Cynhadledd Ymchwil 脭l-radd y Gwanwyn
Cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil 脭l-radd y Gwanwyn, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, yn Pontio ddydd Sadwrn, 26 Mawrth, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Daeth nifer fawr o fyfyrwyr a staff i鈥檙 digwyddiad, yn y cnawd a thrwy Zoom.聽聽
Dechreuodd y gynhadledd gydag anerchiad croeso gan yr Athro Martina Feilizer, Deon y Coleg, a amlygodd bwysigrwydd yr ymchwil a wneir gan 么l-raddedigion y coleg a nododd fod y digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu amrywiaeth eang y gwaith ymchwil sy鈥檔 digwydd ym Mhrifysgol 香港六合彩挂牌资料.聽
Roedd rhaglen y gynhadledd yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwnnw, gyda phapurau'n ymdrin 芒 phynciau megis llenyddiaeth, y gyfraith, ieithyddiaeth, cerddoriaeth, athroniaeth, ffilm, a drama.聽 Cafodd dau bapur eu cyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg gan amlygu pwysigrwydd ymchwil yn y Gymraeg o fewn y coleg.聽 Ar ddiwedd pob papur, cafwyd trafodaeth fywiog, a bu鈥檙 trafod yn parhau dros amser cinio a thrwy gydol yr amseroedd paned.聽
Yn ystod y diwrnod hefyd lansiwyd blodeugerdd o gerddi a rhyddiaith a ysgrifennwyd gan fyfyrwyr MA yr adran Saesneg, o dan y teitl聽Sonder. Yn ogystal 芒 dosbarthu cop茂au o'r gyfrol, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddarllen ambell ddetholiad o'r gwaith a gyhoeddwyd ganddynt yn y flodeugerdd.聽
Daeth y gynhadledd i ben gyda gair o ddiolch gan yr Athro Pwyll ap Sion ac aelodau o bwyllgor y gynhadledd. Bu鈥檔 ddiwrnod o gyflwyniadau diddorol, a oedd yn adlewyrchu ansawdd uchel ac amgylchedd ymchwil amrywiol Prifysgol 香港六合彩挂牌资料.