Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein nod yn syml – mae arnom ni eisiau eich helpu i ddod yn weithiwr Ìýcyfrifiadurol proffesiynol sydd â'r gallu i fod ar flaen y gad gyda’r datblygiadau chwim ym maes cyfrifiadureg. Ar ôl graddio gydag un o'n graddau cyfrifiadureg dylech allu cael swydd dda yn y diwydiant cyfrifiadureg yn y Deyrnas Unedig neu'n wir gydag unrhyw un o'r cwmnïau cyfrifiadurol rhyngwladol, neu astudio am radd uwch fel gradd Meistr neu PhD (sydd hefyd ar gael ym Mangor).
Mae'r BSc Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen yn cyfuno blwyddyn sylfaen gyda gradd anrhydedd tair blynedd i greu rhaglen gyfun bedair blynedd. Mae rhaglen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc gwyddonol yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio ar lefel gradd. Ìý
Mae’r rhaglen Blwyddyn Sylfaen yn ddelfrydol i ymgeiswyr nad ydynt yn cyflawni gofynion mynediad gradd tair blynedd yn llawn neu a fyddai'n elwa o astudio pwnc gwyddonol am flwyddyn arall.
Bydd cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus yn golygu y cewch symud ymlaen i Flwyddyn 1 y rhaglen BSc Cyfrifiadureg.Ìý
Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, cewch eich dysgu gan staff ymroddedig a brwdfrydig a bydd gennych fynediad at gyfleusterau a rhwydwaith cymorth myfyrwyr helaeth y Brifysgol.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Mae ein cyrsiau'n adlewyrchu'rdatblygiadau diweddaraf. Mae'r staff yn ymarferwyr proffesiynol sy'n gweithio ar brosiectau ar y cyd ac yn gweithredu fel ymgynghorwyr i ddiwydiant.
- Mae prosiectau'r flwyddyn olaf yn cyd-daro â'r ymchwil cyfredol - ac mae hynny'n fanteisiol wrth chwilio am swyddi.
- Rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith prosiect ac ymchwil.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Trwy gydol eich gradd byddwch yn astudio ystod o fodiwlau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o wahanol weithgareddau dysgu, a all gynnwys darlithoedd, sesiynau tiwtorial, ac ymarferion labordy. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy gwblhau amrywiaeth eang o asesiadau.
Mae elfen blwyddyn sylfaen y rhaglen wedi ei chynllunio i'ch paratoi at astudio ar lefel gradd. ÌýByddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau academaidd a'ch gwybodaeth benodol am y pwnc, cyn symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen. ÌýByddwch yn astudio modiwlau sy'n canolbwyntio ar TG a sgiliau cyfathrebu a mathemateg hanfodol ac yn datblygu cyfres o sgiliau drwy ymgymryd â phroject ymchwil pwnc-benodol. Yn ogystal, byddwch yn cwblhau modiwlau ar Fathemateg Bellach a Chyfrifiadureg.
Yn ogystal â dysgu hanfodion cyfrifiadureg a sgiliau rhaglennu uwch, byddwch yn elwa o ddysgu sy'n ymwneud â diddordebau ymchwil y staff academaidd. Mae graffeg gyfrifiadurol, asiantau a deallusrwydd artiffisial a chyfathrebu data ymhlith yr arbenigeddau y gellir eu hastudio yn ystod y cwrs. Os yw'r meysydd hyn yn apelio atoch, dyma'r cwrs Cyfrifiadureg i chi.
Nod Blwyddyn 1 a 2 y rhaglen BSc yw cydgrynhoi a dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu eich sylfaen sgiliau. Nod y drydedd flwyddyn yw mynd ati o ddifri i ddatblygu eich dealltwriaeth feirniadol o'r pwnc a gwella'ch cyflogadwyedd ymhellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyfrifiadureg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.Ìý
- Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.Ìý
Rhithdaith 360 o'n cyfleusterau ardderchog
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: gradd C/4 mewn Mathemateg.
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 48-88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:Ìý
- Lefel A (yn cynnwys AS, Astudiaethau Cyffredinol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig (EPQ)
- Derbynir Diploma / Tystysgrif BTEC a Diploma / Tystysgrif Technegol CaergrawntÌý
- Diploma Technegol City & Guilds
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n. Bydd myfyrwyr hÅ·n yn cael eu hystyried fesul achos.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.Ìý
TGAU: gradd C/4 mewn Mathemateg.
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 48-112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:Ìý
- Lefel A (yn cynnwys AS, Astudiaethau Cyffredinol)
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig (EPQ)
- Derbynir Diploma / Tystysgrif BTEC a Diploma / Tystysgrif Technegol CaergrawntÌý
- Diploma Technegol City & Guilds
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n. Bydd myfyrwyr hÅ·n yn cael eu hystyried fesul achos.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.Ìý
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs yn eich paratoi at amrywiaeth o yrfaoedd mewn peirianneg meddalwedd, datblygu rhaglenni gwe, rhaglennu, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli TG, gwerthu cyfrifiaduron a marchnata. Bydd elfen busnes a rheolaeth y cwrs hwn yn eich helpu i fod yn rheolwr project.
Os ydych chi wastad wedi bod eisiau dilyn gyrfa mewn TG ond erioed wedi cael y cymwysterau, y sylfaen hon yw'r ffordd berffaith o wireddu'ch breuddwydion!
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.