Mae Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 unwaith eto'n arwain y maes o ran datblygu adnoddau dysgu dwyieithog wrth gyhoeddi elyfr amlgyfrwng ar Anghydraddoldeb Cymdeithasol mewn partneriaeth 芒'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'n cynnwys ystadegau ar sut y mae pandemic COVID-19 wedi amlygu rhai o'r anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n bodoli yng Nghymru, a rhai o'r ymyriadau sy'n cael eu rhoi mewn lle i fynd i'r afael 芒 hwy. Y
n 么l Llywodraeth Cymru, roedd 24% o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2015-16 a 2017-18, sef mwy na 1 ym mhob 5 o boblogaeth Cymru, ac mae lefel tlodi yng Nghymru yn uwch na'r cyfartaledd tlodi yn y DU, gyda dim ond Llundain 芒 lefelau tlodi uwch na Chymru.
Yr awduron gyda'r adnodd newydd
Yn dilyn cyflwyniad byr ar sut mae anghydraddoldeb cymdeithasol yn cael ei drafod o fewn cymdeithaseg, mae'r elyfr yn archwilio ffactorau sy'n dylanwadu ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac yn darparu dolenni i'r ystadegau diweddaraf o Gymru.
Mae'n cyflwyno pynciau fel contractau di-oriau (zero hours) a'r angen gynyddol i ddefnyddio banciau bwyd nid yn unig gan unigolion di-waith, ond hefyd gan nifer o bobl sy'n gweithio, pwnc sy'n faes ymchwil i Dr Hefin Gwilym o Brifysgol 香港六合彩挂牌资料.
Mae hefyd yn tanlinellu'r ffordd y mae cymdeithas yn herio anghydraddoldebau cymdeithasol drwy ymgyrchoedd fel Bywydau Du O Bwys/Black Lives Matter.
Gan fynd i'r afael 芒'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol, mae'r adnodd yn nodi gwaith gan academywr eraill ym Mangor (ap Gruffudd et al) ar y berthynas rhwng cyrhaeddiad addysgol a thlodi mewn ardaloedd gweldig yng Nghymru.Mae'r ymchwil yn nodi bod ceisio taclo tlodi yng Nghymru yn gymhleth, ac yn gofyn ystyried nifer o bethau fel materion diwyddliannol, uchelgais rhieni, diwylliant budd-daliadau a'r ffaith bod nifer o rieni yn gweithio oriau hir mewn swyddi gyda th芒l isel, ac yn argymell nifer o ffyrdd i gefnogi plant a chynyddu cyrhaeddiad addysgol.
Mae'r elyfr Anghydraddoldeb Cymdeithasol yn rhan o gyfres o adnoddau amlgyfrwng yn y Gymraeg ar gyfer rhai sy'n astudio Lefel A Cymdeithaseg ac is-raddedigion blwyddyn gyntaf ac wedi bod yn boblogaidd iawn wrth i'r myfyrwyr yma ddysgu o adref eleni.
"Mae'r adnoddau wedi eu dylunio i weithio ar sgr卯n, gyda chartwnau doniol Huw Aaron yn torri'r testun i fyny ychydig, a lincs i fideos," ychwanegai Dr Prys. "'Da ni wedi cael adborth gwych gan ysgolion drwy Gymru gyfan, gan fod 'na ddiffyg adnoddau cyfrwng Cymraeg allan 'na."
Hyd yn oed os ydi'r ysgolion yn medru dysgu Cymdeithaseg fel Lefel A yn y Gymraeg, yn aml mae'n rhaid iddynt ddefnyddio llyfrau cwrs Saesneg a tydi hynny ddim yn ddelfrydol ar gyfer yr athro na'r myfyriwr. Rwy'n credu ein bod ni gyd yn ymwybodol o'r angen i gynhyrchu adnoddau sy'n tanio'r dychymyg ac yn ysgogi ein myfyrwyr i fod yn angerddol am eu pynciau. Hefyd, mae defnyddio esiamplau am Gymru yn gwneud yr holl beth yn fwy perthnasol - a gobeithio yn annog rhagor o fyfyrwyr i gymryd diddordeb yn y maes a mynd ymlaen i yrfa yn y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.