Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:
To car heddlu

Plismona Proffesiynol BSc (Anrh) Israddedig - Mynediad: Medi 2025/26*

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS L436
  • Cymhwyster BSc (Anrh)
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Nac oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Nac oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025
To car heddlu

Darllen mwy: Plismona

Mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai (GLlM), rydym yn cynnig gradd israddedig mewn Plismona Proffesiynol - mae'r radd wedi'i thrwyddedu gan y Coleg Plismona. Bydd hynny'n cyflwyno'r sgiliau angenrheidiol i'r myfyrwyr weithio fel swyddogion heddlu ac mae'n adeiladu ar y Radd Sylfaen hynod lwyddiannus mewn Plismona y bu Grŵp Llandrillo Menai'n ei chynnig ers rhai blynyddoedd.

Ffeithiau Allweddol gan Darganfod Prifysgol

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ!

[0:07] Welcome to Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr.

Sgwrsiwch gyda'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Plismona llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Plismona ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Plismona ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

*Mae'r flwyddyn mynediad yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd mae'r cwrs yn cychwyn ynddi yn hytrach na'r flwyddyn galendr. E.e. bydd gan gwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2025 ddyddiad 'Mynediad Mawrth 2024/25' gan fod y flwyddyn academaidd yn cychwyn ym Medi 2024/25. Yn yr un modd, bydd gan gwrs sy'n cychwyn yn Ionawr 2025 y dyddiad 'Mynediad Ionawr 2024/25' gan mai 2024/25 yw'r flwyddyn academaidd.