Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Radd-brentisiaeth Seiberddiogelwch Gymhwysol yn ffordd arloesol a hyblyg o astudio am radd gan weithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs gradd ar gael i rai a gyflogir yn unig. Cyflwynir y dysgu un diwrnod yr wythnos yng Ngr诺p Llandrillo Menai am y ddwy flynedd gyntaf, ac ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 am y flwyddyn olaf.听
Datblygwyd y radd hon ar y cyd 芒 byd diwydiant i sicrhau bod y cwricwlwm yn berthnasol i ofynion y sector TG a datblygiad y gweithlu. Mae'n ymdrin 芒 phob agwedd ar seiberddiogelwch, gan gyfuno dysgu academaidd traddodiadol 芒 dysgu seiliedig ar waith.
Mae'r llwybr hwn yn arfogi'r technegydd rhwydwaith modern 芒'r sgiliau sy'n ofynnol i reoli a diogelu systemau cyfrifiadurol. Datblygir amryw o sgiliau gan gynnwys sgiliau rhaglennu gyda Python, cyflwyniad i rwydweithiau gyda chyrsiau CISCO CCNA, deddfwriaeth sy'n ymwneud 芒 rheoli system gyfrifiadurol a rheolaeth a diogelwch gwefannau. Yn y flwyddyn olaf mae project: Datrysiad Diogelwch Uwch, ynghyd 芒 mathemateg Cryptograffeg ffurfiol, Profi Treiddiad, a datblygu Meddalwedd ac Enterprise Java.
Os ydych yn chwilio am gwrs prifysgol sy'n berthnasol i'r sector TG ac y gellir ei gwblhau wrth i chi weithio, yna mae'r radd-brentisiaeth BSc hon mewn seiberddiogelwch gymhwysol yn ddelfrydol. Bydd y rhaglen radd o fudd i chi ac yn hybu eich gwybodaeth a'ch cyfleoedd gyrfa, ac yn hybu llwyddiant eich cyflogwr hefyd.
Ar 么l cwblhau dwy flynedd o'r cwrs gellir ennill gradd FdSc fel cymhwyster ymadael, sydd wedi ei achredu dan y 听Fframwaith Prentisiaethau Uwch trwy'r Tech Partnership, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer TG.
Hyd
Fel rheol, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag astudiaeth academaidd am un diwrnod ac un noson yr wythnos am dair blynedd.
Lleoliad
Am y ddwy flynedd gyntaf, fel rheol ymgymerir 芒'n rhaglenni prentisiaeth gradd ddigidol mewn colegau naill ai yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam neu Landrillo-yn-Rhos, a dysgir ein rhaglenni gradd-brentisiaethau peirianneg mewn colegau yn Llangefni neu Landrillo-yn-Rhos. Dysgir blwyddyn olaf y brentisiaeth ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs ?
- Ariennir y cwrs hwn yn llawn gan Gyngor Addysg Uwch Cymru. Mae hyn yn golygu y gallwch gael gradd heb unrhyw ddyled ac mae'ch cyflogwr yn cael aelod staff sydd 芒 mwy o sgiliau sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol 芒'r busnes.
- Y cyfraniad y mae'n rhaid i'ch cyflogwr ei wneud yw eich rhyddhau o'r gwaith i fynd i'r coleg neu'r brifysgol un diwrnod yr wythnos.
- Rydych chi'n aros mewn gwaith wrth i chi astudio ar gyfer eich gradd. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn dechrau ar lefel sydd fwyaf priodol iddyn nhw, yn seiliedig ar brofiad perthnasol neu addysg flaenorol. Mae hyn yn golygu na ofynnir i chi ailadrodd unrhyw beth rydych wedi ei gyflawni o'r blaen, ond yn hytrach adeiladu ar wybodaeth sydd eisoes gennych ac ymestyn eich potensial yn y dyfodol.
- Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen hon yn elwa o allu cynyddu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfa. Yn y pen draw, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i helpu busnes eich cyflogwr i ddatblygu.
- Bydd holl adnoddau鈥檙 coleg a'r brifysgol ar gael i chi, gan roi hyblygrwydd dau amgylchedd dysgu deinamig i chi.
Cynnwys y Cwrs
Cyflwynir y Radd-brentisiaeth mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol trwy ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Bydd cyflwyniadau hefyd gan siaradwyr gwadd. Mae鈥檙 dysgu'n ymarferol ac yn anffurfiol. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau fel aseiniadau ymarferol a damcaniaethol, adroddiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith project, portffolios ac aseiniadau t卯m.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gradd-brentisiaeth mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyfrifiadureg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.听
- Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saern茂aeth cyfrifiaduron.听
Rhithdaith 360 o'n cyfleusterau ardderchog
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o鈥檙 archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig 芒'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy鈥檔 cael eu cefnogi gan staff profiadol, i鈥檆h helpu i astudio.听
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy鈥檔 cynnwys:听
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy鈥檔 galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Ariennir y Radd-brentisiaeth mewn Seiberddiogelwch Cymhwysol hwn yn llawn, yn amodol ar gadarnhad gan HEFCW, sy'n cynnwys y ffioedd dysgu llawn, sef 拢27,000 (h.y., 拢9000 y flwyddyn fesul myfyriwr dros 3 blynedd).
Gall y ffioedd godi ym mlynyddoedd dilynol y cwrs yn unol ag unrhyw swm a bennir gan Lywodraeth Cymru. 听Nid yw'r ffioedd dysgu yn cynnwys costau prynu llyfrau neu ddeunyddiau ysgrifennu, argraffu, rhwymo traethawd hir neu gostau llungop茂o.
Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gorfodol ynghlwm wrth y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
- Rhaid i'r prentisiaid fod naill ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser (o leiaf 16 awr yr wythnos) mewn cyflogaeth berthnasol.
- Caiff pob ymgeisydd ei ystyried fesul achos a bydd disgwyl iddynt ddod am gyfweliad anffurfiol.听
Sut i wneud cais听听
Ar gyfer pob Gradd-brentisiaeth, gwnewch gais yn uniongyrchol gyda chymorth ein Nodiadau Canllaw.
Ar 么l i chi ddarllen y canllawiau, dylech wneud cais gan ddefnyddio'r .