Trwy ddadansoddi wrin cleifion, mae'n bosibl pennu, yn gywir iawn, eu tebygolrwydd o farw, gan ganiat谩u iddynt hwy a'u teuluoedd baratoi'n well ar gyfer diwedd eu hoes gan roi rhagor o wybodaeth hefyd i glinigwyr benderfynu ynghylch eu gofal a'u meddyginiaeth.
Cyfrannodd Dr Elinor Chapman, sy鈥檔 ddarlithydd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料, at astudiaeth a oedd yn dangos sut y gellir mesur newidiadau metabolaidd sy鈥檔 digwydd yn ystod y 30 diwrnod olaf cyn i glaf farw i ragfynegi pryd y bydd yn marw, ac mae鈥檙 rhagfynegiad yn fwyfwy cywir wrth i amser y farwolaeth agos谩u.
Dywedodd Dr Chapman sy鈥檔 arwain ar addysgu astudiaethau achos canser i fyfyrwyr meddygaeth graddedig ac a fu鈥檔 gweithio ar yr ymchwil tra oedd ym Mhrifysgol Lerpwl,
听鈥淢ae clinigwyr yn dweud pa mor anodd ydy hi i ateb cwestiynau鈥檙 claf a鈥檌 anwyliaid ynghylch pryd mae rhywun yn mynd i farw, sy'n hanfodol er mwyn rhoi'r gofal gorau posibl i rywun. Roedd yn fraint cael dod 芒 fy nghefndir gwyddonol i weithio ar broject mor newydd, sy鈥檔 cynnig y gobaith o allu helpu i ateb y cwestiynau hyn.鈥
Dywedodd un o gyd-awduron yr ymchwil, Dr Seamus Coyle, sy鈥檔 Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Liniarol yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge ac yn Uwch Ddarlithydd Clinigol er Anrhydedd ym Mhrifysgol Lerpwl,
鈥淓r gwaethaf degawdau o ymchwil canser a 5,000 o flynyddoedd o feddygaeth, nid ydym yn gwybod sut mae canser yn lladd, ac mae rhagweld pryd y bydd rhywun yn marw o ganser yr ysgyfaint yn dibynnu i raddau helaeth ar farn y clinigydd gan nad oes prawf cywir ar gael i bennu hyn.
鈥淭rwy astudio cyfansoddion organig anweddol mewn wrin rydym wedi creu model i ragweld gyda thebygolrwydd uchel pryd y bydd y cleifion hyn yn marw.
鈥淢ae gwybod pryd mae claf yn debygol o farw yn ddechrau da i ofal diwedd oes ac yn caniat谩u i deuluoedd a chleifion gynllunio鈥檔 fwy cywir a chefnogi eu hanwyliaid trwy鈥檙 broses o farw. Mae hefyd yn hysbysu clinigwyr yn well fel y gallant wneud penderfyniadau mwy priodol am y claf.鈥
Dadansoddwyd wrin o 144 o gleifion canser yr ysgyfaint o bob rhan o Lannau Mersi i ddod o hyd i fiofarcwyr posibl ar gyfer marwolaeth. Mewn cyfres o brofion, dangoswyd bod 37 o gyfansoddion organig anweddol yn y samplau wrin yn newid i'r fath raddau fel y gellid gwneud rhagfynegiadau sylweddol o farwolaeth, gan ddosbarthu cleifion i gategor茂au risg isel, canolig ac uchel o farw. Dangoswyd o fewn 30 diwrnod fod gan y canlyniadau werthoedd tebygolrwydd 鈥渞hagorol鈥.
Dywedodd un arall o gyd-awduron yr ymchwil, yr Athro Chris Probert, sy鈥檔 Gastroenterolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Lerpwl ac yn Athro Gastroenteroleg ym Mhrifysgol Lerpwl,
鈥淏u farw bron i 10 miliwn o bobl ledled y byd o ganser yn 2020 ac roedd canser yr ysgyfaint, sydd 芒鈥檙 gyfradd marwolaethau uchaf, oedd yn gyfrifol am 1.8 miliwn o鈥檙 marwolaethau hynny. Mae rhagweld pryd mae cleifion 芒 chanser datblygedig yn debygol o farw yn heriol ac nid oes prawf cywir ar gael i bennu hyn. Fodd bynnag, mae cydnabod yn gynnar y gallai person fod yn marw yn ganolog i鈥檙 holl flaenoriaethau ar gyfer gwella profiad pobl o ofal yn ystod dyddiau ac oriau olaf eu bywydau.
鈥淒yma鈥檙 astudiaeth gyntaf i ddefnyddio dull metabolomeg i ymchwilio i鈥檙 broses o farw yn ystod wythnosau olaf bywyd. Mae鈥檙 canfyddiadau鈥檔 darparu tystiolaeth i gefnogi鈥檙 ddamcaniaeth bod newidiadau metabolmaidd penodol yn gysylltiedig 芒鈥檙 broses o farw mewn canser.鈥
Darparodd The Clinical Research Network: North West Coast staff ac adnoddau i gyflawni鈥檙 astudiaeth hon. Hefyd, dywedodd Cyfarwyddwr Clinigol y Rhwydwaith, Yr Athro Enitan Carrol: 鈥淢ae marwolaeth anwylyd yn gyfnod mor anodd i deuluoedd a gofalwyr. Mae'r astudiaeth hon yn hanfodol bwysig i helpu clinigwyr i gefnogi pobl a'u teuluoedd yn ystod dyddiau olaf eu bywyd.
鈥淩ydym yn ddiolchgar i鈥檙 holl ymchwilwyr, i鈥檙 cleifion ac i aelodau鈥檙 teuluoedd hynny a gymerodd ran a gwneud hyn yn bosibl. Rydym yn falch iawn o weld bod ein hymchwil i ofal lliniarol yn cael effaith fyd-eang.鈥
Ariannwyd y gwaith hwn gan Wellcome Trust UK a North West Cancer Research UK.
I ddarllen yr adroddiad, gweler:
听
Oes modd rhagweld pryd yn union y gallai rhywun yn yr wythnosau diwethaf o ganser yr ysgyfaint farw?
Mae ymchwil newydd wedi dangos y gellir rhagweld yn gywir beth yw risg cleifion 芒 chanser yr ysgyfaint o farw ym mhedair wythnos olaf eu bywyd.