Ysgrifennu Creadigol ym Mangor: Dathlu Lansio Llyfrau
Bydd dwy o raddedigion diweddar MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料, Gwenno Gwilym a Katrina Moinet, yn dathlu lansio cyhoeddiadau newydd am 6 o鈥檙 gloch nos Fawrth 10 Rhagfyr yng nghyntedd Prif Adeilad y Celfyddydau.
Mae nofel ddwyieithog Gwenno Gwilym听V+ Fo (Gwasg y Bwthyn) yn bortread dilyffethair o fywyd a chariad cyfoes yn y Gymru ddwyieithog.听 Fel y dywed yr adolygiad yn Nation Cymru: Bob hyn a hyn mae nofel yn ymddangos sy鈥檔 chwa o awyr iach. Meddai Dr Alys Conran: 鈥淵n gynyddol, nid yw ysgrifenwyr dwyieithog ar ein cyrsiau yn rhoi鈥檙 naill iaith o鈥檙 neilltu er mwyn ysgrifennu yn eu hiaith/ieithoedd eraill, ac maent yn gwybod y gall y naill iaith ddod ag egni i鈥檙 llall a鈥檌 goleuo. Mae creadigrwydd dwyieithog yn ddewis creadigol dilys a chynhyrchiol, a dyma'r realiti i lawer o'n myfyrwyr a'n staff. Mae鈥檔 hyfryd gweld awdur newydd hynod ddiddorol fel Gwenno Gwilym yn dod 芒鈥檌 holl ddisgleirdeb creadigol i鈥檙 portread hwn o fywyd cyfoes a chariad trwy鈥檙 ddwy iaith. Bydd darllenwyr wrth eu bodd 芒'r llyfr hwn."
Mae casgliad barddoniaeth Katrina Moinet Portrait of a Young Girl Falling (Hedgehog Press) yn trafod nwyd a chydsyniad trwy amrywiaeth o ffurfiau arloesol a delweddau gweledol. Meddai鈥檙 Athro Skoulding: 鈥淢ae dyfeisgarwch ac egni aruthrol y cerddi hyn yn rhan o鈥檙 gwaith o wneud lle i ffyrdd newydd o feddwl a bod. Dyma waith y mae Katrina yn ymroi鈥檔 llwyr iddo, nid yn unig trwy ysgrifennu, ond trwy greu cyfleoedd i feirdd eraill yr ardal.鈥 Mae Katrina wedi sefydlu cymuned o awduron lleol trwy gynnal Versify, noson meic agored fisol yng Nghaffi Blue Sky 香港六合彩挂牌资料. Ers iddi gwblhau鈥檙 MA, mae hi wedi cael llwyddiant mewn sawl cystadleuaeth ac mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi鈥檔 genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd pamffled newydd arobryn yn cael ei gyhoeddi gan Hedgehog Press yn 2025.
Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei gyflwyno gan Dr Alys Conran a鈥檙 Athro Zo毛 Skoulding, sydd ill dau鈥檔 dysgu ar yr MA mewn Ysgrifennu Creadigol (Saesneg), a bydd yn cynnwys darlleniadau byr a thrafodaeth gyda Gwenno a Katrina.
Mae croeso i bawb.
听