Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mi wnaiff y cwrs eich paratoi chi at yrfa broffesiynol mewn dylunio systemau electronig. Byddwn yn rhoi sylfaen drylwyr i chi yn yr holl dechnegau diweddaraf mewn electroneg analog a digidol. ÌýRydym yn adnabyddus am roi pwyslais ar sgiliau ymarferol, a bydd y radd yn rhoi profiad ymarferol helaeth i chi a fydd yn ategu'r wybodaeth ddamcaniaethol sydd ynglÅ·n â'r pwnc cyffrous hwn.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gwaith fel peiriannydd proffesiynol ar y blaen yn y diwydiant uwch-dechnoleg mewn swyddi technegol a rheoli. Yn ystod y radd, byddwch yn ennill profiad ymarferol helaeth i sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau ymarferol cadarn yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol drylwyr.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?ÌýÌý Ìý
- Yn amodol ar ail-archrediad gan yr Institution of Engineering and Technology ar ran yr Engineering Council at ddibenion diwallu’n rhannol y gofyniad academaidd i gofrestru fel Peiriannydd Siartredig.
- Mae galw mawr gan gyflogwyr rhyngwladol am raddedigion y cwrs.Ìý
- Mae gennym gyfradd gyflogadwyedd o 95%.
- Mae gennym ymchwil cryf mewn optoelectroneg, cyfathrebu, microelectroneg, bioelectroneg a gwyddor deunyddiau, ac electroneg organig a phlastig.Ìý
- Mae Peirianneg Electronig ym Mangor yn y 4ydd safle yn y Deyrnas Unedig am Ymchwil.Ìý
- Cydnabyddir gan Ffederasiwn Cymdeithasau Peirianneg Cenedlaethol Ewrop.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio tua 12 awr mewn darlithoedd ac 8 awr mewn labordai bob wythnos. Byddwch hefyd yn cael tiwtorialau a bydd rhaid i chi ysgrifennu adroddiadau am yr arbrofion, gweithio ar ddylunio meddalwedd a chwblhau ymarferion datrys problemau rhifiadol.
Byddwch yn sefyll arholiad ar bob modiwl ar ddiwedd y semester. Caiff rhai modiwlau eu hasesu trwy waith cwrs hefyd. Mae eich llyfrau gwaith labordy, adroddiadau technegol a'r project unigol hefyd yn cyfrannu at eich marciau.
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen yn gyfle i chi adeiladu sylfaen gadarn o ran dylunio, modelu ac adeiladu cylchedau analog a digidol.Ìý
Ìý
Mae'r ail flwyddyn yn datblygu’r sylfeini ac yn defnyddio'r sgiliau newydd hyn at gysyniadau mwy datblygedig mewn cylchedau electronig, gan gynnwys VLSI a Chylchedau Digidol, Rheoli Projectau Cynaliadwy a Microelectroneg a Nanoffononeg.Ìý
Ìý
Yn ystod trydedd flwyddyn y cwrs mae’n bosib dewis rhai elfennau er mwyn arbenigo, a thrwy hyn ynghyd â'r project unigol bydd gennych brofiad unigryw a phersonol.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Peirianneg Electronig BEng (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.Ìý
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi’r gwaith o gyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.Ìý
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd. ÌýMae’n llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell lân 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau. ÌýBydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell lân sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig arÌý112- 128 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: gan gynnwys o leiaf gradd C mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Ffiseg neu Electroneg. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTECÌýÌýmewn Peirianneg Drydanol / Electronig*: DMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Peirianneg*:ÌýDMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080)Ìýmewn Peirianneg*: DMM - DDM
- Derbynnir Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys H5 mewn Mathemateg a H5 mewn Ffiseg
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad:Ìýystyrir fesul achos
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
* Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Os nad oes gennych y cymwysterau uchod neu ddim yn cyflawni'r gofynion mynediad wedi amlinellu gwelwch y cwrsÌýPeirianneg Electronig BSc (Anrh). * Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig arÌý120-136 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: gan gynnwys o leiaf gradd C mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Ffiseg neu Electroneg. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTECÌýÌýmewn Peirianneg Drydanol / Electronig*: DDM-DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Peirianneg*:ÌýDDM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080)Ìýmewn Peirianneg*: DDM-DDD
- Derbynnir Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys H5 mewn Mathemateg a H5 mewn Ffiseg
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad:Ìýystyrir fesul achos
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
* Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
Os nad oes gennych y cymwysterau uchod neu ddim yn cyflawni'r gofynion mynediad wedi amlinellu gwelwch y cwrsÌýPeirianneg Electronig BSc (Anrh). * Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý
Gyrfaoedd
Mae gan raddedigion mewn Peirianneg Electronig ragolygon gyrfa rhagorol. Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, mae llawer yn cael swyddi peirianneg electronig mewn busnesau bach neu fawr, neu gyfleusterau ymchwil a datblygu'r llywodraeth neu breifat. Fodd bynnag, mae natur datrys problemau a thrin rhifau ein cyrsiau gradd peirianneg yn golygu bod graddedigion yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn llawer o broffesiynau eraill, yn amrywio o swyddi rheoli cyffredinol i weithio fel dadansoddwyr rhifiadol. Mae astudiaeth ôl-radd yn opsiwn cyffrous arall i rai.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Peirianneg Electronig (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý