Ar ôl cynyddu i ddigidau dwbl, mae chwyddiant wedi gostwng yn sydyn ac ar y ffordd yn ôl tuag at dargedau banciau canolog. Fodd bynnag, mae cwestiynau mawr ynghylch pa mor anodd y bydd hi i fanciau canolog gyflawni’r cam olaf o gael chwyddiant yn ôl i’r targed.
Gyda pholisi ariannol yn gyfyngol mewn llawer o awdurdodaethau, mae marchnadoedd ariannol yn ystyried toriadau mewn cyfraddau ar gyfer 2024 - mewn rhai achosion yn ôl o dan niwtral eto - wrth i chwyddiant ddod yn fwy cytbwys.
Mae economïau wedi perfformio'n rhyfeddol o dda o ystyried yr hyn y bu'n rhaid iddynt ymdopi ag ef dros y blynyddoedd diwethaf (rhyfeloedd, pandemig, cynnydd sylweddol mewn prisiau ac ati).
Yn gyffredinol, llwyddodd economïau i osgoi dirwasgiadau, er bod economegwyr yn fwy pesimistaidd am ragolygon twf gwledydd yn yr hirdymor (oherwydd demograffeg, newid yn yr hinsawdd, cynhyrchiant, dadglobaleiddio).
Yn gyffredinol – os tybiwn y bydd chwyddiant yn dychwelyd i’r targed yn y pen draw, y cwestiwn pwysicaf yn fy meddwl i yw: pa gyfuniad o gyfraddau llog a thwf economaidd fydd eu hangen i gadw chwyddiant ar y lefelau targed? Mae siawns dda y gallai'r cyfaddawd arwain at sefyllfa waeth nag yn y gorffennol (h.y. twf arafach, cyfraddau llog uwch).
Bydd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, George Buckley, yn edrych ar sut mae economïau’n wahanol ar ôl y pandemig. Bydd George hefyd yn siarad am y polisi cyllidol cyn etholiad y Deyrnas Unedig, ac yn edrych o safbwynt economegydd sut olwg allai fod ar lywodraeth Lafur o’i chymharu â llywodraeth Geidwadol.
George Buckley yw Prif Economegydd Ewrop ar gyfer cwmni Nomura. Mae ganddo bum mlynedd ar hugain o brofiad fel economegydd y farchnad, a bu’n arfer gweithio i Deutsche Bank, Llundain, mewn rôl debyg. Cyn hynny, cwblhaodd George ei PhD mewn economeg y farchnad dai ym Mhrifysgol Bryste, lle bu hefyd yn dysgu cyrsiau israddedig mewn macro-economeg. Mae ganddo MSc mewn Economeg a Chyllid (Prifysgol Bryste) a BA mewn Economeg (Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ). George yw Cadeirydd Cymdeithas yr Economegwyr Proffesiynol (SPE) ac mae’n awdur cyhoeddedig (What You Need to Know About Economics, Capstone).
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.