Ein cyfraniad i Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
Yn dilyn ymgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a chynyddu nifer yr unigolion sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol, mae mwy o bwyslais nag erioed ar weld ein hysgolion yn cynhyrchu siaradwyr dwyieithog hyderus. Ond mae'r her o gynyddu siaradwyr a defnyddwyr Cymraeg yn amrywio o un cyd-destun i'r llall - o un ardal i'r llall, o un ysgol i'r llall, o un cartref i'r llall, o un athro i'r llall, ac o un disgybl i'r llall - ac mae'n hanfodol bod unrhyw strategaethau'n ddigon hyblyg i ganiat谩u i'r athro neu鈥檙 athrawes ystyried yr amrywiadau hynny, a'r hyn sy'n berthnasol ac yn briodol yn ei gyd-destun addysgol ei hun.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn arwain y ffordd wrth ddatblygu a chynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae ystadegau diweddar wedi dangos bod bron i hanner yr holl fyfyrwyr sy'n astudio gradd trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwneud hynny'n awr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料. Hefyd, mae nifer fwyaf y darlithwyr sy'n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn gweithio mewn partneriaeth 芒'r . Mae'r Coleg yn bodoli ers mis Ebrill 2011 a'i nod yw hyrwyddo addysgu a dysgu trwy gynllunio cyfleoedd cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Uwch. Nid oes gan y Coleg un lleoliad daearyddol, ond yn hytrach, mae'n gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch presennol yng Nghymru. Mae y Coleg yn galluogi myfyrwyr y Coleg i gael mynediad i'w holl fodiwlau cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys modiwlau a addysgir mewn cydweithrediad 芒 phrifysgolion eraill.
Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi chwarae rhan yn natblygiad y (Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes). Mae CorCenCC yn adnodd iaith i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg, ymchwilwyr Cymraeg, ac yn wir unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn y Gymraeg. Casgliad hygyrch yw CorCenCC o samplau iaith lluosog, a gasglwyd o gyfathrebu mewn bywyd go iawn.
听
Helpu'ch plentyn gyda'i addysg cyfrwng Cymraeg
Yn ystod y misoedd y clo, nid oedd y Gymraeg yn rhan o drefn eich plant yn y ffordd y mae fel rheol. Ond mae iaith a ddysgir yn iaith a gedwir - nid yw byth yn cael ei dileu. yn rhoi cyngor ar sut i helpu'ch plentyn gyda'i sgiliau Cymraeg yn dilyn cyfnodau o darfu ar addysg.
Bydd rhai pobl ddwyieithog yn colli cysylltiad ag iaith am amryw resymau, gan gynnwys ymfudo a newidiadau mewn deinameg teulu. Yn ystod ychydig fisoedd y clo, nid oedd y Gymraeg yn rhan o drefn eich plant yn y ffordd y mae fel rheol. Ond mae iaith a ddysgir yn iaith a gedwir - nid yw byth yn cael ei dileu.
Mae gan yr ymennydd allu syfrdanol i gadw gwybodaeth. Oeddech chi'n gwybod y gallai oedolion a ddysgodd Sbaeneg yn yr ysgol, ond na ddefnyddiodd hi fyth eto, gofio agweddau ar eirfa Sbaeneg, hyd yn oed 50 mlynedd yn ddiweddarach? Ac mae 50 mlynedd yn amser hir o'i gymharu 芒 misoedd y clo!
Ac mae gloywi iaith pan nad yw wedi bod yn eich trefn arferol am gyfnod yn digwydd ar gyfradd llawer cyflymach na'i dysgu yn y lle cyntaf. Mae'r cyfan yn dal i fod yn y pen yna鈥檔 rhywle!
听