Defnyddio a datblygu technolegau newydd i wella iechyd a pherfformiad pobl
Rhannwch y dudalen hon
Mae鈥檙 Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol yn defnyddio technoleg i asesu'r ymatebion ffisiolegol ymddygiadol ac integreiddiol i ddeall a gwella perfformiad, iechyd a lles pobl yn well. Er enghraifft, rydym wedi datblygu apiau a llwyfannau ar-lein yn ddiweddar i alluogi ymarfer corff, presgripsiwn diet ac adsefydlu, a monitro o bell wedi eu teilwra i鈥檙 unigolyn.
Mae ein cyfleusterau ymchwil yn cynnwys labordai ffisioleg gardiofasgwlaidd, labordai integreiddiol, labordai EEG, labordai ffisioleg ymarfer corff (dau gyda siambrau amgylcheddol thermol ac efelychu uchder), ac ystafell ddelweddu magnetig gyda sganiwr 3 Tesla dan ofal Uned Ddelweddu 香港六合彩挂牌资料.
Rydym hefyd yn defnyddio'r cyfleusterau hyn a'n harbenigedd ffisioleg i helpu i ddatblygu technolegau newydd. Mae'r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud gyda phartneriaid yn y diwydiant ac mae wedi cynnwys tystiolaeth o gysyniad a phrofi a datblygu cynnyrch. Mae gennym hefyd brofiad o ddatblygu dulliau digidol o fonitro ar-lein ac yn symudol.
听
Uchafwnyntiau
Gweithio gyda Salaso, Rhwydwaith Geltaidd Arloesi Gwyddorau Bywyd Uwch i ddatblygu a dilysu llwyfan ar-lein i gefnogi hyfforddiant gweithgaredd corfforol fel therapi atodol rhaglen golli pwysau Bwyta'n Iach GIG Cymru.
Gweithio gyda gwneuthurwr ffonau clyfar a鈥檙 Brifysgol Agored, y Gatekeeper Project, i ddatblygu ap gweithgaredd corfforol a maeth gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i deilwra cyngor a roddir i gleifion sy'n gwella o ganser.
Datblygu dulliau anfewnwthiol o fonitro hydradiad.
Pennu canllawiau adrodd rhyngwladol ar gyfer astudiaethau sbectrosgopeg cyseiniant magnetig (MRS).
Helpu i ddiffinio a datblygu estyniad strwythur cyfeiriadur gwybodeg yr ymennydd ar gyfer data MRS, yn enwedig MRS gweithredol. Mae hwn yn gyfeiriadur data gwyddoniaeth agored i ganiat谩u rhannu data MRS ar draws grwpiau ymchwil mewn strwythur safonol.
Defnyddio hypocsia i ddeall a datblygu technegau delweddu cyseiniant magnetig newydd.
Gwerthuso dulliau cludadwy cyn-ysbyty o drin cleifion oer.
Defnyddio dull hyfforddi newydd i ddylanwadu ar ddewis pobl o ddwyster ymarfer corff.