Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd y cwrs yn cychwyn ym mis Mawrch 2023. Sylwch mai rhaglen fodiwl sengl yw鈥檙 cwrs dysgu cyfunol yma sydd 芒 dwy elfen: theori a lleoliad clinigol.
Cod y modiwl:聽(NHS-3501)
Diben y rhaglen hon yw paratoi nyrsys oedd wedi eu cofrestru鈥檔 flaenorol yn y DU i gael eu haildderbyn i gofrestr y Coleg Nyrsio a Bydwreigiaeth ar 么l i鈥檞 cofrestriad ddirwyn i ben, neu ar 么l iddynt fethu 芒 chyrraedd gofynion ail-ddilysu鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer eu maes ymarfer (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
Y nodau cyffredinol yw sicrhau bod unigolion oedd wedi eu cofrestru鈥檔 flaenorol yn barod i ddychwelyd i ymarfer nyrsio cyfoes trwy ddiweddaru gwybodaeth a sgiliau clinigol presennol. Mae nodau allweddol yn gysylltiedig 芒 Safonau FNS i roi鈥檙 wybodaeth a鈥檙 sgiliau clinigol i fyfyrwyr fel y鈥檜 hamlinellir yn Atodiadau A a B, ochr yn ochr 芒 Safonau Dychwelyd i Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2019) sy鈥檔 berthnasol i鈥檞 maes ymarfer. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i fabwysiadu ymagwedd gyfunol, bwrpasol at addysgu a dysgu, gan adeiladu ar wybodaeth a sgiliau clinigol blaenorol myfyrwyr trwy gydnabod dysgu blaenorol lle gellir dangos hyn. Bydd myfyrwyr yn bresennol mewn bloc theori 10 diwrnod lle byddant yn adnewyddu eu gwybodaeth am feysydd allweddol cydlynu a darparu gofal, gan ganolbwyntio ar God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i ddatblygu hyfedredd fel ymarferwyr diogel, effeithiol, tosturiol, wedi鈥檜 llywio gan dystiolaeth. Dilynir hyn gan leoliad clinigol rhan-amser 150-450 awr lle asesir cymwyseddau myfyrwyr wrth ymarfer.
Mae鈥檙 rhaglen yn defnyddio dull cydweithredol o ddysgu a bydd yn darparu gweithgareddau adfyfyriol i ymgysylltu鈥檔 feirniadol 芒 myfyrwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth a鈥檜 paratoi ar gyfer dychwelyd i ymarfer clinigol. Anogir myfyrwyr i adfyfyrio ar natur ryngbroffesiynol cydlynu a darparu gofal, gan amlygu swyddogaeth gweithio mewn partneriaeth 芒 defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd, a gofalwyr, ochr yn ochr ag aelodau o'r t卯m amlddisgyblaethol.聽
Cyflwynir y rhaglen drwy ddarlithoedd arweiniol a ddilynir gan waith darllen ac astudio dan gyfarwyddyd. Bydd hyn yn cael ei atgyfnerthu gyda chyfle i ddysgu trwy weithdai, seminarau a thiwtorialau. Mae'r rhaglen yn dilyn dull cyfunol o ymdrin ag addysgu a dysgu ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion ac arddulliau dysgu unigolion er mwyn darparu llwybr rhan-amser hyblyg.
Bydd cynnwys y rhaglen hefyd yn cael ei gyflwyno a'i wella trwy astudio dan gyfarwyddyd ar-lein i gynyddu hyblygrwydd ymhellach, gan alluogi myfyrwyr i astudio yn 么l eu cyflymder eu hunain. Anogir myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dysgu ac astudio annibynnol, trwy ddefnyddio adnoddau ar-lein a chael mynediad at dystiolaeth berthnasol yn y llyfrgell ac adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys polis茂au, safonau iechyd a chanllawiau gan gyrff proffesiynol. Bydd cymorth tiwtorial wedi'i deilwra'n cael ei ddarparu drwy gydol y cyfnod fel bod myfyrwyr yn cael cefnogaeth academaidd a bugeiliol un-i-un pwrpasol.
Pam dewis Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 ar gyfer y cwrs hwn?聽
- Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn darparu鈥檙 unig gwrs Dychwelyd i Ymarfer yng Ngogledd Cymru sy鈥檔 cwmpasu pob un o鈥檙 pedwar maes nyrsio: Plant, Anableddau Dysgu, Iechyd Meddwl ac Oedolion
- Mae ein myfyrwyr yn elwa o gefnogaeth a goruchwyliaeth penodol i鈥檞 maes drwy gydol y broses.
- Mae hon yn rhaglen ran-amser a phwrpasol gyda'r opsiwn i gymhwyso tystiolaeth berthnasol o brofiad blaenorol i leihau oriau clinigol.
- Wedi derbyn canmoliaeth uchel gan ein myfyrwyr.
- Cyfradd cyflogaeth 100% ar 么l cwblhau.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Rhaglen fodiwl sengl yw hon sydd 芒 dwy elfen: theori a lleoliad clinigol.
Erbyn diwedd y rhaglen bydd myfyrwyr yn deall:聽
- Atebolrwydd a phroffesiynoldeb 鈥 bod yn ymarferydd diogel, effeithiol, tosturiol ar sail tystiolaeth yn eu maes ymarfer (oedolion, plant, anableddau dysgu neu iechyd meddwl).
- Darparu gofal sy鈥檔 canolbwyntio ar yr unigolyn a arweinir gan anghenion 鈥 hwyluso annibyniaeth a galluogi dewis; Ymwybyddiaeth o iaith a diwylliant.
- Sgiliau llythrennedd digidol: addysgu, dysgu a chyfathrebu o fewn y parth academaidd a chlinigol.
- Rheoli ac arddangos meddyginiaethau 鈥 polisi ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth; atebolrwydd proffesiynol.
- Hyrwyddo iechyd, atal afiechyd: cyflyrau hirdymor a hunanreolaeth; cydnabod anghydraddoldebau iechyd trwy gydol oes a rhwng phoblogaethau.
- Gwneud Penderfyniadau Clinigol 鈥 cydlynu gofal mewn timau rhyngbroffesiynol.聽
- Ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella ansawdd, gan roi theori ar waith. 鈥 Arwain a rheoli gofal a gweithio mewn timau rhyngddisgyblaethol. Dysgu parhaus trwy ymarfer adfyfyriol.
Ariannu
Mae hon yn rhaglen a ariennir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru sy'n cynnwys yr holl ffioedd ynghyd 芒 bwrsariaeth o 拢3000 heb brawf modd.
Gofynion Mynediad
- Tystiolaeth o gofrestriad blaenorol gyda鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Y gallu i astudio ar lefel 6 (lefel gradd)
- Tystiolaeth o ddysgu blaenorol wedi'i hystyried yn ystod y broses derbyniadau
- Wedi cael cliriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Gyrfaoedd
Ar 么l cwblhau鈥檙 rhaglen hon, gallwch ddewis:
- Dychwelyd i'r maes ymarfer clinigol o鈥檆h dewis. Mae gennym gyfradd cyflogaeth 100% ar 么l cwblhau.
- Gwneud cais am gyrsiau clinigol uwch fel Ymwelwyr Iechyd, fel bo鈥檔 briodol i lefel y cymhwyster.
- Gwneud cais am ddatblygiad proffesiynol parhaus neu gyrsiau 么l-radd eraill, fel bo'n briodol i lefel y cymhwyster.