香港六合彩挂牌资料

Fy ngwlad:

Hugh Davis

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr?听Yn wreiddiol o Swydd Hertford, ond roedd caethiwed i ddringo creigiau wedi fy ngorfodi i gyrraedd Eryri o gartref pan oeddwn yn 14 oed. Flwyddyn ar 么l graddio mewn Astudiaethau Busnes a gweithio yn Llundain, fe wnes i roi鈥檙 gorau iddi a gweithio'n lleol fel paciwr parseli i gwmni a oedd yn gwneud offer dringo. Ddwy flynedd yn ddiweddarach penderfynais ymbarchuso (ydw i'n clywed wfftio mewn dirmyg?) a phenderfynais ddod yn gyfreithiwr, gan gymhwyso yn 1976! Anghredadwy. Dwi鈥檔 dal ym Mangor yn gweithio fel cyfreithiwr.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol?听鈥淏laendraeth Prydain 鈥 amser i Ystad y Goron ollwng gafael, a materion eraill鈥.听

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil?听Anodd 鈥 dwi'n hoffi meddwl fy mod i鈥檔 polymath. Ond nid mathemateg, nac unrhyw wyddorau鈥.

Ymchwilydd Doethurol Hugh o flaen baner ISWE.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol?听Ydych chi'n eistedd yn gyfforddus? Wel, wedi graddio mewn astudiaethau busnes, a gweithio yn Llundain, yn ddringwr creigiau brwd, wedi cael swydd ger 香港六合彩挂牌资料 fel paciwr parseli, ddwy flynedd yn ddiweddarach yn meddwl am yrfa o bosib (felly ddim yn ddringwr creigiau gwych wedi'r cyfan鈥.), meddwl y byddwn i'n gyfreithiwr, Rhan I trwy gwrs gohebiaeth, erthyglau am ddwy flynedd (am 拢3 yr wythnos - rhyfeddol faint o labro adeiladu y gall rhywun ei wneud), yna Rhan II (llwyddo tro cyntaf - brolio) yna gweithio (ac yn dal i wneud) fel cyfreithiwr ym Mangor. Wedi bod yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth (Sifil), yn ddarlithydd rhan amser flynyddoedd yn 么l ac eto yn ddiweddar. O, 39 mlynedd efo鈥檙 criw Achub Mynydd, Cymwys fel Notari Cyhoeddus (beth, 鈥榙a chi'n gofyn?), wedi gwneud LLM ar 么l i'm corff fy ngwrthod am ddringo creigiau, a sylweddoli fy mod i'n caru ychydig o'r byd academaidd. Mewn dwy flynedd mi fydda鈥檌 wedi cymhwyso ers 50 mlynedd! Ond y sbardun oedd mab 芒 PhD, brawd 芒 PhD, tad a fyddai wedi cael ei PhD yntau petai canser heb gael y gorau arno, merch-yng-nghyfraith D.Phil, ac sydd bellach yn athro cysylltiol yn Rhydychen. Os medran nhw ei wneud, siawns y medraf innau.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol?听Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn hyfryd! Mae'n bennaf yn llawn o gydweithwyr nad ydynt yn rhy ifanc, felly nid wyf yn cael fy nychryn gan bobl sydd wedi llwyddo鈥檔 gymharol ifanc. Mi wnes i landio yno (dwi'n falch o ddweud yn hapus). Mae fy nhraethawd ymchwil yn deillio o frwydr galed gydag Ystad y Goron dros ryw flaendraeth ym Mangor yn rhinwedd fy r么l fel ymddiriedolwr Stad y Penrhyn.听

Beth yw鈥檙 hyn yr ydych wedi鈥檌 gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno 芒 Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru?听Goroesi.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham?听O na! Pob un ohonynt. Rwyf wrth fy modd ag eglwysi cadeiriol canoloesol a鈥檜 hanes cymdeithasol, llu o gerddoriaeth glasurol o Bach i Verdi, oes yr Ymoleuo, gallwn i fynd ymlaen.

Eich hoff le yng Nghymru a pham?听Mynyddoedd Eryri, ond yn awr yn arbennig Moel Eilio lle mae llwch fy mab wedi鈥檜 gwasgaru.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar?听Nefoedd, na. Gormod! Rwyf wrth fy modd ag eglwysi cadeiriol canoloesol a鈥檜 hanes cymdeithasol, llu o gerddoriaeth glasurol o Bach i Verdi, oes yr Oleuedigaeth, gallwn fynd ymlaen.

Beth yw eich hob茂au neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill?听Yn y b么n selogyn dringo sy'n methu dringo. Felly teithio, gan fwynhau hanes, bwyd a diwylliant Ewropeaidd (gwraig yn dweud, 鈥渆fo fi鈥). Ydw i'n ychwanegu Heddwch y Byd?

Cysylltwch 芒听Hugh:

hgd21kqf@bangor.ac.uk