Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr
Mae’r digwyddiad Cwrdd â’r Prynwr yn ddigwyddiad galw heibio a fydd yn rhoi cyfle i gyflenwyr drafod contractau posib ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Dyma gategorïau’r cyfleoedd hyn:
- Nwyddau traul a chyfarpar labordy
- Nwyddau traul ac offer Gwyddorau Iechyd
- Nwyddau traul a gwasanaethau arlwyo
- Nwyddau a gwasanaethau glanhau a golchi (llieiniau a golchi dillad, rheoli plâu, gwasanaethau toiledau)
- Gweithrediadau cyfleusterau (trwsio lifftiau a chynnal a chadw, diogelwch, gwasanaethau rheoli adeiladau, rheoli cyfleusterau caled, gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau cyffredinol, gwasanaethau cynnal a chadw trydanol a mecanyddol, offer tân)
- Gwasanaethau proffesiynolÂ
- Gwasanaethau digidol
- Marchnata
Fodd bynnag, mae'r digwyddiad yn agored i BOB busnes gan gynnwys busnesau bach a chanolig sy'n dymuno dod draw am sgwrs.
Cynhelir cyfres o sesiynau trwy gydol y bore, fydd yn caniatáu i fusnesau ddysgu am gontractau a chyfleoedd tendro presennol/ar ddod a chael cyngor gwych ar dendro er mwyn nodi cyfleoedd a datblygu eu prosesau cynnig.
Bydd busnesau hefyd yn cael cipolwg ar y cymorth sydd ar gael i fod yn "barod i dendro" am y cyfleoedd hyn yn y dyfodol a ddarperir gan Fusnes Cymru a GwerthwchiGymru a fydd yn cynnal sesiynau 1-2-1 yn ystod y digwyddiad.