Teitl y prosiect:Â 'An Analysis of Country House Interpretation in Wales'
Goruchwylir gan:Â Dr Shaun Evans a Dr Karen Pollock
Cefnogir yr ymchwil gan: Cefnogir ymchwil Matthew gan ddwy ysgoloriaeth gan .
Mae ymchwil Matthew yn ceisio casglu gwybodaeth, deall a chyfrannu at ddehongliad plastai yng Nghymru. Ei nod yw asesu safle plastai yn strategaethau treftadaeth a thwristiaeth Cymru heddiw, ac mewn perthynas â diwylliant a hunaniaeth Cymru, gan asesu eu harwyddocâd yn y gymdeithas fodern.
Mae plastai yng Nghymru yn bodoli mewn sawl ffurf, fel cartrefi teuluol, atyniadau treftadaeth llawn-amser, mentrau masnachol, megis bwytai, gwestai a lleoliadau priodas, ac adfeilion – ac yn aml cânt eu defnyddio mewn cyfuniad o’r ffyrdd uchod. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar ddehongli treftadaeth ar draws y sbectrwm hwn – sut caiff y lleoedd hyn eu cyflwyno a’u marchnata, a pha agweddau ar eu hanes a dynnir sylw ymwelwyr a chynulleidfaoedd cyhoeddus atynt. Mae’n ceisio nodi themâu a heriau allweddol, hanesion o lwyddiant a methiant a chynnig arweiniad ar gyfleoedd ac arfer gorau at y dyfodol. Caiff hyn ei ddatblygu trwy gyfuniad o ymweliadau safle, cyfweliadau â pherchnogion, curaduron ac ymwelwyr, asesiadau o ddeongliadau ar-lein a holiaduron i fesur barn y cyhoedd.
Mae’r ymchwil hwn yn arwyddocaol oherwydd y caiff llawer o’r llenyddiaeth academaidd a threftadaeth ynglÅ·n â phlastai yng ngwledydd Prydain ei chyflwyno o safbwynt Seisnig, er gwaethaf y cyfraniadau nodedig a wnaed gan y lleoedd hyn at lunio’r Gymru gyfoes trwy ddylanwadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol eu perchnogion. Oherwydd nifer y plastai a gollwyd yng Nghymru yn ystod yr 20fed ganrif, nifer yr adfeiliau sydd ‘mewn perygl’ ar hyn o bryd, a nifer gymharol isel y plastai sy’n gweithredu fel atyniadau treftadaeth llawn-amser yng Nghymru, mae’n bosib bod diffyg ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd hanesyddol a’u harwyddocâd i dreftadaeth ddiwylliannol. Mae’r project hwn yn edrych ar ddyfodol plastai ym maes treftadaeth a thwristiaeth. Mae’n dadlau eu bod yn rhan arwyddocaol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, ac yn gallu gweithredu fel canolfannau i gyfleu gwybodaeth bwysig am hanes lleol, hanes Cymru, hanes Prydain a hanes y byd.Â
Newyddion Diweddaraf:
Yn 2024 penodwyd Matthew yn Swyddog Treftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych. Yn y rôl hon mae'n gweithio i ceisio cynyddu'r nifer o ymwelwyr ar draws safleoedd treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych.