Yn 2022,聽cynhaliodd y brifysgol ei phrynhawn iechyd a lles cyntaf i aelodau staff.
Yna gwahoddwyd staff drwy'r bwletin hwn i lenwi arolwg byr. Cyflwynwyd gwerthusiad llawn o'r adborth a dderbyniwyd i Bwyllgor Gweithredu鈥檙 brifysgol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad
Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn i鈥檙 prynhawn iechyd a lles gan y rhai a lenwodd yr arolwg, gydag 86% yn ei ddisgrifio fel rhywbeth eithaf defnyddiol neu hynod ddefnyddiol.
Er bod gweithgareddau wedi eu cynllunio ar gael, dewisodd lawer o鈥檙 staff ddewis gweithgaredd eu hunain ar gyfer y prynhawn. Roedd nifer o ymatebion cadarnhaol yn dangos bod cael y rhyddid i ddewis sut i dreulio amser yn cael ei ystyried yn werthfawr gan lawer. Roedd atebion manwl yn dangos mai amser cymdeithasol, symud neu ymarfer corff o ryw fath neu orffwys ac ymlacio oedd y gweithgareddau mwyaf poblogaidd, er enghraifft:
- Es i am jog
- Es i am dro yn y mynyddoedd ar fy mhen fy hun, am y tro cyntaf ers blynyddoedd - roedd y gweithgaredd hwn yn fuddiol ar sawl lefel
- Taith gerdded hir ar hyd yr arfordir
- Tylino鈥檙 traed
- Dewisais wneud ychydig o arddio ac yna ymlacio yn yr ardd yn y tawelwch
- Wedi cymryd amser i fyfyrio - wedi cael rhywfaint o amser "fi"
- Mynd am bicnic yn Nhreborth a thynnu lluniau
- Es i ar fy meic am reid 11 milltir
- Codais fy merch o'r Clwb ar 么l Ysgol yn gynnar. Tr卯t i'w groesawu'n fawr i'r ddau ohonom
- Darllen ar fy mhen fy hun mewn caffi awyr agored
Ni chafwyd unrhyw sylwadau negyddol gan y rhai a roddodd adborth ar gymryd rhan, ond roedd ymatebion niwtral/negyddol i鈥檙 arolwg yn ymwneud ag anawsterau wrth neilltuo amser i gymryd rhan.
Dywedodd Anna Quinn, Rheolwr Project Iechyd a Lles, 鈥淩ydym yn ddiolchgar iawn i鈥檙 rhai a gymerodd yr amser i lenwi鈥檙 holiadur a rhoi eu hadborth i ni am y prynhawn iechyd a lles. Mae鈥檙 adroddiad yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn gymorth i ni wrth drefnu digwyddiadau yn y dyfodol, gan gynnwys yr amrywiaeth o weithgareddau a gynigir, sut rydym yn sicrhau bod cymaint o bobl 芒 phosib yn cael gwybod amdanynt, a sut mae unigolion yn cael eu cefnogi i gymryd rhan, naill ai ar y diwrnod neu ar ddiwrnod sy鈥檔 gyfleus i鈥檞 hamserlen waith hwy.鈥