Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Fy ngwlad:

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ

Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yma ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.

Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.

Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth

Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.

Gwyliwch ein fideo

Llongyfarchiadau ar gael lle i astudio gyda ni ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Fy enw i ydi Peredur Webb-Davies a dwi'n Darlithio mewn Ieithyddiaeth.

Dwi'n rhan o adran lle mae pawb yn astudio Ieithyddiaeth - Linguistics, neu Iaith Saesneg neu Ddwyieithrwydd. Da ni o dan ysgol fwy lle mae pawb yn yr ysgol yn astudio Iaith, Diwylliant a helfyddydau.

Fel myfyriwr efo ni yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf mi fyddi di yn dysgu am beth ydi iaith a sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio. Fyddi di yn edrych ar amrywiaeth iaith, hanes iaith a manylion gramadeg iaith, sut i ddisgrifio strwythur geiriau a sain iaith.

Mae Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ yn le gwych i astudio mai'n ddinas fach a chyfeillgar ac mae wrth gwrs yn ddwyieithog a Chymreig iawn. Felly da ni'n edrych ymlaen iawn i dy weld di yma yn fuan. Llongyfarchiadau eto a hwyl fawr.

Cwestiynau Cyffredin

Mewn wythnos arferol, bydd gennych gydbwysedd o ddysgu strwythuredig a hyblyg, gydag 8-12 o oriau cyswllt ym mlwyddyn 1 a 2, ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer astudio annibynnol. Yn ogystal â sesiynau wedi eu hamserlennu, byddwch yn gallu cyfarfod â chyd-fyfyrwyr gyda diddordebau tebyg (fel Cymdeithas Ieithyddiaeth Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ), yn ogystal ag aelodau staff yn ystod eu horiau swyddfa.

Gall oriau cyswllt amrywio pob wythnos yn dibynnu ar eich cwrs penodol, eich blwyddyn astudio a chyfuniad y darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Ar gwrs gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth arferol, mae myfyrwyr fel arfer yn cael tua 8-12 o oriau cyswllt bob wythnos yn eu blwyddyn gyntaf a'u hail flwyddyn.

Na, nid oes rhaid bod yn rhugl mewn ail iaith fel arfer, ond gall fod yn fuddiol, yn enwedig i raglenni TEFL. Mae llawer o raglenni ieithyddiaeth yn cynnwys cyrsiau iaith rhagarweiniol neu fodiwlau a all helpu myfyrwyr i ddeall gwahanol strwythurau ieithyddol yn well.

Gall graddedigion fynd i weithio mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys cyfieithu, ymchwil ieithyddiaeth, cyhoeddi, therapi lleferydd, geiriaduraeth, ysgrifennu cynnwys, cyfathrebu, y cyfryngau, addysgu (TEFL, TESOL) a chwmnïau technoleg sy'n arbenigo mewn prosesu iaith naturiol (NLP). Bydd y radd yn eich arfogi gydag amrywiaeth eang o sgiliau sy'n ofynnol mewn llawer o wahanol lwybrau gyrfa - ymhell y tu hwnt i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag iaith Saesneg ac ieithyddiaeth.

Mae gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yn canolbwyntio ar astudio iaith ei hun, gan ganolbwyntio ar ymchwil, dadansoddi a deall sut mae iaith yn cael ei llunio a'i defnyddio mewn cyd-destunau amrywiol.

Pam dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ?

Eich camau nesaf

Cwad mewnol Prif Adeilad y Brifysgol

Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr

Hyd yn oed os rydych wedi bod i Ddiwrnod Agored ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ, byddwch yn elwa o ddod i Ddiwrnod i Ymgeiswyr. Bydd yn rhoi profiad gwahanol sydd wedi ei deilwro i chi - cewch fynd i sesiwn blasu a chael mwy o fanylion am eich pwnc.

Myfyrwyr yn siarad ac ymlacio yn Barlows, Pentref Myfyrwyr y Santes Fair

Gwneud ffrindiau cyn cyrraedd y campws

CampusConnect, ein ap ar gyfer deiliaid cynnig, yw'r ffordd orau i gysylltu â myfyrwyr eraill sydd ar yr un cwrs â chi ac yn aros yr un llety. Mae'n ffordd wych o wneud ffrindiau a chael cyngor am y Brifysgol cyn dod yma. Edrychwch ar eich e-byst am fanylion mewngofnodi.Ìý Ìý

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Gwneud cais am lety

Rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ ar UCAS erbyn Dydd Iau, 29 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 2 Medi 2024.

Myfyrwyr yn siarad tu allan i'r brifsysgol

Mwy o wybodaeth i Ymgeiswyr

Ewch i'r tudalennau Gwybodaeth i Ymgeiswyr sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth rydych angen wybod am eich cais a sut i baratoi ar gyfer prifysgol.
Ìý

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

SGWRSIWCH EFO'N MYFYRWYRÌý

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

Sgwrsiwch gyda darlithydd