香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:

Adneddau ar Ucheldiroedd Dwyrain y Carneddau

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'The Abandoned Upland Settlements of the Eastern Carneddau'

Ymchwilydd doethurol:聽Anna Reynolds

Goruchwylir gan:聽Dr Shaun Evans a Dr Mari Wiliam聽

Mae ucheldiroedd Dwyrain y Carneddau, o blwyf Gyffin yn y gogledd i blwyf Llanrhychwyn yn y de, wedi'u gwasgaru gan gartrefi a ffermydd a adawyd yn wag yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Bydd yr ymchwil hon yn ceisio dod 芒 chymuned a bywydau'r aneddiadau hyn at ei gilydd rhwng c. 1700 a chanol yr 20fed ganrif, gan ddarganfod pam y daethant yn gartrefi parhaol a sut y defnyddiwyd y trigfannau hyn, gan ymchwilio i fywydau鈥檙 trigolion, a pham y bu iddynt fethu yn y diwedd fel lleoedd hyfyw i fyw ynddynt. Pa un a ddechreuodd yr aneddleoedd a'r ffermydd hyn fel hafodau i ffermydd yr iseldir yn yr oesoedd canol, neu fel tai sgwatwyr a godwyd i liniaru prinder tai a thir yn y ddeunawfed ganrif a鈥檙 bedwaredd ganrif ar bymtheg, y thema gyffredin yw eu diflaniad ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, pan ddiflannodd cymuned gyfan.

Adfail bwthyn ar ochr mynydd
Golygfa o Tyddyn Grasod ym Mhlwyf Gyffin o'r de.

Yn ystod eu bywydau, fodd bynnag, cartrefi i gymunedau yn hytrach nag unigolion oedd y lleoedd hyn. Trwy dystiolaeth cofnodion plwyf, papurau stad, papurau newydd cyfoes, a ffynonellau archifol eraill, bydd yr ymchwil yn ceisio darganfod mwy am sut roedd y cymunedau hyn yn bodoli a sut roedd unigolion yn rhyngweithio 芒'i gilydd. Pa mor gysylltiedig oedd y cymunedau hyn gyda chymunedau鈥檙 iseldir ac ardaloedd ymhellach i ffwrdd? Beth oedd effaith y mewnlifiad o fewnfudwyr, yn enwedig mewnfudwyr di-Gymraeg, wrth i chwareli llechi, newidiadau mewn rheolaeth ystadau, a thwf projectau trydan d诺r newid y ddemograffeg yn yr ardal? A oedd trigolion yr ucheldir yn byw mewn tlodi truenus neu gynhaliaeth gyfforddus? Beth oedd effeithiau twf addysg orfodol a鈥檙 cynnydd graddol mewn Saesneg fel iaith lafar mewn cymuned o siaradwyr Cymraeg uniaith gynt? A roddodd twf addoliad anghydffurfiol fwy o annibyniaeth ac ymreolaeth i ucheldirwyr cyn tranc terfynol y cymunedau hyn? Ar ddiwedd yr ymchwil, y gobaith yw y bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb, ac y ceir darlun llawnach o fywyd ucheldir y Carneddau.

Gweithgarwch diweddar:聽Cyflwyniad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ddinesig Dyffryn Conwy ym mis Gorffennaf 2024.