Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi eisiau dysgu mwy am lywodraeth a chymdeithas a sut mae systemau gwleidyddol yn gweithio? Oes gennych chi ddiddordeb yn y ffordd mae pobl, sefydliadau a syniadau'n rhyngweithio? Mae’r cwrs hwn yn ystyried materion pwysig sy'n ymwneud â dylanwad pŵer, llywodraethu, sofraniaeth, gwrthdaro, trefn, cyfryngu, rhwymedigaeth, cyfiawnder, atebolrwydd, cyfreithlondeb, diogelwch a gwneud penderfyniadau. Cyflwynir i chi ddulliau rhyngddisgyblaethol o drafod elfennau damcaniaethol, athronyddol, hanesyddol, sefydliadol, ynghyd â materion sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth gyfoes.
Bydd y radd hon yn caniatáu ichi astudio’r berthynas gymhleth rhwng gwleidyddiaeth a chymdeithas. Mae’r amryfal fodiwlau a gynigir yn dadansoddi sut mae syniadau a phenderfyniadau gwleidyddol yn siapio ein bywydau beunyddiol ac yn effeithio ar ein profiadau a'n hunaniaethau cymdeithasol a diwylliannol. Maent hefyd yn astudio sut mae rhai o'r materion mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu'r byd heddiw, gan gynnwys hil, rhywedd, yr amgylchedd, y cyfryngau a thlodi, yn dylanwadu ar yr un syniadau a’r systemau hynny. Os oes gennych ddiddordeb yn y rhyngweithio rhwng gwleidyddiaeth a phobl, a’ch bod yn frwd dros gyfiawnder cymdeithasol, yna dyma'r cwrs i chi. Ìý
Bydd ein cynllun gradd unigryw a deinamig yn cynnig cyfle i chi archwilio gwleidyddiaeth o ystod o safbwyntiau rhyngddisgyblaethol gan gynnwys gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, athroniaeth a hanes. Mae ein dull rhyngddisgyblaethol yn sicrhau eich bod yn deall natur amlochrog gwleidyddiaeth, gan sicrhau y gallwch gymryd rhan mewn dadleuon gwleidyddol cyfoes ac archwilio materion allweddol o ystod eang o wahanol safbwyntiau.
Yn ogystal â'ch galluogi i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar fywydau beunyddiol unigolion ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang, mae ein gradd hefyd yn sicrhau y byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y byd academaidd a chan gyflogwyr, megis dadansoddi, gwerthuso, datrys problemau a chyfathrebu effeithiol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn mewn lleoliad galwedigaethol, gyda llawer o'n myfyrwyr yn penderfynu ymgymryd â phrofiad gwaith, gyda lleoliadau ar gael mewn ystod eang o feysydd perthnasol gan gynnwys llywodraeth leol.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Ymuno â chymuned ddysgu gyfeillgar, gefnogol ac ysgogol.
- Nid yw byd gwleidyddiaeth yn aros yn ei unfan - caiff y dirwedd hon sy’n newid yn gyflym ei hadlewyrchu mewn addysgu wedi'i lywio gan ymchwil arloesol.
- Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth allweddol - dysgu meddwl yn feirniadol ac yn 'wleidyddol'.
- Archwilio amrywiaeth o faterion, megis: dylanwad a rheolaeth y cyfryngau; pŵer gwleidyddol, cyfreithlondeb, a'r wladwriaeth; mudiadau cymdeithasol, cymdeithas sifil, a'r cylch cyhoeddus.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Dysgir pob modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau.
Caiff darlithoedd eu harwain gan diwtor cwrs ble cewch eich cyflwyno i'r themâu a'r materion canolog sydd i'w trafod trwy gydol y modiwl.Ìý
Bydd seminarau wythnosol yn cyd-fynd â darlithoedd sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr fynegi eu syniadau neu drafod pynciau mewn grwpiau bach.Ìý
Defnyddir Blackboard hefyd yn rhan o’r modiwlau, sef cyfrwng dysgu ar-lein y brifysgol.
Trwy gydol eich gradd byddwch yn cael cyfle i gwblhau gwahanol fathau o asesu, megis:
- Arholiadau
- Traethodau
- Astudiaethau Achos
- Adolygu Llyfrau
- Dadansoddi Testun
- Cyflwyniad Llafar
- Podlediadau
- Cyflwyniadau Poster
Trwy gwblhau ystod mor amrywiol o asesiadau, cewch gyfle i ddatblygu ystod eang o wahanol sgiliau ac arddulliau ysgrifennu a fydd yn amhrisiadwy yn eich gyrfaoedd maes o law.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn gyntaf eich gradd Gwleidyddiaeth byddwch yn dewis o blith detholiad o fodiwlau sy'n rhoi sylfaen gadarn yn y maes pwnc. Yn ogystal â modiwlau gorfodol sy'n canolbwyntio ar Egwyddorion Gwleidyddiaeth, Gwleidyddiaeth Fodern ar Waith, Cyflwyniad i Hanes Modern ac Ymchwil Cymdeithasol a Gwleidyddol byddwch hefyd yn dewis dau fodiwl arall o blith rhestr o'r opsiynau sydd ar gael.
Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwleidyddiaeth BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Mae cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen profiad gwaith yr Ysgol a chael profiad galwedigaethol o swyddi sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth a'r llywodraeth.Ìý
- Mae'r Ysgol yn cynnal teithiau i Senedd-dai’r Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.
- Mae'r Ysgol yn cynnal sgyrsiau a seminarau yn rheolaidd sy'n cael eu harwain gan ffigyrau gwleidyddol ac ysgolheigion blaenllaw.Ìý
- Mae gan yr Ysgol ei hystafell gyffredin ei hun i fyfyrwyr lle mae cyfrifiaduron ar gael.
- Mae gan yr Ysgol ei chyfnodolyn ei hun lle gall myfyrwyr gyhoeddi eu gwaith.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Ìý
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Trwy astudio Gwleidyddiaeth, byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio mewn lleoliadau academaidd a galwedigaethol.Ìý
Er enghraifft, mae ein gradd yn annog myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau fel datrys problemau, dadansoddi a gwerthuso, cyfathrebu a chyflwyno, rheoli amser, sgiliau trefnu a gwaith tîm. Caiff y sgiliau trosglwyddadwy hyn eu gwerthfawrogi gan ystod eang o gyflogwyr a gallant arwain graddedigion Gwleidyddiaeth at gyflogaeth mewn ystod o wahanol feysydd megis:
- Llywodraeth Leol a Chenedlaethol Ìý
- Y Gwasanaeth Sifil ÌýÌý
- Addysgu ac addysgÌý
- Y byd academaiddÌý
- Gwasanaethau Cyfraith a Chyfreithiol Ìý
- Busnes a RheolaethÌý
- BancioÌý
- Y Gwasanaeth Carchar Ìý
- Newyddiaduraeth
- CyhoeddiÌý
- Asiantaethau dielw
- Y CyfryngauÌý
Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud graddau uwch sy'n arwain at MA, Mhres neu PhD.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Wleidyddiaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý