Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Beth yw’r ffordd orau o atal ad-droseddwyr cyson a’u hadsefydlu mewn cymdeithas? Sut mae troi sylw pobl ifanc at addysg yn lle trosedd? A ddylai'r ffocws fod ar gosbi neu adsefydlu? Dyma’r math o gwestiynau sydd wrth wraidd ein radd BA (Anrh.) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.
Fel cymdeithas, ein diddordeb, ein chwilfrydedd a’n pryderon am ymddygiad troseddol, trosedd a’i gysylltiad â’n bywydau bob dydd sy’n rhannol gyfrifol am ddenu cymaint o bobl i astudio troseddeg. Yn ogystal ag archwilio beth sy'n achosi i bobl gyflawni trosedd a sut maent yn ymateb i gosb ac ataliadau eraill, mae ein gradd Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol o sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio.
Ei nod yw eich arfogi â set eang o sgiliau ymchwil cymdeithasol i ddeall a dadansoddi rhai o faterion mwyaf cymdeithas. Bydd modiwlau arbenigol yn eich galluogi i ganolbwyntio ar feysydd cymhleth o ymddygiad dynol megis cam-drin cyffuriau, trais rhyngbersonol a thrais domestig, a throseddu trefnedig, yn ogystal â’r materion cymdeithasol sy'n dylanwadu arnynt.
Mae ein cysylltiadau cryf ag asiantaethau cyfiawnder troseddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn darparu cyfleoedd ar gyfer profiad uniongyrchol. Yn y gorffennol, er enghraifft, mae myfyrwyr wedi clywed gan Heddlu Manceinion Fwyaf a Heddlu Gogledd Cymru, ac wedi gwirfoddoli gyda Chymorth i Ddioddefwyr. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod eich dysgu’n adlewyrchu trafodaeth gyfoes am faterion megis grym gormodol yr heddlu neu droseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau.
Bydd eich set sgiliau o ddefnydd i unrhyw sefydliad sydd angen gwaith ymchwiliol a/neu sydd â chylch gwaith i reoli trosedd. Gallech helpu i atal twyll budd-daliadau, troseddau treth neu hyd yn oed achosion o dorri rheoliadau’r Asiantaethau Ffiniau, i enwi dim ond rhai. O ganlyniad bydd y sgiliau a’r wybodaeth bydd gennych pam fyddwch yn graddio yn agor drysau at amrywiaeth eang o yrfaoedd gan gynnwys y canlynol: heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf, diogelwch neu wasanaethau troseddwyr ifanc, gwaith cymdeithasol, amddiffyn plant, llywodraeth leol neu genedlaethol, cyrff anllywodraethol, elusennau a mwy.
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Astudiwch y ffactorau cymdeithasol, cyfreithiol a gwleidyddol sy'n dylanwadu ar drosedd, cosb ac erledigaeth, a dysgwch sut mae asiantaethau megis yr heddlu, y llysoedd, carchardai a'r gwasanaeth prawf yn rheoli troseddwyr ac yn atal trosedd.
- Enillwch well dealltwriaeth o system cyfiawnder troseddol y Deyrnas Unedig gyda theithiau maes a siaradwyr gwadd, sydd wedi cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth prawf a Biwro Rhyngwladol yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
- Addysgir y cwrs gan ymchwilwyr o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn cynrychioliadau o drosedd yn y cyfryngau, erledigaeth, troseddau twyll, effeithiau trosedd ar gymdeithas a datblygu polisi mewn ymateb i drosedd.
- Bydd modiwlau craidd yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn agweddau sylweddol, methodolegol a damcaniaethol ar Droseddeg yn ogystal ag agweddau cysylltiedig ar y gyfraith, cymdeithaseg a seicoleg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn mynd law yn llaw: gall y dealltwriaeth a geir o astudio trosedd, troseddwyr, dioddefwyr a’n hymateb i drosedd lywio’r ffordd y caiff cyfiawnder troseddol ei weinyddu a’i ddarparu.
Bydd y radd droseddeg hon yn archwilio cwestiynau cymhleth ynghylch pam mae trosedd yn digwydd, sut i ddelio â throseddwyr a sut atal trosedd. Byddwch yn ystyried materion allweddol yn ymwneud â chyfiawnder troseddol, megis dedfrydu troseddwyr, enw da a chyfrifoldebau’r heddlu, a chanfyddiad y cyhoedd o degwch a chyfiawnder.
Bydd amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol arbenigol yn eich galluogi i astudio pob math o drosedd, o lofruddion cyfresol a throseddau rhywiol i seiberdroseddu a throseddau treisgar. Gallwch hefyd ddewis modiwlau o blith gwleidyddiaeth, polisi cymdeithasol, cymdeithaseg neu hanes, gan deilwra eich astudiaethau i'r hyn sy’n mynd â’ch bryd.
Ar y rhaglen radd hon, byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau i ofyn ac ateb cwestiynau cymhleth ynghylch dioddefoleg, troseddolrwydd, troseddu, gorfodi'r gyfraith a darparu cyfiawnder. Ein nod yw rhoi gwerthfawrogiad i chi o ffactorau cyfrannol ehangach megis iechyd, lles, economeg, addysg a chymdeithas.
