), mae'n bosibl delweddu'r ymennydd a phenderfynu pam mae pobl yn cael cur pen neu salwch mynydd difrifol sy’n aml yn angheuol. Mae astudiaethau sy'n cyfuno'r defnydd o'r siambr ag ymarfer corff wedi helpu i benderfynu a all efelychu uchder helpu pobl i golli pwysau.Ìý
- Keystone - fersiwn fwy soffistigedig o'r peiriant cyfaint ysgyfaint (sbiromedr) yn y labordy addysgu. ÌýMae'n mesur y rhan fwyaf o swyddogaethau capasiti a chyfaint yr ysgyfaint e.e., cyfaint gweddilliol (y cyfaint sy’n weddill yn yr ysgyfaint ar ôl anadlu allan yn normal) - wedi'i fesur trwy ail-anadlu nwy heliwm cymysg, ac mae'n mesur cryfder cyhyrau anadlol ac effeithlonrwydd cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint.
- Haemocue - ffotomedr sy'n mesur haemoglobin o’r gwaed yn y capilarïau.
- Llif Ffisio - cyfaint strôc ac allbwn cardiaidd h.y., faint o waed sy'n cael ei bwmpio gan y galon gyda phob curiad a fesul munud.
- Tango - pwysedd gwaed awtomataidd yn ystod ymarfer corff.
- Cardiau mesur ymdrech ganfyddedig (RPE) - a ddefnyddir i asesu ymdrech wrth wneud ymarfer corff. Pwysig oherwydd bod ymdrech ganfyddedig yn rheoli dwyster ymarfer corff mewn athletwyr a phobl arferol yn ymarfer corff. ÌýÌý
Sganiwr Amsugnofetreg Pelydr-X Ynni-Deuol (Labordy DXA)Ìý
Ni oedd yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon gyntaf yn y DU i osod sganiwr DXA a'i ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mae'n gallu mesur dwysedd esgyrn a rhoi mesuriadau meinweoedd - braster; cyfansoddiad mas di-fraster/cyhyrau. Gall offer arall yn yr adran asesu cyfansoddiad y corff hefyd, fel offerynnau mesur rhwystriant trydanol, y tanc pwyso tanddwr a chaliperau plygiadau’r croen.Ìý
Labordy Addysgu Canolfan PAWB £1mÌý
Mae'r labordy addysgu ffisioleg hwn (a gostiodd mwy na £1 miliwn) gyda’r gorau o’i fath ac fe’i cynlluniwyd fel y gallai myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol. Mae'n cynnwys offer fel: Ìý
- Peiriant cyfaint yr ysgyfaint.
- Bagiau Douglas ar gyfer casglu nwy yn ystod amrywiol ymarferion a pheiriant i ddadansoddi'r nwyon hyn ar gyfer cynnwys ocsigen a charbon deuocsid a ddefnyddir i bennu lefelau ffitrwydd aerobig a defnydd ynni.
- Peiriant Wingate - yn profi'r capasiti anaerobig mwyaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio hyn yn gweld croniad o sgil-gynnyrch ymarfer corff (asid lactig).
- Beiciau a melinau traed - defnyddir y rhain i ddynwared sefyllfa ymarfer corff i fesur paramedrau ffisiolegol, biocemegol a seicolegol.Ìý
- Dau beiriant rhwyfo - peiriant rhwyfo safonol, a pheiriant caiac.Ìý
- Peiriannau pwysedd gwaed.
- Dynamomedr cefn/coesau.
- Caliperau plygiadau croen.
- System addysgu ECG.Ìý
Labordai Profion Ymarfer ac Adfer ÌýÌý
- Dynamomedr Isoginetig/Isometrig - mae'n mesur pob math o weithgarwch cymalog a chryfder cyhyrol. Gellir defnyddio'r ddynamomedr hefyd i adfer o anafiadau a gellir ei ddefnyddio ar y cyd â’r Estyniad Plygu’r Bongorff.
- Estyniad Plygu’r Bongorff - wedi'i ychwanegu at y ddynamomedr i fesur cryfder y cefn a grwpiau cyhyrau cysylltiedig.
