Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y rhaglen hon mewn Bancio a Chyllid yn caniatáu ichi ddatblygu gwybodaeth arbenigol am y cyfryngwyr ariannol, y marchnadoedd a'r sefydliadau sydd wrth wraidd economïau modern. Byddwch yn dysgu am y swyddogaethau y mae banciau a banciau canolog yn eu cyflawni wrth ddarparu credyd a hylifedd i'r economi ac wrth liniaru a rheoli risgiau. Byddwch hefyd yn dysgu am allu marchnadoedd ariannol i gyflawni swyddogaethau tebyg. Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr yn y sector ariannol a fydd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.Ìý
Ìý
Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw un o'r darparwyr hyfforddiant bancio a chyllid hynaf yn y byd. Mae'r rhaglen Bancio a Chyllid wedi bod yn esblygu ers 1969. Mae gennym enw da yn fyd-eang am ymchwil ym maes bancio ac ar hyn o bryd rydym yn y safle uchaf o holl brifysgolion y DU (RePEc Awst 2022).Ìý
Ìý
Mae gan fanciau a marchnadoedd ariannol ran hanfodol wrth gyfryngu rhwng cynilwyr a buddsoddwyr sydd â chyllid wedi ei gronni, ac unigolion, cwmnïau neu lywodraethau sydd angen y cronfeydd hynny. Mae marchnadoedd arian, bondiau, ecwiti a deilliadau yn gofyn am wahanol fathau o gyfryngu. Mae hyn yn seiliedig ar amrywiaeth o offerynnau ariannol sy'n dosbarthu risgiau ac enillion yn wahanol rhwng y rhai sy’n rhoi benthyg arian, a’r sawl sy’n derbyn y benthyciad.Ìý
Ìý
Mae gan ein hacademyddion cymwys a phrofiadol iawn ddiddordebau mewn amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys: cystadleuaeth/strwythur y farchnad; perfformiad banciau; rheoleiddio banciau a mentro yn y byd bancio; dadreoleiddio ariannol; mentrau rheoleiddio fel Undeb Bancio Ewrop; polisi cyfradd llog negyddol; fintech; newid yn yr hinsawdd; iawndal gweithredol; moeseg ariannol; a sgoriau credyd. Mae ein tîm yn ymwneud ag ymchwil o'r radd flaenaf ym maes bancio a chyllid, gydag aelodau unigol yn gweithio'n rheolaidd gyda sefydliadau rhyngwladol fel Banc Canolog Ewrop (ECB) a'r Banc dros Aneddiadau Rhyngwladol (BIS), ochr yn ochr â llunwyr polisi yn y llywodraeth, rheoleiddwyr ac ymarferwyr yn y sector ariannol. Maent yn ymroddedig i gyfrannu o’u dirnadaeth o fyd polisi, ymarfer ac ymchwil i'ch helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o fancio a chyllid.Ìý
Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar gyfer y cwrs?
- Ysgol Busnes Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yw un o'r darparwyr hyfforddiant bancio a chyllid hynaf yn y byd, er 1969.
- Yr orau o holl brifysgolion y DU ar gyfer ymchwil ym maes Bancio (RePEc, Awst 2022)Ìý
- 2il am Ansawdd y Addysgu o fewn Cyfrifeg a Chyllid (Times & Sunday Times: Good University Guide 2023).
- Dysgwch gan staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sydd â chysylltiadau a hygrededd cryf â chyrff proffesiynol, banciau, rheoleiddwyr a sefydliadau ariannol.
- Ymhlith y 10 Uchaf ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid (Guardian University Guide 2023).
- Ymhlith 10 Uchaf ar gyfer Boddhad Myfyrwyr o fewn Cyfrifeg a Chyllid (Complete University Guide 2023).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
O ddiwrnod cyntaf eich cwrs gradd, byddwch yn dechrau dysgu'r sgiliau i'w datblygu fel banciwr neu ymarferydd ariannol. Gallwch ddefnyddio cyfleusterau, adnoddau a ffynonellau thechnoleg gwybodaeth ragorol i gefnogi'ch taith ddysgu.Ìý
Ìý
Cyflwynir yr addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Gallwch ddisgwyl cael o leiaf 12 awr o amser cyswllt yn ystod pob wythnos addysgu. Disgwylir i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Ìý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn un bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýDulliau Dadansoddi Busnes, Technegau Ariannol a Dadansoddi, Cyllid Personol a Bancio a Economeg.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megisÌýHanfodion Marchnata Digidol, Sylfaen i Farchnata, Cyflwyniad i Faterion Rheolaeth Gyfoes mewn Moeseg, Cynaliadwyedd, HRM, a Thwristiaeth, Egwyddorion Cyfrifeg Ariannol, Egwyddorion Cyfrifeg Rheolaeth, Egwyddorion Rheolaeth a Threfniadaeth a Thechnoleg mewn Marchnata.ÌýGall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o bynciau eraill yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Yn yr ail flwyddyn byddÌýmyfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýBanciau a Marchnadoedd Ariannol, Bancio Canolog a Pholisi Ariannol, Econometrics a Buddsoddi a Rheoli Portffolio.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megisÌýCyllid Corfforaethol, Ymwybyddiaeth fasnachol a mewnwelediad o waith, Economeg a Masnach Ryngwladol, y Gyfraith ar gyfer Busnes, Systemau Gwybodaeth Rheoli a Chyfrifeg, Microeconomeg ac Economeg Gyhoeddus.ÌýGall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o bynciau eraill yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Yn y drydedd flwyddyn bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýRheoli BanciauÌýa Llywodraethu Corfforaethol.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael,Ìýgall myfyrwyr ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 6 eraill yr Ysgol Busnes neu o bynciau eraill yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Ìý
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol,Ìýos na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:Ìýderbynnir
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol,Ìýos na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae astudio Bancio a Chyllid yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd ym maes bancio, brocera, ymgynghori, rheoli cronfeydd, yswiriant a phensiynau. Gallech ddilyn gyrfa yn gweithio gyda chorfforaethau, mewn marchnadoedd ariannol neu gyda'r llywodraeth. Mae hefyd yn ddisgyblaeth a all fynd â chi i unrhyw le ledled y byd.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen).