Sefydlwyd y Ganolfan Astudiaethau Pentecostaidd a Charismataidd (CPCS) yn 2001 o dan gyfarwyddyd Dr William K. Kay. Hon oedd y ganolfan brifysgol gyntaf yn y Deyrnas Unedig a neilltuwyd yn benodol i astudiaeth academaidd y mudiadau Pentecostaidd a Charismataidd. Ers ei sefydlu, nodweddwyd y CPCS gan arweinyddiaeth weledigaethol ac arloesol a oedd yn ceisio sefydlu a sicrhau perthnasoedd cydweithredol ar draws ehangder byd-eang y mudiadau enfawr hyn a fyddai鈥檔 sicrhau bod hyfforddiant ar gael ar y lefel academaidd uchaf i aelodau ei etholaeth ac eraill sydd 芒 diddordeb yn y traddodiadau hyn sydd ar gynnydd. Drwy waith arloesol Dr Kay, daeth y Ganolfan yn adnabyddus am ei phartneriaethau niferus 芒 cholegau addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, Ewrop, Singap么r, Ynysoedd y Philipinau a'r Unol Daleithiau. Yn 2008 ymunodd yr Athro John Christopher Thomas 芒'r CPCS fel y Cyfarwyddwr Cysylltiol.
Yn ystod haf 2009, cynhaliodd y CPCS gynhadledd ryngwladol ar gampws Prifysgol 香港六合彩挂牌资料 wedi'i neilltuo i 'Eglwyseg Bentecostaidd'. Yn amrywiol o ran rhyw, hil, cenedligrwydd, ymlyniad enwadol, a disgyblaeth academaidd, archwiliodd yr ysgolheigion a oedd wedi dod ynghyd, greu Eglwyseg Bentecostaidd o amgylch them芒u diwinyddol y gymuned a ryddhawyd, y gymuned sanctaidd, y gymuned wedi'i grymuso, y gymuned therapiwtig, a'r gymuned eschatolegol. Canlyniadau gwaith yr ysgolheigion hyn o chwe chyfandir gwahanol oedd cyhoeddi papurau'r gynhadledd yn JC Thomas (gol.), Toward a Pentecostal Ecclesiology: The Church and the Fivefold Gospel (Cleveland, TN: CPT Press, 2010), gwaith sydd wedi'i fabwysiadu fel gwerslyfr mewn llawer o sefydliadau ledled y byd. Yn fuan ar 么l y gynhadledd hon, gadawodd Dr Kay Fangor i swydd Athro ym Mhrifysgol Glynd诺r, a gofynnwyd i'r Athro Thomas ddod yn Gyfarwyddwr y CPCS. Yn 2013 ymunodd yr Athro Frank D. Macchia 芒'r CPCS fel Cyfarwyddwr Cysylltiol.
Parhaodd arweinyddiaeth CPCS i fod yn ystwyth wrth i flaenoriaethau gwleidyddol a sefydliadol newid dros y blynyddoedd. Wrth i bartneriaethau ffurfiol ddod i ben yn raddol, parhaodd ysbryd cydweithredol y Ganolfan, er ei fod ar ffurf wahanol. Ar hyn o bryd, mae llawer o waith y Ganolfan yn cael ei wneud mewn cydweithrediad 芒'r Ganolfan Diwinyddiaeth Bentecostaidd - canolfan ymchwil wedi'i lleoli ar gampws y Pentecostal Theological Seminary yn Cleveland, TN - gyda goruchwylwyr yn dod o nifer o sefydliadau addysg, yn cynnwys Yr Athro Robby Waddell a'r Athro Chris E.W. Green.