- Peiriant electromyograffeg (EMG) - 19 sianel ynghyd â chyflymder dargludiad. Mae'n mesur signalau trydanol yn y cyhyrau, gan edrych ar gyfradd danio'r cyhyrau ac a ydynt yn blino yn ystod ymarfer corff.Ìý
- Uwchsain - yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyhyrau wrth ymarfer corff a bydd yn dangos meinwe creithiau. Hefyd, gall fesur llif y gwaed mewn pibellau gwaed a'r galon a gall ymchwilio i forffoleg a swyddogaeth y galon yn ogystal.
- Melin draed.Ìý
- Ergomedrau - Beiciau Monarch (beiciau profi cleifion), Rhwyfwr ‘Concept’.Ìý
- Peiriant Lode Corival.Ìý
Labordai Seicoleg a Seicoffisioleg
- Systemau electroenceffalograffi (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd trwy gofnodi'r gweithgarwch trydanol ar groen y pen.
- Peiriannau a meddalwedd bio-adborth i arddangos signalau seicoffisiolegol (e.e. tonnau’r ymennydd, amrywioldeb cyfradd y galon) mewn amser real a helpu unigolion i ddysgu sut i reoli eu cyflwr seicoffisiolegol.
- Tracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Synwyryddion grym a mesur cyflymiad i fesur proffiliau symud a datblygu dealltwriaeth o sut mae techneg yn datblygu gyda dysgu a sut mae straen seicolegol yn effeithio arno.
- Camerâu fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro ymatebion dynol mewn arbrofion seicoleg ac i ganiatáu cwblhau holiaduron ar-lein am gyflwr seicolegol.
Labordai Seicoechddygol a Rheoli Symudiadau a Dysgu
- Mae yna 5 o'r rhain i gyd a defnyddir yr offer sefydlog i fonitro, mesur a deall symudiadau dynol a rheoli gweithgarwch, yn amrywio o sgiliau echddygol manwl syml i symudiadau a ddefnyddir mewn chwaraeon egnïol lle mae’r holl gorff ar waith, a hynny o dan driniaethau seicolegol, ffisiolegol ac amgylcheddol diderfyn.
- Labordy dadansoddi symudiad gyda 12 Camera Vicon 3D.Ìý
- Labordy dadansoddi symudiad Optotrack.Ìý
- Manipulandum yr aelodau uchaf gyda dyfeisiau mesur cyflymiad.Ìý
- Tabledi Graffeg 2D cydraniad uchel.Ìý
- System symudol tracio llygaid i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.
- Camera fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro a dadansoddi sgiliau symud.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae’r radd yma wedi eu hanelu at fyfyrwyr meddygol sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y nifer gofynnol o flynyddoedd mewn Ysgol Feddygol ac sy’n dymuno cael BSc i arbenigo neu gael profiad mewn gwyddorau chwaraeon neu wyddorau chwaraeon clinigol.
Pennir meini prawf penodol rhwng eich Ysgol Feddygol a Phrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Cyfeiriwch at eich Ysgol Feddygol am fanylion pellach.
Sut i wneud Cais
I wneud cais am y cwrs rhyngosodol hwn, dylech lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais yma a'i hanfon at:Ìýderbyniadau@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Bydd ein gradd ryngosodol BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon yn paratoi myfyrwyr meddygol gyda'r sgiliau angenrheidiol i gymhwyso ei hyfforddiant meddygol i sefyllfaoedd penodol yn y sector chwaraeon ac ymarfer corff. Er enghraifft, gall graddedigion weithio ym maes meddygaeth chwaraeon, adsefydlu trwy ymarfer, addysg (cleifion, athletwyr a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill), neu ymchwil (e.e., symud ymlaen i yrfaoedd PhD/Cymrawd Ymchwil). Bydd datblygu sgiliau trosglwyddadwy yn sicrhau bod y myfyrwyr mewn gwell sefyllfa i ddefnyddio ymarfer ar sail tystiolaeth yn eu practis meddygol cyffredinol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.