O'r Arfordir Ifori i Gymru: Sgwrs gyda Joseph Gnabo
Rhannwch y dudalen hon
Yn 2018 bu'n rhaid i Joseph Gnabo ffoi o'i famwlad, yr Arfordir Ifori yng ngorllewin Affrica a derbyn lloches fel ffoadur yng Nghymru. Gadawodd ei deulu a'i dwy ferch oherwydd roedd dan fygythiad gan Arlywydd y wlad,聽Alassane Ouattara.聽Pan gyrhaeddodd Gaerdydd heb wybod dim am Gymru na'r iaith Gymraeg. Roedd eisoes yn siarad saith iaith gan gynnwys Ffrangeg a Saesneg ac aeth ati i ddysgu Cymraeg. Ymhen 2019 roedd cystal yn ei iaith newydd fel ei fod yn athro Cymraeg.
Yn y sgwrs bydd Joseph yn trafod ei brofiad fel ffoadur, ymsefydlu yng Nghymru a'i agwedd tuag at Cymru a'r Gymraeg a phobl Cymru tuag ato fel dyn du a ffoadur.
Cynhelir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg