0:00:03
Helo yna, Dr Gareth Evans-Jones ydw i.
0:00:06
'Dw i'n ddarlithydd Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn yr Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas,
0:00:14
a 'dw i yma heddiw i ddweud gair bach am y cyfleoedd posib i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:00:22
Wel mi fyswn i'n eich hannog chi i wironeddol ystyried astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:00:28
Ella bo' chi'n teimlo bach yn ddi-hyder neu meddwl "dydi fy Nghymraeg i ddim yn ddigon da i astudio yn y brifysgol",
0:00:37
wel dydi hynny ddim yn wir.
0:00:40
Mae'r ffaith eich bod chi'n medru siarad Cymraeg yn dangos bod eich Cymraeg chi yn ddigon da,
0:00:45
a fyswn i yn eich annog chi i roi cyfle arni.
0:00:49
Astudiwch un modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg a gweld sut ydach chi'n mwynhau y modiwl yna,
0:00:56
a 'dw i'n siwr y gwneuch chi gael budd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:01:00
Mae yna sawl mantais i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:01:06
Mae gennych chi y gallu i ddatblygu sgiliau amrywiol,
0:01:11
sgiliau fydd yn dod i fod yn ddefnyddiol pan 'da chi'n mynd am swyddi maes o law,
0:01:17
er enghraifft sgiliau cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg,
0:01:21
sgiliau ysgrifennu,
0:01:22
sgiliau siarad,
0:01:24
sgiliau dadansoddi,
0:01:26
sgiliau cyflwyno, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg
0:01:30
a dyma'r math o sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
0:01:35
Felly mae yna fanteision yn broffesiynol i chi wneud hynny yn sicr.
0:01:40
Mantais arall ydi mantais personol ella, sef dod i 'nabod criw o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn ogystal.
0:01:50
Mae grwpiau cyfrwng Cymraeg yn tueddu i fod yn llai ella na grwpiau di-Gymraeg, grwpaiu Saesneg ella,
0:01:58
a mae hynny'n fanteisiol oherwydd mae'n rhoi'r cyfle i chi fel unigolion ddod i 'nabod eich gilydd yn dda iawn
0:02:06
a hefyd dod i adnabod y darlithydd sydd yno i'ch tywys chi drwy gyfrwng modiwl.
0:02:14
Felly mae yna fanteision proffesiynol, personol ac ariannol.
0:02:20
Mae yna bres i gael.
0:02:22
Os wnewch chi astudio gwerth 40 credyd, hynny ydi 1/3 o'ch cwrs y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg,
0:02:36
yna mi gewch chi 拢250 gan y brifysgol.
0:02:42
Mae hynny'n golygu,
0:02:43
os wnewch chi astudio 40 credyd bob blwyddyn yn ystod eich gradd
0:02:50
mi gewch chi 拢750 am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:02:57
Dydi'r pres ddim yn stopio yn fana, mae yna fwy i gael,
0:03:00
a hynny gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
0:03:03
Mae'r Coleg yn cynnig Ysgoloriaeth Cymhelliant,
0:03:06
hynny ydi, swm o arian i chi os 'da chi'n astudio 40 credyd drwy gyfrwng y Gymraeg,
0:03:15
hynny ydi 1/3 o'ch blwyddyn, fesul blwyddyn, drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:03:22.
Os wnewch chi hynna,
0:03:25
mi gewch chi 拢500 am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg,
0:03:32
ac os 'da chi'n penderfynu dilyn 40 credyd
0:03:36
yn eich blwyddyn 1af, a'r 2il a'r 3edd
0:03:40
yna mi gewch chi 拢1,500 erbyn diwedd eich cyfnod yn y brifysgol.
0:03:47
A hynny'n ychwanegol i faint 'sa chi'n cael
0:03:51
a faint wnewch chi gael gan Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 ei hun.
0:03:55
Mae yna lot o bres ar gael.
0:03:57
Felly yn sicr mae yna fanteision ariannol,
0:04:00
mae yna fanteision personol,
0:04:02
a hefyd fanteision proffesiynol.
0:04:06
Ac mi fyswn i'n eich hannog chi i wirioneddol ystyried astudio rhan o'ch cwrs
0:04:12
neu'r cyfan os yn bosib drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:04:15
A chofiwch hyd yn oed mewn modiwlau sy'n cael eu haddsygu drwy gyfrwng y Saesneg,
0:04:21
mae gennych chi hawl i gyflwyno eich gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:04:28
Felly mi hoffwn i ddymuno pob bendith i chi yn ystod eich 3 blynedd yma yn astudio ym Mangor.
0:04:36
Gobeithio yn wir wnewch chi fwynhau,
0:04:39
gobeithio yn wir gewch chi fudd mawr o'ch profiad yma ym Mangor,
0:04:44
a gobeithio'n wir y cawn ni gwrdd rywbryd yn ystod eich 3 blynedd yma ym Mangor.
0:04:51
Pob hwyl i chi a dymuniadau gorau i bob un ohonoch chi.
听
0:00:04
Os wyt ti di astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol uwchradd neu mewn
0:00:08
coleg addysg bellach cyn dod i'r brifysgol
0:00:11
mae cario mlaen i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn mynd i fod yn fantais
0:00:14
fawr i chdi o ran y datblygiad personol.
0:00:17
Wan, os wyt ti'n astudio rhan o dy gwrs
0:00:19
trw'r Gymraeg neud y gwrs i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg mi fyddi di yn
0:00:24
datblygu dy sgiliau yn y ddwy iaith, yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n golygu y byddi di
0:00:29
yn gadael y brifysgol yn gallu cyfrannu'n llawn at y byd dwyieithog sydd yng Nghymru
0:00:34
heddiw.
0:00:36
R诺an ta, os wyt ti yn siaradwr hyderus, rhugl
0:00:40
neu os wt ti yn ddihyder yn dy iaith ne falla
0:00:44
ysgrifendig
0:00:45
yn bennaf neu yn ddysgwr pur yna mi wnawn ni dy gynnal di a y gefnogi
0:00:49
di ac ennyn dy hyder di i ddefnyddio'r ddwy iaith
0:00:54
Mae gen ti fel myfyriwr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yr hawl i gyflwyno dy waith di
0:00:59
yn Gymraeg diom otsh beth ydi
0:01:02
iaith cyflwyno'r modiwl. Mae gen ti hefyd yr hawl i ofyn am gyfieithu ar y pryd os
0:01:08
wyt ti isio gwneud cyflwyniad drw gyfrwng y Gymraeg
0:01:11
Wan, i dy helpu di'n ariannol, mae gen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yr hyn maen nhw'n alw'n Ysgoloriaeth
0:01:17
Cymhelliant
0:01:18
a be mae'r ysgoloriaeth yna yn gynnig ydy pum cant y flwyddyn neu mil pum
0:01:22
cant dros dair blynedd i unrhyw fyfyriwr sy'n astudio 33% o'i astudiaethau
0:01:28
trwy gyfrwng y Gymraeg.
0:01:30
Os wyt ti isio mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth yna, yna cer i wefan
0:01:34
Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
0:01:36
Felly ar ddechrau dy yrfa prifysgol ga i ddymuno'n dda iawn i chdi
0:01:41
pa bynnag fodiwlau fyddi di'n ddewis, ond gai dy siarsio di hefyd i
0:01:47
neud oleia rhan neu hyd od y cyfan ond y gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
0:01:51
Nei di ddim difaru.
0:01:53
Diolch yn fawr iawn i ti