Mae gwaith Dr. J. Gwilym Owen ar hanes cyfreithiol Cymru yn cynnwys ffocws ar gydfodolaeth a chydadwaith cyfraith Cymru a Lloegr yng Nghymru’r oesoedd canol hwyr a Chymru’r Tuduriaid.
Dros nifer o flynyddoedd, ac mewn nifer o gyhoeddiadau, mae Dr. Owen wedi defnyddio cofnodion ystadau fel lens sy'n rhoi mewnwelediad newydd i arferion cyfreithiol newidiol yng Nghymru yn y cyfnod c.1400-1600. Dengys ei ymchwil gyfuniad o gyfraith tir frodorol Cymru (sy’n deillio o Gyfraith Hywel) â chyfraith gwlad Lloegr, sy'n dangos bod boneddigion gogledd Cymru yn y cyfnod canoloesoedd hwyr a Tuduraidd yn gweithredu mewn amgylchedd cyfreithiol lle roedd egwyddorion cyfraith tir Cymru, yn seiliedig ar gweithrediad cyfran a gwelyau er enghraifft, yn bodoli ochr yn ochr â ffurfiau o gyfraith Lloegr yn ymwneud â deiliadaeth tir, setliad ac etifeddiaeth – hyd yn oed ar ôl deddfwriaeth y Ddeddf Uno.
Gan weithio’n agos gyda’r archifydd Peter Foden, mae Gwilym wedi cynnal dadansoddiad manwl o arferion setlo ac anghydfodau etifeddiaeth ar ystâd y Penrhyn, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes Cyfreithiol Cymru fel At Variance: The Penrhyn Entail.