Byddwch yn astudio gwreiddiau, swyddogaethau ac esblygiad cyfraith trosedd, ochr yn ochr â sefydliadau cyfiawnder troseddol (yr heddlu, carchardai a’r llysoedd), cwmnïau preifat a grwpiau gwirfoddol sy'n chwarae rhan mewn rheoli troseddwyr ac atal troseddau. Bydd hyn oll yn eich paratoi’n well i werthuso a datblygu atebion ymarferol i droseddu – boed hynny’n ddeddfwriaeth a llunio polisi neu blismona, defnyddio’r gwasanaethau cymdeithasol, carcharu ac adsefydlu.
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn clywed profiadau uniongyrchol gan siaradwyr gwadd megis uwch swyddogion heddlu, gweithwyr estyn allan sy’n ymwneud â chyffuriau a staff cyfiawnder troseddol. Bydd digon o gyfleoedd hefyd i drafod straeon newyddion sy’n trendio.
Bydd y flwyddyn ar leoliad a'r modiwl lleoliad gwaith dewisol yn gyfle i chi gael profiad gwaith yng nghyd-destun bywyd go iawn. Mae cyn-fyfyrwyr yr Ysgol, er enghraifft, wedi treulio amser gyda Chymorth i Ddioddefwyr a Chyngor ar Bopeth, gan ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a dysgu sut i reoli sefyllfaoedd heriol.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn dilyn y modiwlau gorfodol Cyflwyniad i Droseddeg*, Chyflwyniad i Gyfiawnder Troseddol* a Vulnerability and Risk in Criminal Justice. Bydd myfyrwyr yn dewis 60 credyd pellach (tri modiwl) o restr o fodiwlau dewisol o bynciau megis Cyflwyniad i Gymdeithaseg*, Polisi Cymdeithasol* a Chymdeithas ac Adrannau Cymdeithasol*.
Ym mlwyddyn 2 a blwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn dilyn y modiwlau gorfodol canlynol: Trosedd a Chyfiawnder ym Mhrydain Fodern*; Damcaniaeth Droseddegol*; Ymchwil Cymdeithasol a Gwleidyddol*.
Ar draws Blynyddoedd 2 a 3, bydd myfyrwyr hefyd yn gallu dewis modiwlau troseddeg a chyfiawnder troseddol pellach o restr o opsiynau a all gynnwys: From Crime to Punsihment, Perspectives on Youth Crime, Serial Killers; Organised Crime and Counter-terrorism; Policing Security, Crime and the Media; Digital Policing and E-Crime, Understanding Criminal Courts, Injustice and Protest. Bydd modiwlau dewisol pellach hefyd ar gael mewn ystod o bynciau cysylltiedig, megis: Forensic Psychology a Criminal Law.
Bydd y Traethawd Hir ym mlwyddyn 3 hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwblhau project ymchwil annibynnol ar bwnc o'u dewis, dan oruchwyliaeth aelod staff profiadol. Mae cyfle hefyd i ddilyn modiwl Lleoliad Gwaith, naill ai ym mlwyddyn 2 neu ym mlwyddyn 3.
*Gall astudio'r pwnc hwn trwy'r Cyfrwng Gymraeg.
Sylwer mai syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE:Â derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE:Â derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd gradd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn eich paratoi am amrywiaeth eang o yrfaoedd yn gweithio i'r asiantaethau a'r sefydliadau sy'n ymwneud â gorfodi'r gyfraith, mynd i'r afael â throseddau a'u hatal, neu wella diogelwch personol.
Bydd eich set sgiliau o ddefnydd i unrhyw sefydliad sydd angen gwaith ymchwiliol a/neu sydd â chylch gwaith i reoli trosedd. Gall y radd hon eich arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd gan gynnwys y canlynol: heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf, diogelwch neu wasanaethau troseddwyr ifanc, gwaith cymdeithasol, amddiffyn plant, llywodraeth leol neu genedlaethol, cyrff anllywodraethol ac elusennau. Gallech helpu i atal twyll budd-daliadau, troseddau treth neu hyd yn oed achosion o dorri rheoliadau’r Asiantaethau Ffiniau.
O fewn y system cyfiawnder troseddol, gallech weithio i'r heddlu, system y llysoedd, carchardai, y gwasanaeth prawf neu asiantaethau cuddwybodaeth a diogelwch cenedlaethol, neu mewn meysydd troseddau ieuenctid, diogelwch preifat, cyfiawnder cymunedol, a chymorth i ddioddefwyr.
Gyda hyfforddiant pellach, gallech ddilyn gyrfa mewn meysydd megis y gyfraith, seicoleg fforensig, gwaith cymdeithasol neu’r gwasanaethau cymdeithasol, gan arbenigo mewn meysydd megis tai, gofal teulu neu waith ieuenctid.
Gall swyddi nodweddiadol gynnwys:
- Swyddog cyfarwyddyd i oedolion
- Swyddog Llu'r Ffiniau
- Swyddog datblygu cymunedol
- Cwnselydd
- Ymchwilydd safle trosedd
- Ditectif
- Swyddog llywodraeth leol
- Dadansoddwr risg gwleidyddol
- Swyddog carchar
- Ymchwilydd preifat
- Swyddog prawf neu swyddog parôl
- Ymchwilydd
- Ymchwilydd cymdeithasol
- Eiriolydd dioddefwyr
- Gweithiwr ieuenctid
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â