I fynd i鈥檙 afael 芒 hyn, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料 yn datblygu offer adsefydlu newydd, y gall goroeswyr str么c eu defnyddio eu hunain er mwyn gwella ynghynt ac yn annibynnol.
Cefnogir y project gan Raglen Grantiau Ymchwil Bach BA/Leverhulme yr Academi Brydeinig, sydd 芒鈥檙 nod o ddylunio, gweithgynhyrchu a phrofi prototeipiau o offer adsefydlu fforddiadwy, deniadol ac oedran-briodol. Mae鈥檙 offer yn seiliedig ar ddamcaniaethau ynghylch dysgu sgiliau echddygol ac adborth gan gleifion. Y bwriad yw bod cleifion str么c yn rheoli eu hadsefydliad y tu allan i sesiynau therapi dan oruchwyliaeth, gan wella canlyniadau hirdymor er mwyn lleihau straen ar wasanaethau clinigol.
Dywedodd Dr Ayelet Sapir, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg, sy鈥檔 arwain y gwaith hwn, "Mae goroeswyr str么c yn wynebu namau echddygol sy'n ei gwneud hi鈥檔 anodd iddyn nhw gyflawni tasgau beunyddiol. Gall yr ymarferion adsefydlu a roddir i gleifion ar hyn o bryd fod yn ailadroddus ac yn hawdd colli diddordeb ynddyn nhw heb oruchwyliaeth gyson gan glinigwyr. Ein nod yw dylunio, cynhyrchu a phrofi prototeipiau o offer adsefydlu newydd, y gall cleifion eu defnyddio eu hunain i gyflymu adferiad eu symudiadau echddygol ar 么l str么c.鈥
Yn gweithio ar y project ochr yn ochr 芒 hi mae Dr Gavin Lawrence, Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Sgiliau Echddygol, Datblygu Talent ac Arbenigedd. Ychwanega yntau "Trwy integreiddio egwyddorion dysgu sgiliau echddygol i ddyluniad yr offer adsefydlu hyn, ein nod yw gwella'r broses adfer ar gyfer goroeswyr str么c mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn dal eu diddordeb. Bydd yr offer hyn nid yn unig yn hwyluso therapi hunangyfeiriedig ond hefyd yn mynd i'r afael 芒 diffygion allweddol mewn arferion adsefydlu presennol."
Gan weithio'n agos gyda thair Canolfan Adsefydlu Str么c yng Ngogledd Cymru i nodi arferion ac anghenion clinigol; bydd y t卯m yn datblygu ac yn profi prototeipiau ar y safle ac yn casglu adborth gan glinigwyr a chleifion.听
鈥淢ae gwella ar 么l str么c yn creu heriau sylweddol. Yn hyn o beth, roedd sefydlu tair uned adsefydlu str么c i gleifion mewnol gan y Gwasanaeth Iechyd yng Ngogledd Cymru yn gam sylweddol ymlaen i gleifion str么c. Drwy gydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 unedau hyn, gallwn sicrhau bod anghenion cleifion yn parhau i fod wrth wraidd yr ymchwil hwn.鈥 meddai Dr Giovanni d'Avossa, ymgynghorydd niwroleg sy'n ymwneud 芒'r project.
Bydd yr astudiaeth yn dilyn tri chyfnod allweddol. Yn gyntaf, yn y cam asesu anghenion, bydd therapyddion adsefydlu a goroeswyr str么c yn cael eu cyfweld i gloriannu eu hanghenion a鈥檜 disgwyliadau. Bydd y cam hwn hefyd yn gwerthuso pa adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd a rhwystrau i鈥檞 defnyddio, gan ystyried ffactorau fel namau gwybyddol, cymhelliant, heriau o ran cadw diddordeb pobl, a gwahaniaethau unigol. Yn yr ail gam, ar 么l cloriannu鈥檙 asesiad anghenion, eir ati i ddylunio a gweithgynhyrchu prototeipiau, naill ai gan ddatblygu offer newydd neu addasu rhai sy'n bodoli eisoes i fod yn offer adsefydlu sy鈥檔 dal diddordeb y claf ac sydd o oedran priodol. Rhoddir sylw gofalus i ymarferoldeb, diogelwch, ac ysgogiad synhwyraidd. Yn olaf, caiff y prototeipiau eu profi a'u mireinio, gan ddefnyddio adborth gan ddefnyddwyr i鈥檞 gwella ar gyfer dyluniadau terfynol.
Disgwylir i鈥檙 astudiaeth hon ddatblygu鈥檙 broses o adsefydlu ar 么l str么c yn sylweddol drwy gefnogi ymarfer heb oruchwyliaeth, gan ganiat谩u i gleifion fod 芒 rhan fwy gweithredol yn eu hadferiad. Er mwyn annog cynifer 芒 phosib i fanteisio ar yr offer, bydd yr holl adnoddau a ddatblygir yn rhai ffynhonnell agored, yn rhydd o gyfyngiadau eiddo deallusol, ac yn hawdd i unedau adsefydlu ledled y Deyrnas Unedig eu defnyddio
听