Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Y Gyflogres

Mae Adran Gyflogres y Swyddfa Gyllid wedi ei lleoli yn Ystafell 008, Cae Derwen.Ìý


Caiff pedair chyflogres eu rhedeg bob mis (Staff Cyflogedig, Staff Achlysurol, , Y Ganolfan Datblygu Rheolaeth ac M-SPARC). Mae Adran y Gyflogres yn cydweithio’n agos â'r Adran Adnoddau Dynol, sy'n rhoi cyfarwyddwyd i Adran y Gyflogres ynglŷn â staff newydd, staff sy'n gadael a newidiadau i gontractau. Mae Adran y Gyflogres yn gofalu am fewnbynnu data gan adrannau ac am gyfrifo cyflogau, treth, yswiriant gwladol, cyfraniadau pensiwn, tâl salwch statudol, tâl mamolaeth statudol, gorchmynion atafaelu cyflog a didyniadau a lwfansau eraill.


Os ydych yn cysylltu ag Adran y Gyflogres, dylech fod yn ymwybodol, er mwyn diogelu data cyfrinachol, na fyddant efallai yn gallu trafod unrhyw beth â chi heb gael cadarnhad o bwy ydych megis cadarnhau manylion personol a gedwir yn y system gyflogres neu weld cerdyn adnabod.

Ìý