Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ar y cwrs byddwch yn datblygu dealltwriaeth gyffredinol o Systemau'r Ddaear a swyddogaeth y cefnforoedd yn y systemau hynny. Mae gwaith maes a sesiynau ymarferol yn elfen allweddol o'r radd hon. ÌýMae pwyslais ar ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i ddiwydiant, yn enwedig o ran materion fel y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, lefel y môr yn codi, llygredd yn y môr a defnyddio ynni o'r môr.Ìý
Mae'r radd hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth y cefnforoedd yn System y Ddaear a'u dylanwad ar yr hinsawdd; yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Nod y ddwy flynedd gyntaf yw datblygu dealltwriaeth gyffredinol o System y Ddaear a swyddogaeth y cefnforoedd yn y system honno. Canolbwyntiwn yn benodol ar swyddogaethau'r moroedd bas, sy'n amgylchynu'r cyfandiroedd, ac ar y ryngweithio rhwng rhew a'r cefnforoedd. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn arbenigo yn eich modiwlau gan gynnwys modelu cyfrifiadurol o'r cefnfor a gwaith maes preswyl geoffisegol. Felly, mae'r cwrs yn rhoi pwyslais neilltuol ar ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i ddiwydiant, yn enwedig o ran materion fel y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, codiad yn lefel y môr, llygredd yn y môr a manteisio ar ynni o'r môr. Cewch ymchwilio i agweddau ymarferol ar eigioneg ffisegol trwy fodelu cyfrifiadurol, arbrofion labordy a gwaith maes, sy'n cynnwys rhaglen ar ein llong ymchwil.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?ÌýÌý Ìý
- Ymchwil o safon fyd-eang a rhagoriaeth mewn addysgu sy'n ymestyn yn ôl dros 50 mlynedd. Mae ein harbenigedd yn cynnwys pob agwedd ar wyddor y môr, ac mae'r diddordebau ymchwil yn amrywio o riffiau cwrel trofannol i gefnforoedd y pegynau. Ìý
- Mae gwaith maes lleol yn digwydd ym mharc GeoMôn sy'n ddynodedig gan UNESCO, Parc Cenedlaethol Eryri, Afon Menai a Môr Iwerddon.
- Ymhlith y cyfleusterau mae llong ymchwil, uwchgyfrifiaduron, offer arolygu o'r radd flaenaf ac angorfeydd eigioneg ar gyfer casglu data.
- Rydym yn rhannu ein safle â Chanolfan Fôr Cymru, sy'n cynnig cysylltiadau uniongyrchol â diwydiant, gan gynnwys rhai sy'n ymwneud ag adnoddau adnewyddadwy'r môr, ac mae cyfleoedd i chi ymgymryd â phrosiectau gyda diwydiant.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs yn cynnwys hyd at 25-35 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol yn y labordy a gwaith maes, astudio preifat, tiwtorialau a gwaith prosiect. Byddwch hefyd yn gwneud adolygiadau llenyddiaeth, ymarferion, traethodau, ysgrifennu ymarferol a gwaith maes, cyflwyno a mynychu seminarau a llawer iawn o ddarllen. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn gweithio ar draethawd hir a gaiff ei oruchwylio'n unigol gan aelod academaidd o’r staff sy’n meddu ar arbenigedd perthnasol i'ch prosiect. Gall eich prosiect fod ar ffurf datblygu a chymhwyso modelau rhifiadol ar gyfer darogan, er enghraifft, ceryntau’r cefnforoedd, neu ddadansoddi data. Mae ein dulliau asesu’n amrywio - mae'r rhan fwyaf o’r modiwlau'n cyfuno asesu parhaus ag arholi ffurfiol.ÌýÌý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Yr Eigion a Geoffiseg BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 112-144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys graddÌýB mewn Mathemateg neu Ffiseg ac fel rheol mewn 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Daearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DMM -DDD
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DMM -DDD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DMM -DDD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn Mathemateg neu Ffiseg ac mewnÌýpwnc gwyddoniaeth arall)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 120-144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys graddÌýB mewn Mathemateg neu Ffiseg ac fel rheol mewn 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Daearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM -DDD
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM -DDD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DDM -DDD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H5 mewn Mathemateg neu Ffiseg ac mewnÌýpwnc gwyddoniaeth arall)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn baratoad delfrydol at yrfaoedd, mewn diwydiant a'r byd academaidd, sy'n gysylltiedig ag ynni adnewyddadwy o’r môr, ymchwil i’r newid yn yr hinsawdd, arolygon gyda’r glannau, rheoli parthau arfordirol a’r cyfryngau darlledu, lle mae galw mawr am y gallu i gasglu a dadansoddi ac animeiddio setiau data rhifiadol mawr gyda chyfrifiaduron a Ìýgraffeg cyfrifiadurol.
Mae gennym record gref o gyflogadwyedd a gefnogir gan rwydwaith helaeth o gyn-fyfyrwyr, sy'n cynnwys nifer o arweinwyr y diwydiant gyda’r glannau yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys ynni adnewyddadwy morol. Daw llawer o'n graddedigion yn ôl yn rheolaidd i siarad â’r myfyrwyr israddedig cyfredol am y rhagolygon o ran gyrfaoedd. Mae’r cyn-fyfyrwyr hefyd yn cynnig cyngor uniongyrchol a phersonol am yrfaoedd ar gais myfyrwyr unigol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý