Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd dewis y radd hon mewn Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth yn eich galluogi i ddatblygu eich llais creadigol ac yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i chi mewn amrywiaeth o gyfryngau creadigol a chyfathrebu.
Ble well i astudio Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth nag mewn Prifysgol a chanddi Ganolfan Gelfyddydau ac Arloesi ei hun, sef Pontio, ac sydd wedi ei lleoli mewn ardal sy’n rheolaidd yn denu cwmnïau pwysig ym myd cynhyrchu ar gyfer ffilm a theledu, megis HBO, Netflix, BBC ac S4C. Mae gennym gysylltiadau cryf â stiwdios ffilm gweithredol a mynediad at gwmnïau darlledu megis BBC Cymru ar garreg ein drws.Â
Mae'r radd hon yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau astudio a dilyn gyrfaoedd ym meysydd ffilm, teledu, radio, y cyfryngau digidol, hysbysebu, newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus. Mewn oes lle mae dybryd angen am drafodaeth wybodus ynghylch y grymoedd gwleidyddol, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol sy'n llunio ein byd, bydd y radd hon yn eich paratoi i gymryd rhan yn y sgwrs honno.Â
Caiff y rhaglen hon ei haddysgu gan ddadansoddwyr ac ymarferwyr blaenllaw, ac mae staff yr Ysgol yn ymwneud yn rheolaidd ag ymchwil i feysydd hysbysebu, rheoleiddio’r cyfryngau, preifatrwydd, newyddiaduraeth ddigidol, cyfathrebu gwleidyddol, rhywedd, diwylliant gweledol, chwarae gemau fideo, y cyfryngau byd-eang, rhwydweithiau cymdeithasol, cyhoeddi a rhaglenni dogfen.
Bydd astudio’r Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth yn eich grymuso fel dinesydd. Mae ‘ein graddedigion yn greadigol, yn wydn ac yn ddatryswyr problemau sy’n gallu cymhwyso eu sgiliau, eu gwybodaeth, a’u profiad i ystod o gyfryngau creadigol a chyfathrebu gan gynnwys ffilm, radio, podledu, newyddiaduraeth, teledu a’r cyfryngau cymdeithasol. Ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, wrth fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn sy’n wyneb cymdeithasau a busnesau caiff myfyrwyr eu grymuso i arwain newid yn lleol ac yn fyd-eang.
Pam Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?
- Cewch fanteisio ar arbenigedd ein staff ym meysydd ffilm, y cyfryngau a newyddiaduraeth brint a newyddiaduraeth ddarlledu, ynghyd â chynhyrchu, gan gynnwys rhaglenni dogfen a darlledu.
- Manteisiwch ar ein cyfleusterau sy'n cynnwys ystafelloedd golygu, stiwdios cynhyrchu ac offer cyfryngau digidol o safon diwydiant.Â
- Cysylltiadau ardderchog gyda'r sector gan gynnwys mynediad i stiwdios ffilm gweithredol.
- Cyfle i wneud project blwyddyn olaf mewn cydweithrediad â chwmni.
- Dewch i ddysgu am ddramâu, ffilmiau, cerddoriaeth a mwy yn Pontio, Canolfan Gelfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd astudio'r radd hon yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth yn eich galluogi i ddarganfod sut mae ffilm a theledu, newyddiadurwyr a chyhoeddwyr, crewyr a churaduron cyfryngol yn creu cyfleoedd ar gyfer gweithredu tra bônt ar yr un pryd yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn dirnad y byd.
Gall myfyrwyr ymchwilio i faterion ym meysydd y cyfryngau, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth, gan fynd o dan groen y materion, y damcaniaethau a'r safbwyntiau sy'n ganolog i astudio'r cyfryngau a newyddiaduraeth. Bydd y berthynas rhwng y cyfryngau, newyddiadurwyr, gwleidyddion a chymdeithas yn cael ei harchwilio er mwyn ateb cwestiynau heriol. Edrychir ar lif gwybodaeth ac adweithiau emosiynol ochr yn ochr â hanes y cyfryngau modern.Â
Mae'r radd hon yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn canolbwyntio cymaint ar y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn edrych ar esblygiad technoleg y cyfryngau a chyfathrebu a'r effaith ar gymdeithas, gan edrych yn agosach ar sut mae sianeli newydd megis TikTok wedi newid y ffordd yr ydym defnyddio’r cyfryngau. Mae cyfleoedd i edrych yn agosach ar foeseg deallusrwydd artiffisial, i asesu technolegau a'u heffaith ar gymdeithas fodern.
Ochr yn ochr â'ch astudiaethau mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ymgysylltu â’r diwydiannau creadigol. O gynadleddau, cynadleddau fideo a digwyddiadau i ymweliadau rheolaidd gan awduron creadigol, gwneuthurwyr ffilm, newyddiadurwyr, dylunwyr, dramodwyr a gwneuthurwyr cyfryngau newydd.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth BA (Anrh) .
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, Â sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Gall astudio Y Cyfryngau, Ffilm A Newyddiaduraeth ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.
Gall astudio’r BA hwn yn y Cyfryngau, Ffilm a Newyddiaduraeth agor ystod o yrfaoedd yn gweithio ym myd teledu, cyhoeddi newyddion, darlledu, asiantaethau’r cyfryngau, awdurdodau lleol ac adrannau cysylltiadau cyhoeddus i enwi dim ond rhai.
Un o brif fanteision y radd ar y cyd hon, fodd bynnag, yw ei bod hefyd yn rhoi i chi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr y gellir eu haddasu i amrywiaeth eang o swyddi gweinyddol a swyddi rheoli ac arwain. Ymysg y sgiliau hynny mae meddwl yn feirniadol a chreadigol, cyfathrebu, dehongli a gwneud ymchwil.Â
Mae rolau nodweddiadol yn cynnwys;
- Newyddiadurwr
- Darlledwr
- Golygydd
- Gohebydd
- Cynhyrchydd Cynorthwyol
- Awdur
- Swyddog y Wasg
- Cyfarwyddwr Technegol
- Cynhyrchydd Cyfryngau
- Ymchwilydd Cyfryngau
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn.Â
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â