'Llyfr Hanes y Flwyddyn' Waterstones a gyhoeddwyd gan Hanesydd o Brifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ
Yn ei lyfr newydd '', a gyhoeddwyd gan Penguin yn 2023, mae ein darlithydd Dr David Veevers wedi mynd ati i ailysgrifennu hanes y byd modern cynnar fel y’i diffinnir nid gan ehangiad a llwyddiant diarbed ymerodraeth Lloegr, ond gan ymdrechion y bobl frodorol ac an-Ewropeaidd a ddaeth i gysylltiad â hi i wrthsefyll, a hyd yn oed trechu'r Saeson.
Wedi’i enwi’n ddiweddar yn ‘Llyfr Hanes y Flwyddyn’ Waterstones, mae ‘The Great Defiance’ yn adrodd hanes yr ymerodraeth dros 300 mlynedd – o 1500 i 1800 – ac yn igam-ogamu ar draws y byd, o Fôr y Canoldir a’r Caribî, bob cam i Orllewin Affrica a Dwyrain Asia. Gan ddefnyddio cyfoeth o ffynonellau archifol, mae'r llyfr yn adrodd yn fanwl penderfyniad cadarn Penaethiaid Powhatan i gadw gwladychwyr Jamestown o hyd braich yn Virginia. Mae'r llyfr yn dod â hanes anghofiedig pobl Kalinago o'r Caribî yn fyw, a fu'n ymladd yn erbyn y Saeson am bron i ddwy ganrif, yn ysbeilio planhigfeydd siwgr ac yn rhyddhau caethweision Affricanaidd. Mae darllenwyr hyd yn oed yn ymweld â'r Tokugawa Shogun o Japan, a heliodd masnachwyr rhyfelgar o Loegr o'r wlad yn y pen draw. Yn hytrach na rheoli’r byd modern cynnar, roedd Prydain yn brwydro i wastrodi’r bobl a’r diwylliannau grymus a ffyniannus y daeth ar eu traws.
Mae Dr Veevers yn Ddarlithydd mewn Hanes Modern Cynnar yma ym Mhrifysgol Ïã¸ÛÁùºÏ²Ê¹ÒÅÆ×ÊÁÏ. Mae llawer o’r modiwlau y gallwch ddewis eu hastudio yn Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn seiliedig ar yr ymchwil a wnaeth ar gyfer ei lyfr. Yn ‘The Tudor Conquest of Ireland’, gallwch archwilio hanes trefedigaeth gyntaf un Lloegr, a sut y daeth concwest Iwerddon i benllanw gyda’r rhyfel mwyaf a ymladdodd Lloegr erioed yn yr unfed ganrif ar bymtheg, buddugoliaeth gostus a wthiodd Loegr Elisabeth at erchwyn distryw ac arweiniodd at ddinistr Iwerddon. Yn yr un modd, yn 'Emperors, Shoguns, and Trading Companies', bydd myfyrwyr yn astudio hanes anghofiedig Asia yn yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, pan gyfarfu'r newydd-ddyfodiaid Ewropeaidd ag ymerodraethau mwyaf pwerus ac economïau cyfoethocaf y byd, gan orfodi'r Saeson i sylweddoli y daethant o wlad lom a thlawd braidd mewn cymhariaeth!
Gwrandewch ar Dr Veevers yn trafod ei lyfr yn y podlediad.Ìý