At Eich Coed / Tree Sense
Arddangosfa amlddisgyblaethol
Mae AT EICH COED / TREE SENSE,聽 arddangosfa amlddisgyblaethol聽sy'n digwydd yng ngofodau cyhoeddus Pontio, yn archwilio perthynas coed 芒 phobl, bywyd gwyllt a鈥檙 amgylchedd ehangach. Mae'r wedi ei gydlynu gan Pontio ar y cyd 芒 Phrifysgol 香港六合彩挂牌资料 a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU o fis Mawrth tan fis Mai.
Daw AT EICH COED / TREE SENSE 芒 Pontio a staff ac adrannau Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ynghyd, gan dynnu ar arbenigedd academyddion Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 fel un o brif canolfannau ymchwil ac addysg y DU ar goed, eu cadwraeth a鈥檜 gofal. Yn ogystal bydd artistiaid preswyl a chomisiynau yn rhan o鈥檙 prosiect fydd yn plethu celf a gwyddoniaeth i gyfleu safbwyntiau amrywiol ar goed drwy amrywiaeth o osodiadau creadigol, gweithdai, sgyrsiau a pherfformiadau.
Bydd yr arddangosfa yn gwahodd ymwelwyr i ystyried coed, megis eu ffurf a鈥檜 hamrywiaeth, manteision iechyd coed, eu cyfraniad at ymdeimlad o le, sut y gallent liniaru newid hinsawdd, effeithiau newid hinsawdd arnynt, a sut mae pobl wedi defnyddio coed drwy gydol ein hanes.
Dywedodd Manon Awst, Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus Celfyddydau Pontio,
鈥淢ae wedi bod yn bleser cydweithio efo'r artistiaid a holl adrannau gwahanol y Brifysgol ar y prosiect yma. Mae'r amrywiaeth o ran ffurf a chynnwys yn siwr o apelio at gynulleidfa eang, a dwi'n edrych ymlaen i bobl weld ffrwyth ein llafur."
Dywedodd John Healy, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 sy鈥檔 rhan o鈥檙 gr诺p arweiniol,
鈥淵n yr arddangosfa, rydym yn dathlu r么l coed yn ein bywydau o bob safbwynt, o wyddorau coedwigaeth a chadwraeth, i feysydd iechyd a lles, ac i hanes a鈥檙 celfyddydau.
Coed sy鈥檔 ffurfio strwythur y cynefinoedd a geir mewn coedwigoedd, sef y mannau 芒鈥檙 fioamrywiaeth fwyaf ar y ddaear. Coed fu鈥檙 llwyfan ar gyfer hanes esblygiadol primatiaid, ac maent wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad gwareiddiad.聽Maen nhw鈥檔 darparu ar ein cyfer ddeunydd adnewyddadwy ar gyfer lloches, gan gloi carbon yn strwythur pren ein cartrefi a鈥檔 ddodrefn.聽Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yw prif ganolfan y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil ac addysg ym maes coed, a鈥檜 cadwraeth a'u rheolaeth.聽鈥澛犅
Cafwyd galwad agored ar gyfer comisiynau ac artistiaid preswyl ar gyfer y prosiect a bydd y gweithiau i鈥檞 gweld yng ngofodau cyhoeddus Pontio. Bydd gwaith Anthony Ynohtna 鈥楨uler鈥 yn hongian ym mhrif atriwm Pontio, wedi ei greu o styllod pren sy鈥檔 ffurfio si芒p helics sy鈥檔 ein hatgoffa o bresenoldeb a dylanwad dynol ym mhob elfen o鈥檔 hamgylchedd ni. Bydd y colectif creadigol Utopias Bach yn eich gwahodd i archwilio perthnasau personol a chymunedol y byd dynol a mwy-na-dynol yn ystod eu preswyliad. Mae鈥檙 artist, gof a strategydd sector yr amgylchedd Joe Roberts yn cyflwyno鈥檙 darn 鈥楶obman ar unwaith a nunlle鈥檔 arbennig鈥 sef cerflun wedi鈥檌 selio ar y goeden Ywen olaf ar safle Eglwys Llanfair Garth Branan, yr Eglwys ganoloesol a eisteddai ar dir Prifysgol 香港六合彩挂牌资料. Yn ystod preswyliad Molly Macleod, bydd yn archwilio鈥檙 Greddinen Menai prin, rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu, ac sydd ond i鈥檞 chanfod ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nant Porth.
Mae鈥檙 cyfranwyr o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn cynnwys Amy Gresham a Heli Gittins (+ Coed Lleol) o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Naturiol, Amy Monnereau a Lucy Finchett-Maddock o鈥檙 Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Kathryn Davies o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion / Gardd Fotaneg Treborth, Catherine Walker a Kate Randell o鈥檙 Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a Caleb Nichols a Briony Collins, Lina Davitt, Judith Samuel, Sarah Pogoda, Zo毛 Skoulding o鈥檙 Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau.
Bydd cyflwyniad arbennig 鈥楩or Dom, Bruno & the Amazon鈥 hefyd, er cof am y newyddiadurwr Dom Phillips a鈥檙 arbenigwr brodorol Bruno Pereira gafodd eu llofruddio鈥檙 llynedd wrth iddynt ymchwilio yn yr Amazon.
Bydd yr arddangosfa yn agor Nos Wener 3ydd o Fawrth am 5.30pm, gyda lansiad yn cynnwys perfformiadau ynghyd 芒鈥檙 gwaith celf ac ymchwil. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau wedi'u trefnu dros gyfnod yr arddangosfa, sy鈥檔 parhau tan ddiwedd mis Mai gan gynnwys gweithdai i blant, perfformiad barddonol a Noson Ciosg Celf. Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yma: