Adnoddau i gefnogi cyflwyno addysgu dwyieithog
Rydym ar drothwy cyfnod o newid sylweddol ym myd addysg. Dyma ein cyfle i gymryd perchnogaeth o'r her, a cheisio dulliau arloesol o ddysgu iaith leiafrifol, ac rydym wedi cychwyn ar y daith.
Pwrpas y llyfryn 'Dulliau Addysgu Dwyieithog’ yw cynnig trosolwg cychwynnol o'r llenyddiaeth ryngwladol sy'n ymwneud â dulliau dysgu ac addysgu dwyieithog. Mae'r llyfryn yn nodi cyd-destunau ystafell ddosbarth lle mae dwyieithrwydd yn arwain yr addysgu, gan gysylltu'r arferion hynny â'r cyd-destun addysgol yma yng Nghymru, fel sy'n nodweddiadol o brofiadau go iawn y dysgwr.ÌýÌý
Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ gynhadledd undydd (cyn-bandemig) ar ''
Canolfan Bedwyr
Mae Canolfan Bedwyr Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn cynnig cwrs iaith y Cynllun Sabothol i athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr a chynorthwywyr ystafell ddosbarth sy'n dymuno gwella eu Cymraeg a magu mwy o hyder wrth ddefnyddio'r iaith.
Mae'r cwrs ar gael ar dair lefel, ac mae Canolfan Bedwyr ym Mangor yn cyflwyno'r cwrs Uwch:Ìý
- Uwch (siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a dysgwyr rhugl)
- Mynediad (dysgwyr)
- Sylfaen (dysgwyr)
Meistr mewn Addysg.
Mae saith prifysgol wedi dod ag arbenigwyr byd-enwog ynghyd i drawsnewid dyfodol addysgu. Fel rhan o'r buddsoddiad mwyaf mewn dysgu athrawon proffesiynol ledled Cymru, mae Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ bellach yn cynnig gradd genedlaethol Meistr mewn Addysg.
Ìý
MA Astudiaethau Addysg
Mae ein cwrs MA Astudiaethau Addysg llawn-amser yn rhaglen hyfforddedig 12 mis i bobl sydd eisiau gwneud gradd MA trwy astudiaeth ddwys lawn-amser. Mae gan fyfyrwyr ddewis o fodiwlau sy'n gwneud cyfanswm o 180 credyd. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i apelio at myfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol.
Mae ein rhaglen MA Astudiaethau Addysg rhan-amser wedi’i threfnu o amgylch pum penwythnos y flwyddyn, sy’n addas i bobl leol ac i rai sy’n teithio ymhellach, ac mae’n cynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i ddysgu ynddi.
Ìý